Archebion
Anfonir cyfarwyddiadau ymuno cyn y cwrs hyfforddi/gweminar yn cadarnhau’r dyddiad, yr amseroedd dechrau/gorffen, y lleoliad a chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd.
Cysylltwch a ni ar training@wcva.cymru neu 0300 111 0124 os nad ydych wedi cael y cyfarwyddiadau ymuno o leiaf wythnos cyn y cwrs hyfforddi/gweminar.
Ffioedd
Mae ffioedd cyfranogwyr yn cyfrannu tuag at gostau cynnal y cwrs gan gynnwys gweinyddu, y lleoliad, treuliau’r hyfforddwr a deunyddiau a ddarperir gan CGGC.
Ar gyfer cyrsiau achrededig, bydd y ffioedd hefyd yn cynnwys cinio ar holl ddyddiadau’r cwrs. Codir ffi ychwanegol ar gyfranogwyr sy’n cofrestru i gwblhau’r broses asesu.
Ffioedd cwrs ar-lein
| Hyd y cwrs | Partner Sector Gwirfoddol CGGC | Partner Ymgysylltiedig CGGC |
Eraill |
| Hanner diwrnod | £50 | £65 | £72 |
| Dau hanner diwrnod | £96 | £126 | £140 |
| Cyrsiau hirach | £125 | £167 | £186 |
Ffioedd cyrsiau dosbarth
| Hyd y cwrs | Partner Sector Gwirfoddol CGGC | Partner Ymgysylltiedig CGGC | Eraill |
| Hanner diwrnod | £70 | £90 | £100 |
| Un diwrnod / Dau diwrnod | £135 / £180 | £176 / £235 | £195 / £270 |
| Cyrsiau achrededig | £410 | £480 | £530 |
Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant
- Profwch eich mynediad Zoom/Teams cyn mynychu
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad (ar-lein)
- Cyrhaeddwch 15 munud yn gynnar – i gael lluniaeth a chofrestru (ystafell ddosbarth)
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL))
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)
Polisi canslo
Cyffredinol
- Dim onddrwy hysbysiad ysgrifenedigy gellir canslo neu ohirio
- Pe bai CGGC yn canslo cwrs hyfforddi rhoddir ad-daliad llawn
- Pe bai cyfranogwr yn canslo neu’n gohirio, codir y ffioedd canlynol:
- 22 ddiwrnod neu fwy cyn y digwyddiad – dim ffi
- 15-21 diwrnod cyn y digwyddiad – 50 y cant o ffi’r cwrs
- 14 diwrnod neu lai (neu os nad ydych yn dod i’r cwrs ar ôl cadw lle) – 100 y canto ffi’r cwrs
Wrth gadw lle yn un o gyrsiau hyfforddi CGGC rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau uchod.
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Yr ICO) o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR), a’i deilwra gan Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Gweler hysbysiad preifatrwydd hyfforddiant a digwyddiadau CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth.