Gyda phethau fel y maent, gall cynhyrchu incwm i’ch mudiad deimlo’n gynyddol heriol, wrth i gyfleoedd am gyllid ymddangos yn brinnach bob blwyddyn.
Yn ein rhaglen ddysgu ynglŷn â chyllido, byddwn yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau i gynllunio strategaeth, codi arian a chael at gyfleoedd am gyllid o ffynonellau amrywiol.
Mae porth cyllido WCVA hefyd yn cynnig gwybodaeth a all fod o gymorth i chi.