Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr Cymru yn ehangu ei dîm o Aseswyr. Dewch i hyfforddi fel asesydd llawrydd ac ymuno â’n tîm ni.
BETH YW BUDDSODDI MEWN GWIRFODDOLWYR?
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw safon ansawdd y DU sy’n helpu mudiadau i asesu a gwella ansawdd eu gwaith wrth reoli a chynnwys gwirfoddolwyr. Mae’r daith yn para 13 mis a bydd y mudiadau yn gweithio gydag Asesydd a Phrif Asesydd i sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd eu hangen arnyn nhw i ennill y dyfarniad.
Ar ôl cyfnod tawelach, wrth reswm, yn ystod y pandemig, mae’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi prysuro eto, a thros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn brysurach nag erioed! Rydyn ni’n gweithio’n gyfan gwbl ar-lein, yn prosesu cannoedd o ymholiadau a mynegiannau o ddiddordeb, wrth i ddyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ddod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith cyllidwyr.
‘MAE WEDI HELPU’R MUDIAD YN ARUTHROL’
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi derbyn oddeutu 150 o fynegiannau o ddiddordeb ac mae 23 o fudiadau wedi cwblhau’r dyfarniad. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio gyda 58 o fudiadau yng Nghymru sydd ar eu ffordd i ennill y safon IiV.
Er mwyn ateb y galw uchel hwn am y safon IiV yng Nghymru, rydyn ni wedi gwella ein systemau mewnol, gan ddefnyddio platfformau mewnol i fonitro a dadansoddi data.
Rydyn ni wedi creu fideo sy’n crynhoi profiad gwirfoddolwyr a rheolwyr o’r IiV ac sy’n rhoi blas i chi ar beth yw’r safon!
GWEITHIO GYDAG ASESWYR LLAWRYDD
Ni fydden ni wedi gwneud unrhyw ran o’r gwaith hwn heb ein haseswyr allanol gwych, sy’n gweithio gyda ni’n ddiflino, gydag agwedd bositif tuag at gefnogi mudiadau drwy eu taith yng Nghymru a gweddill y DU. Yn ystod y cyfnod clo, gwnaeth y tîm IiV addasu i anghenion y byd a throsglwyddo’r holl systemau ar-lein.
Rhoddodd hyn y cyfle i ni baru aseswyr â mudiadau ledled y DU ac i weithio’n agos gyda phobl o’r gwledydd eraill. Gwnaethon ni hefyd recriwtio rhai Aseswyr a Phrif Aseswyr newydd ffantastig.
Dyma ddau ohonynt yn rhannu eu safbwyntiau:
- Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – o’r gyfres safbwynt asesydd – Perminder Dhillon
- Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – o’r gyfres safbwynt asesydd – Bob Hughes
DOD YN ASESYDD IIV
Rydyn ni’n ehangu nawr, ac angen mwy o bartneriaid i ymuno â’n tîm! Rydyn ni wedi paratoi proses recriwtio a hyfforddi lawn i aseswyr allanol llawrydd newydd ymuno â’r tîm a gweithio gyda ni ar-lein. Darllenwch fwy am gymhwyso a beth mae bod yn asesydd IiV â thâl yn ei olygu.