Hyfforddiant i elusennau, mentrau cymdeithasol neu unrhyw grwpiau dielw sy’n gweithio yng Nghymru

Pam hyfforddi gyda CGGC?

Rydym yn cydnabod bod pobl yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd, felly mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau byr, dysgu achrededig, dysgu ar-lein, gweithdai a seminarau.

Mae ein holl sesiynau hyfforddi yn cael eu harwain gan arbenigwyr maes sy’n ymroddedig i werthoedd y trydydd sector yng Nghymru. Os ydych chi’n gweithio mewn elusen, mudiad gwirfoddol, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol, mae ein hyfforddiant wedi’i deilwro ar eich cyfer chi!

Beth rydyn ni'n cynnig

Porwch ein rhaglen hyfforddi yn ôl categori, neu os ydych chi'n chwilio am gwrs penodol gallwch ddefnyddio chwiliad y cwrs a'i hidlo isod.

Cyrsiau hyfforddiant

Categorïau:

Llywodraethu a diogelu , Wedi’i deilwra

Rheolaeth ariannol elusennau – Rheoli costau a chyllidebau

13 & 20 HYDREF 2026
Mae’r cwrs hwn yn galluogi cyfranogwyr i bennu cost y gwasanaethau a ddarperir gan eu mudiad, a chynhyrchu a monitro cyllidebau a llif arian parod.

Rheolaeth ariannol elusennau – Rheoli costau a chyllidebau

Llywodraethu a diogelu , Wedi’i deilwra

Rheolaeth ariannol elusennau – Gwarchod eich arian

19 & 24 TACHWEDD 2026
Mae’r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o gyfrifoldebau rheolwyr neu ymddiriedolwyr sy’n ymwneud yn benodol â gweinyddu arian yn y sector gwirfoddol a sut i warchod eich mudiad rhag colled neu gamddefnydd ariannol.

Llun: hyfforddiant ar-lein

Arwain a rheoli , Wedi’i deilwra

Tyfu i Arwain

17 TACHWEDD 2026
Magu eich hyder a’ch sgiliau ymarferol er mwyn arwain â diben, cefnogi’r tîm a gwneud gwahaniaeth positif.

man writing on a whiteboard in a meeting / Dyn yn ysgrifennu ar fwrdd gwyn mewn cyfarfod

Cyllid , Llywodraethu a diogelu

Y Tu Hwnt i’r wybodaeth sylfaenol – Cryfhau llywodraethu eich elusen

29 MEDI 2026 (SAESNEG) & 16 TACHWEDD 2026 (CYMRAEG)
Mae’r gweithdy hwn sy’n para am 3 awr ar gyfer pobl sy’n dymuno ‘codi’r gwastad’ o ran llywodraethu eu helusen a gosod targedau uchel ar gyfer eu Bwrdd neu eu pwyllgor rheoli.  

Llun: Cyfarfod â chydweithwyr

Arwain a rheoli , Wedi’i deilwra

Dod yn feddyliwr strategol gwell

2 MAWRTH 2027
Rhoi’r wybodaeth, yr adnoddau a’r technegau i chi fynd ati’n hyderus i ddatblygu gweledigaeth strategol glir.

information meeting / cyfarfod gwybodaeth

Gweld mwy o gyrsiau

Ein cyrsiau ni’n addas i chi

Chwilio am hyfforddiant mewnol neu gynnwys wedi’i deilwra ar gyfer eich sefydliad chi? Gellir darparu ein holl gyrsiau fel hyfforddiant wedi’i deilwra i fodloni anghenion dysgu eich mudiad chi. Cwblhewch ein ffurflen gais hyfforddiant pwrpasol a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Am unrhyw ymholiadau eraill e-bostiwch training@wcva.cymru.

Hwb Gwybodaeth

Graffig gyda'r geiriau Knowledge Hub, logo Cefnogi Trydydd Sector Cymru a llun yn dangos dysgwyr yn edrych ar liniadur gyda'r hyfforddwr yn edrych dros ei ysgwyddau

Mae’r Hwb Gwybodaeth newydd yn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i gael mynediad hawdd at amrediad o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu ar-lein.

Cofrestrwch am ddim

Ein prosiectau

Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Amrywiaeth Chwaraeon Cymru

Mae Amrywiaeth Chwaraeon Cymru yn grymuso cymunedau ethnig lleiafrifol Cymru drwy chwaraeon er mwyn creu dyfodol mwy disglair a chynhwysol. Dod â
Darllen mwy

Hyfforddiant a digwyddiadau |

Sylfeini ar gyfer y Trydydd Sector (F4S3)

Prosiect Ewropeaidd yw ‘F4S3’ sy’n ceisio uwchsgilio cyflogeion newydd yn y sector gwirfoddol drwy ddatblygu rhaglen hyfforddi gynefino lefel mynediad.  Mae CGGC
Darllen mwy

Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Partneriaethau Natur Lleol (PNLl) Cymru

Nid yn unig yw natur yn brydferth, ond mae hefyd yn sylfaenol i’n bywydau. Ni allwn oroesi hebddo, ond mae amgylchedd naturiol
Darllen mwy

Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

3-SET

Tîm Ewropeaidd y Trydydd Sector yw 3-SET – rydyn ni yma i gynnig cyngor a hyfforddiant i helpu’r sector gwirfoddol yng Nghymru
Darllen mwy
Darllen mwy

Telerau ac amodau

Darllenwch ein telerau ac amodau, ein polisi canslo a’n hysbysiad preifatrwydd.

F4S3 LOGO Logo gyda'r gair Erasmus+