Os ydych yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, neu fe hoffech wneud hynny yn y dyfodol, mae’n hollbwysig bod yn hyderus ynglŷn â sut i recriwtio, rheoli a dal gafael ar eich gwirfoddolwyr.

Heb os, mae gwirfoddoli yn cynnig buddion lu – mae’n cryfhau cymunedau, yn agor y drws at brofiadau newydd a chyfleoedd gwell i’ch gyrfa, yn llenwi bylchau mewn gwasanaethau ac yn gwella iechyd meddwl, i enwi dim ond rhai.

Ar ben hyn oll, heb amser ac ymroddiad gwerthfawr gwirfoddolwyr fydden ni ddim yn gallu dal ati yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud. Felly sut ydym yn eu cyrraedd? Ac unwaith rydym wedi’u denu, sut ydym yn dal gafael arnynt? Nod ein cyrsiau gwirfoddoli yw dangos i chi sut.

Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar wirfoddoli ar gael yn ein hadran gwirfoddoli.

Hyfforddiant cyn hir

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.