Mae llaw yn llenwi car gwyn gyda phetrol

Helpwch ni i gadw’r olwyn i droi

Cyhoeddwyd : 15/07/22 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Mae CGGC yn ymuno â chynghrair o un ar ddeg o elusennau sy’n galw ar Ganghellor newydd y Trysorlys i gynyddu’r Taliadau Lwfans Milltiredd Cymeradwy (AMAP) i yrwyr gwirfoddol.

Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i roi pwysau ar gymunedau, mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr fel ei gilydd. Yn sgil y prisiau tanwydd uchaf erioed (Saesneg yn unig), rydyn ni’n gofyn i Nadhim Zahawi, yr Aelod Seneddol sydd newydd ei benodi yn Ganghellor y Trysorlys, i gynyddu’r lefel fwyaf y gall gyrwyr gwirfoddol gael ei had-dalu yn ei Gyllideb yr Hydref hwn.

Ar hyn o bryd, mae gyrwyr gwirfoddol yn cael eu had-dalu yn unol â Thaliad Lwfans Milltiredd Cymeradwy (AMAP) (Saesneg yn unig) ar uchafswm o 45c y filltir – cyfradd a adolygwyd ddiwethaf yn 2012. Nid yw’r gyfradd hon yn ddigon i dalu’r treuliau sydd gan yrwyr gwirfoddol mwyach, gan eu rhoi nhw, mudiadau gwirfoddol a defnyddwyr gwasanaethau mewn sefyllfa anodd.

GOBLYGIADAU

Bydd methu â chynyddu’r gyfradd AMAP i lefel gyfwerth â’r prisiau tanwydd presennol yn golygu mai ychydig iawn o opsiynau fydd gan fudiadau o hyd i fynd i’r afael â’r anghysondeb hwn. Er y gallant ad-dalu gyrwyr gwirfoddol ar gyfradd uwch, mae hyn yn golygu mwy o waith papur ac yn effeithio ar drethi a hawliau budd-daliadau’r gwirfoddolwr. Bydd y goblygiadau hyn, i bob diben, yn effeithio ar yr un gwirfoddolwyr a fydd yn fwy tebygol o stopio gwirfoddoli oherwydd straen ariannol.

Byddai’n ofnadwy pe bai gwirfoddoli y tu hwnt i gyrraedd unrhyw un ac mae’n destun pryder mawr i ni yn y sector. Ar wahân i broblemau o ran hygyrchedd a thegwch, byddem hefyd yn gweld effaith gynyddol ar gapasiti a chyrraedd elusennau sy’n dibynnu ar yrwyr gwirfoddol, a fyddai’n cael ei deimlo gan ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae’n broblem a fyddai’n cael ei theimlo’n fawr yng Nghymru.

Meddai Judith Stone, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwirfoddoli CGGC:

‘Mewn cyfnod o galedi mawr i lawer, mae gweld cyfraddau AMAP ar ôl yr oes yn creu rhwystr i wirfoddoli yn ein poeni’n arw.

‘Mae gyrwyr gwirfoddol yn cynnig eu hamser a’u sgiliau am ddim ac yn aml yn achubiaeth i’r rheini sydd fwyaf bregus, yn enwedig mewn cymunedau sydd wedi’u hynysu’n ddaearyddol a chymunedau gwledig. Dylai’r costau tanwydd cynyddol gael eu had-dalu gan gyfradd AMAP ddiwygiedig, sy’n sicrhau nad yw gwirfoddolwyr allan o boced.’

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Mae ein partneriaid ymgyrchu, Cymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA) wedi ysgrifennu blog sy’n amlinellu’r gwahanol ffyrdd y gallwch chi gefnogi’r ymgyrch hon. Rydyn ni’n eich annog i wneud y canlynol:

  • cwblhau arolwg effaith y CTA
  • estyn allan i Aelodau Senedd San Steffan
  • rhannu pam mae’r newid hwn yn bwysig i chi ar gyfryngau cymdeithasol

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy