Mae Newid yn cynnal hyfforddiant sgiliau digidol am ddim i fudiadau sy’n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i grwpiau gwirfoddol ac elusennau.
**Bydd y sesiynau hyfforddi hyn yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg. Os hoffech fynychu’r cwrs yn Saesneg, cysylltwch â bookings@wcva.cymru, er mwyn cael eich ychwanegu at y rhestr aros.**
Fel rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector, rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi y bydd rhaglen hyfforddi sgiliau digidol am ddim yn cael ei chyflwyno’n fuan ar gyfer mudiadau aelodaeth, seilwaith ac ymbarél y sector gwirfoddol.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu sgiliau ac yn cael gwybodaeth ac offer a fydd yn eu galluogi i roi gwell cefnogaeth i’r mudiadau y maen nhw’n gweithio gyda nhw ar amrywiaeth eang o bynciau digidol. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys elfen hyfforddi’r hyfforddwr i sicrhau y gellir rhannu sgiliau a gwybodaeth o fewn mudiadau ac ar draws y sector gwirfoddol.
AR GYFER PWY MAE’R HYFFORDDIANT HWN?
Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i anelu at staff sy’n gweithio i fudiadau gwirfoddol sy’n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i grwpiau gwirfoddol ac elusennau eraill. Mae hyn yn cynnwys mudiadau sydd â rhwydwaith o ganghennau.
Mae mudiadau cymwys:
- Yn rhoi cyngor, arweiniad neu hyfforddiant i elusennau a grwpiau gwirfoddol eraill, neu i ganghennau o fewn yr un mudiad.
- Yn gweithio’n bennaf gydag elusennau neu grwpiau gwirfoddol.
- Eisiau gwella lefel y cyngor a chymorth digidol y maen nhw’n eu rhoi i’r elusennau y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
- Yn ystyried eu hunain yn fudiad seilwaith, aelodaeth, rhwydwaith neu ymbarél.
BETH FYDD YR HYFFORDDIANT HWN YN EI GYNNWYS?
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
- Cyfres o gweithdai byr a gyflwynir ar-lein gan arbenigwyr hyfforddiant digidol.
- Deunyddiau dysgu ar-lein cysylltiedig a chynnwys ychwanegol y cwrs.
- Adnoddau i gefnogi dysgu parhaus megis canllawiau ‘sut i’ defnyddiol.
- Sesiwn hyfforddi’r hyfforddwr.
- Cefnogaeth a chyfleoedd parhaus i rannu profiadau drwy rwydwaith digidol Cymru gyfan ar Yr Hwb Gwybodaeth.
AMSERLEN Y CWRS A MANYLION Y GWEITHDAI
Gweithdy 1 – Cyfathrebu digidol effeithiol a hanfodion cydweithio yn digidol
Dydd Gwener 17 Mehefin 2022
9.30 am – 12 pm
Yn y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn datblygu’r sgiliau i gyfathrebu’n effeithiol â phobl eraill wrth ddefnyddio platfformau digidol. Byddwn ni’n edrych ar offer cyfathrebu gwahanol ac yn ystyried rhwystrau ac anghenion hygyrchedd.
Gweithdy 2 – Dylunio profiad defnyddwyr*
Dydd Llun 20 Mehefin 2022
9.30 am – 12 pm
Yn y sesiwn ragarweiniol hon i ddylunio UX, bydd cyfranogwyr yn cael cipolwg ar yr hyn sy’n gwneud teithiau defnyddwyr yn llwyddiannus a sut i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Gweithdy 3 – Technoleg y Cyfryngau Cymdeithasol*
Dydd Gwener 24 Mehefin 2022
9.30 am – 12 pm
Yn y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn edrych ar bŵer cyfryngau cymdeithasol, a sut y gellir eu defnyddio i wella a datblygu eich presenoldeb ar-lein.
Gweithdy 4 – Datrys problemau gyda digidol
Dydd Gwener 8 Gorffenaf 2022
9.30 am – 12 pm
Yn y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn edrych ar sut y gall offer a thechnolegau digidol symleiddio a gwella tasgau pob dydd.
Gweithdy 5 – Creu prosesau digidol
Dydd Gwener 15 Gorffennaf 2022
9.30 am – 12 pm
Yn y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut y gellir defnyddio prosesau digidol i wella effeithlonrwydd arferion gwaith. Byddwn ni’n edrych ar sut i ddewis a defnyddio’r offer mwyaf effeithiol ar gyfer pob proses allweddol.
Gweithdy 6 – Cyflwyniad i Seiberddiogelwch*
Dydd Llun 18 Gorffennaf 2022
1 – 3.30 pm
Yn y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn dysgu’r pethau sylfaenol am gadw’n ddiogel fel defnyddiwr cyfrifiadur. Byddwn ni’n rhannu gwybodaeth am fygythiadau seiber cyffredin, sut i gadw cyfrifon a manylion mewngofnodi’n ddiogel, a sut i osgoi bygythiadau cyffredin, ond peryglus a sgamiau maleisus.
Gweithdy 7 – Rheoli data digidol*
Dydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022
1 – 3.30 pm
Yn y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn dod i ddeall deddfwriaeth GDPR a sut y gellir cadw gwybodaeth yn ddiogel.
Os na allwch chi ddod i sesiwn, bydd recordiadau o’r gweithdy ar gael i gyfranogwyr.
*Mae’r sesiwn hon yn cynnwys siaradwr gwadd arbenigol, cyflwynir y rhan yma o’r sesiwn yn Saesneg
Y CAMAU NESAF
- Cadwch eich lle ar y cwrs yn defnyddio’r ffurflen fer yma. Mae’r ffurflen ar gael yn y Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.
- Bydd cyfranogwyr yn cael dolen i gwblhau’r arolwg archwilio sgiliau ar 6 Mehefin – bydd yr archwiliad hwn yn llywio datblygiad a chynnwys yr hyfforddiant.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant, cysylltwch â bookings@wcva.cymru.
Cadwch eich lle erbyn 13 Mehefin 2022.
LLEOEDD CYFYNGEDIG
Rhaglen hyfforddi beilot yw hon gyda nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Ein nod yw cynnig lleoedd i gynifer o fudiadau â phosibl ar yr hyfforddiant hwn. Rydyn ni’n gobeithio gallu cynnig hyd at ddau le i bob mudiad. Os oes gormod o alw am y cwrs gellir adolygu nifer y lleoedd i bob mudiad a dechrau rhestr aros ar sail y cyntaf i’r felin.
Archebwch eich lle yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
BETH YW NEWID?
Rhaglen beilot gyffrous yw Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector sy’n datblygu a chefnogi sgiliau digidol y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC, wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i chefnogi gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Gellir cael gwybodaeth am waith y tri phartner drwy ddilyn y dolenni isod.
https://wcva.cymru/cy/yn-cyflwyno-newid-digidol-ar-gyfer-y-trydydd-sector/
https://cymru.coop/newid-digital-support-for-the-third-sector/