Gwirfoddolwyr o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn gwthio berfa.

Helpwch ni i gyllido prosiectau anhygoel yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 04/08/26 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Rydyn ni’n chwilio am bobl frwdfrydig o bob cwr o Gymru i’n helpu ni i wneud penderfyniadau pwysig ar gyllid ar gyfer mudiadau gwirfoddol. Gwnewch gais nawr i ddod yn aelod o banel cynghori ar gyllid CGGC!

Mae CGGC yn chwilio am aelodau newydd i’r panel cynghori ar gyllid i roi arweiniad ac adborth ar gyfer ein cynlluniau cyllido. Mae ein cronfeydd yn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i gyflawni eu gwaith hanfodol ac yn cael effaith bositif ar fywydau pobl mewn cymunedau lleol yn ogystal â’r rheini ymhellach i ffwrdd.

Mae ein haelodau panel annibynnol yn ein helpu i benderfynu sut mae cyllid yn cael ei ddosbarthu er mwyn sicrhau y gall gwaith hanfodol y sector gwirfoddol barhau ac ehangu. Ni fyddai bod ar banel yn mynd â llawer o’ch amser ond gallai roi profiad gwerthfawr i chi mewn rheoli grantiau elusennol, rhwydweithio a materion cyfoes.

PWY ALL FOD YN AELOD O’R PANEL?

Mae unrhyw un dros 18 oed sy’n gallu rhoi ychydig oriau o’u hamser yn gymwys! Gofynnir i aelodau ddarllen cynigion prosiect a mynd i gyfarfod panel unwaith neu ddwywaith y flwyddyn (yn dibynnu ar y cynllun). Amcangyfrifir y bydd angen ymrwymo oddeutu dau ddiwrnod y flwyddyn.

Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n frwd am wneud gwahaniaeth positif yng Nghymru. Mae ein paneli yn gofyn am aelodau ag ystod eang o sgiliau i helpu gyda’n cyfleoedd cyllido amrywiol. P’un a ydych chi’n frwdfrydig dros y gymuned, yn arbenigwr bywyd gwyllt, neu’n weithiwr cymorth, mae panel cyllido a fyddai’n elwa ar eich gwybodaeth.

Rydyn ni’n cydnabod gwerth positif amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu. Rydyn ni’n chwilio am fewnwelediadau, safbwyntiau ac arbenigedd newydd i ymuno â’n panelwyr presennol i ddarparu cyllid mewn modd teg ac effeithlon.

PA FUDD GEWCH CHI O FOD YN AELOD O’R PANEL?

Trwy ddod yn aelod o’r panel, byddwch yn gwneud mwy o wahaniaeth i gymdeithas yng Nghymru ac yn dysgu a datblygu eich sgiliau a’ch profiad mewn meysydd fel llywodraethu, rheoli grantiau a dadansoddi risg.

Mae ein paneli hefyd yn ffordd wych o ddatblygu eich rhwydwaith trwy weithio ochr yn ochr ag aelodau eraill o’r panel gwirfoddol o gefndiroedd a phrofiadau amrywiol.

Mae swyddi panel grant CGGC yn wirfoddol ac felly yn ddi-dâl. Rydyn ni’n deall nad oes gan bawb yr un gallu i ymgymryd â gwaith di-dâl, ond fe wnawn ni ein gorau glas i gefnogi unrhyw unigolion â diddordeb i oresgyn y rhwystrau hyn.

EISIAU DYSGU MWY?

Cysylltwch â ni! Ffoniwch ni ar 0300 111 0124 neu e-bostiwch help@wcva.cymru ac fe drefnwn ni i un o aelodau ein tîm cyllido siarad â chi.

Gallwch hefyd glicio ar y gwahanol gyfleoedd panel isod i ddysgu mwy am y rolau ar gyfer ein gwahanol gynlluniau cyllido.

SUT I WNEUD CAIS

I wneud cais am un neu fwy o swyddi, dilynwch y dolenni isod i wefan Gwirfoddoli Cymru lle gellir dod o hyd i’n holl rolau gwirfoddol ynghyd â llawer mwy o gyfleoedd.

Gweithredu dros yr amgylchedd lleol: Cynllun Cymunedol y Dreth Gwaredu Tirlenwi

Gwella arferion gwirfoddoli yng Nghymru: Grantiau Gwirfoddoli Cymru

Cefnogi mudiadau ar lawr gwlad Cymru: Cymunedau Cwtch Comic Relief

Prosiectau sydd o fudd i Gymru ac Affrica: Grantiau Cymru ac Affrica

Gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol: Cronfa MARINE Cymru

Atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo: Niwed Gamblo – Grant y Sector Gwirfoddol

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 12/06/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Tour de France i roi hwb i wirfoddoli ledled Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/06/26
Categorïau: Gwirfoddoli

Dathlu gwirfoddolwyr mewn chwaraeon yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 26/05/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Dathlwch wirfoddolwyr anhygoel Cymru yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr yma!

Darllen mwy