Os ydych wir am wneud gwahaniaeth fel mudiad trydydd sector mae angen i chi fod yn gwerthuso ac yn dysgu drwy’r amser – asesu’r hyn a wnaethoch yn dda, yr hyn a allai fod yn well, a’r hyn y byddwch yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf.
Nid yn unig y mae mesur effaith yn hybu’ch effeithlonrwydd ond mae hefyd yn rhoi tystiolaeth gadarn i chi ei chyflwyno i gyllidwyr. Bydd y cyrsiau isod yn eich arwain drwy wahanol ddulliau i fesur effaith a gwerthuso fel y gallwch wireddu amcanion eich mudiad.