Cyhoeddi dyddiadau cyrsiau newydd ar gyfer lleoedd hyfforddi ar-lein am ddim i grwpiau cymunedol yng Nghymru a hoffai ddiogelu ac adfer natur.
Mae Nabod Natur – Nature Wise yn rhaglen hyfforddi sy’n egluro, i ddysgwyr, ffordd yr amgylchedd o weithredu, y bygythiadau y mae’n wynebu a sut y gall pawb gyfrannu at ffyniant natur. Yn dilyn llwyddiant cyrsiau’r llynedd, mae dyddiadau cwrs newydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer Mawrth, Ebrill a Mai.
Mae’r trefnwyr, Cynnal Cymru-Sustain Wales yn awyddus iawn i dargedu’r bobl hynny, megis grwpiau ffydd neu sy’n ymwneud â phrosiectau celf neu gymdeithasol, nad ydynt ar hyn o bryd yn ymwneud â gwaith amgylcheddol.
Bydd y cyfranogwyr yn datblygu eu cynlluniau gweithredu eu hunain, ac yn defnyddio eu gwybodaeth er budd bywyd gwyllt a chynefinoedd.
Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu am:
- Sut mae ecosystemau a rhywogaethau’n gweithredu, a’r berthynas rhyngddynt
- Ynglŷn â’r rôl hanfodol y mae natur yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau a deunyddiau i ni
- Sut mae’r byd naturiol yn newid a’r bygythiadau y mae’n eu hwynebu, pa amddiffyniadau sydd ar waith, a sut y gallwch ddefnyddio’r rhain i ddylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau
- Beth allwch chi ei wneud i ddiogelu ac adfer natur – naill ai ar eich pen eich hun neu fel rhan o grŵp
- Sut i ysgogi ac ysbrydoli eraill i weithredu
Bydd y rhai sy’n llwyddo ar y cwrs yn derbyn tystysgrif, a bydd cysylltiad dilyn-i-fyny yn eu helpu i barhau i wneud cynnydd, a rhannu eu syniadau er mwyn ysbrydoli eraill.
Cynhelir y cyrsiau arlein yn fisol o fis Mawrth 2022, a bydd y cyfranogwyr yn ymuno â dwy sesiwn dros 3 diwrnod, gyda chyfanswm ymrwymiad amser o 5-6 awr.
Y llynedd, roedd Paol Stuart-Thomson, aelod o’r elusen iechyd meddwl Springfield Mind, wedi cymryd rhan yn y cynllun peilot Nabod Natur. Dyma a ddywedodd:
‘Ers imi fynychu’r cwrs dw i wedi dechrau prynu cynhyrchion ail-law yn hytrach na rhai newydd, wedi bod yn ail-lenwi’r bath adar yn yr ardd ac wedi ychwanegu modur trydan i fy meic er mwyn defnyddio llai o’r car. Mae’r cwrs yn grymusu pobl i newid ac, yn y byd sydd ohoni, mae hynny’n ganlyniad gwych.’
Mae’r llefydd di-dâl ar gael diolch i gyllid o £50,000 o Sefydliad y Co-op.
Os ‘rydych yn ymwneud â grŵp cymunedol yng Nghymru, gallwch ymaelodi â Nabod Natur yn: cynnalcymru.com/naturewise-free