Grŵp o bobl yn sefyll o gwmpas flipchart

Hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr ddatblygu eu sgiliau

Cyhoeddwyd : 11/05/23 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Mae’r Brifysgol Agored, mewn partneriaeth â rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, wedi datblygu rhaglen hyfforddi am ddim i ganiatáu i wirfoddolwyr ddatblygu eu sgiliau.

Mae’r cwrs, o’r enw Elw drwy Wirfoddoli, yn rhaglen naw wythnos sy’n cynorthwyo pobl i gynyddu eu sgiliau gwirfoddoli a datblygu.  Gall fod o ddefnydd i wirfoddolwyr i ddyfnhau eu profiad gwirfoddoli presennol neu i baratoi ar gyfer rolau newydd. Bydd yn eu helpu i gynyddu eu portffolio o brofiadau a dysgu ac i fyfyrio ar y rhain, efallai er mwyn ystyried llwybrau gyrfa ar gyfer y dyfodol. Bydd yn rhoi gwybodaeth a mynediad at gyfleoedd dysgu gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru (sy’n amrywio o gyrsiau byr, am ddim i gymwysterau gradd lawn).

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfres o weithdai rhyngweithiol i helpu gwirfoddolwyr a’u mudiadau i elwa i’r eithaf ar wirfoddoli. Bydd yn cynorthwyo cyfranogwyr i ymhél mewn arferion myfyriol a chynlluniau gweithredu.

BETH GALLWCH CHI EI DDISGWYL

Bydd y pynciau’n cynnwys:

  • Cyflwyniad i’r Brifysgol Agored; gwahanol fathau o wirfoddoli
  • Ymuno a chyfarwyddo ag OpenLearn – porth y Brifysgol Agored ar gyfer adnoddau dysgu am ddim
  • Nodi sgiliau presennol, profiad ac uchelgeisiau i’r dyfodol
  • Sgiliau trosglwyddadwy a nodau gyrfaol
  • Datblygu portffolio dysgu; cymorth ymarferol i gefnogi dysgu pellach
  • Cynyddu gwydnwch, magu hyder a chynnal llesiant
  • Datblygu arweinyddiaeth
  • Myfyrio ar y cwrs a beth nesaf?

Bydd cyfranogwyr yn cael tystysgrif cwblhau cwrs ac yn cael cymorth i gymryd pa bynnag gamau nesaf y byddant yn eu nodi ar gyfer eu taith datblygu eu hunain.

Mae’r rhaglen yn dechrau gyda gweithdy ar-lein rhagarweiniol ar 23 Mai ac yn rhedeg am wyth wythnos arall: 30 Mai, 6, 20 a 27 Mehefin, 4,11 ac yn olaf, 18 Gorffennaf.  Cynhelir y sesiynau ar-lein ar Microsoft Teams, rhwng 10 – 11.30 am. Mae’r bedwaredd wythnos (yr wythnos sy’n dechrau ar 12 Mehefin) ar gyfer dysgu hunangyfeiriedig, lle y gall cyfranogwyr edrych ar adnoddau a chyrsiau ar-lein amrywiol, neu ddechrau sgyrsiau am feysydd o ddiddordeb arbennig.

Gallwch chi gofrestru ar gyfer y cwrs yma.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy