hands placing coins into jars

Helpwch ni i lunio dyfodol Cyllido Cymru

Cyhoeddwyd : 29/11/21 | Categorïau: Newyddion |

Mae Cyllido Cymru, offeryn chwilio am gyllid am ddim Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) – wedi bod yn helpu mudiadau ar hyd a lled y wlad i ddod o hyd i gyllid ers 2019.

Ers hyn, mae mwy a mwy o bobl wedi bod yn defnyddio’r system ac rydyn ni nawr eisiau pwyso a mesur, edrych ar yr hyn sy’n dda amdani a’r hyn y gellid ei wella, gyda’r nod o’i datblygu ymhellach a sicrhau bod mudiadau’n cael budd llawn ohoni.

RYDYN NI’N DAL EICH ANGEN CHI!

I’r perwyl hwnnw, cynhaliwyd, fe gynhalion ni grwpiau ffocws yn ddiweddar i gasglu barn ar Cyllido Cymru, a sut y gallwn wella’r llwyfan i’w gwneud hi’n haws fyth i chi ddod o hyd i gyfleoedd cyllido.

Roedd y grwpiau ffocws yn werthfawr iawn ac maen nhw wedi rhoi mewnwelediadau a syniadau gwych i ni i wella’r profiad o ddefnyddio Cyllido Cymru ar gyfer elusennau a mudiadau gwirfoddol.

RHANNWCH EICH BARN

Ond rydyn ni am glywed gan ragor o leisiau er mwyn sicrhau ein bod ar y trywydd iawn! Mae dau gyfle arall o hyd i rannu eich barn ar Gyllido Cymru:

  1. Llenwch ein holiadur byr cyn 17 Rhagfyr 2021
  2. Ymunwch â ni am ddigwyddiad trafod am 2pm ar 16 Rhagfyr 2021 i glywed canfyddiadau cychwynnol ein hymchwil ac i rannu eich sylwadau arnyn nhw. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad am ddim yma: www.eventbrite.co.uk/e/grwp-ffocws-defnyddwyr-cyllido-cymru-funding-wales-user-focus-group-tickets-217823675477

Os nad oes un o’r opsiynau yma’n apelio, gallwch gysylltu â’r ymchwilydd yn uniongyrchol cyn 17 Rhagfyr drwy e-bostio Martyn Palfreman yn Martyn@mjpalfreman.co.uk, a naill ai e-bostio’ch sylwadau neu drefnu sgwrs 15 munud â Martyn yn uniongyrchol dros alwad ffôn neu fideo.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF?

Bydd Martyn yn adrodd ar ei ganfyddiadau i Cefnogi Trydydd Sector Cymru (sy’n rhedeg ac yn berchen ar Cyllido Cymru) ym mis Ionawr. Ar ôl hynny, byddwn yn ceisio gweithredu’r newidiadau yn ystod hanner cyntaf 2022.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/12/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy