Er mwyn bod yn fwy parod i ymdopi â newid ac ansicrwydd, gall mudiadau treftadaeth neu fudiadau sy’n rhedeg prosiectau treftadaeth elwa ar hyfforddiant am ddim gan Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion.
Bydd mudiadau a gaiff eu cymeradwyo am hyfforddiant hefyd yn gymwys i wneud cais am hyd at £3000 i gefnogi datblygiad eu mudiadau.
Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn rhoi cymorth i fudiadau treftadaeth micro, bach a chanolig neu fudiadau sy’n cynnal prosiect treftadaeth ehangu eu ffrydiau incwm a chyrraedd cynulleidfaoedd a phobl newydd.
Wedi’i chyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae CGGC yn rhedeg prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion mewn partneriaeth â mudiad Cwmpas, a elwid yn Ganolfan Cydweithredol Cymru cyn hyn. Caiff y prosiect hefyd ei gefnogi gan y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd ac leuenctid Cymru, Anabledd Cymru a Pride Cymru.
BETH SY’N CAEL EI GYNNIG?
Mae pedwar diwrnod o gymorth hyfforddi trylwyr am ddim ar gael i o fudiadau ar bynciau fel llywodraethu, cynllunio busnes a chynhyrchu incwm i helpu i wella gwydnwch mudiadau a’u gallu i ymdopi â newid.
Yn unol â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae ein diffiniad o ‘dreftadaeth’ yn cynnwys y canlynol:
- Adeiladau Hanesyddol* a Henebion
- Treftadaeth Gymunedol, ee prosiect sy’n canolbwyntio ar ardal leol er mwyn gwella/adfer/dehongli’r amgylchedd naturiol neu adeiledig
- Diwylliannau ac Atgofion, ee dathlu diwylliannau amrywiol drwy brosiectau celfyddydol/hanes llafar
- Tirweddau a Threftadaeth Naturiol
- Diwydiannol, Morol a Thrafnidiaeth
- Casgliadau (gan gynnwys Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifdai)
Noder bod amseru’r hyfforddiant yn hyblyg a gall cael ei gynnal dros wyth mis.
RHAGOR O WYBODAETH AC YMGEISIO
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i dudalen Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion.
I gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan a chael pecyn ymgeisio wedi’i anfon atoch, ebost: catalyst@wcva.cymru.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol ynghylch y cyfle hyfforddi cyn penderfynu a ddylech chi ymgeisio neu beidio, cysylltwch Siobhan Hayward, Swyddog Catalydd Cymru yn shayward@wcva.cymru.
Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gategorïau eraill prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion tanysgrifiwch i’n cylchlythyr yma.