Rydym yn cydnabod bod pobl yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd, felly mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau byr, dysgu achrededig, dysgu ar-lein, gweithdai a seminarau.
Mae ein holl sesiynau hyfforddi yn cael eu harwain gan arbenigwyr maes sy’n ymroddedig i werthoedd y trydydd sector yng Nghymru. Os ydych chi’n gweithio mewn elusen, mudiad gwirfoddol, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol, mae ein hyfforddiant wedi’i deilwro ar eich cyfer chi!