Helpwch i wella sgiliau digidol yn y sector gwirfoddol

Helpwch i wella sgiliau digidol yn y sector gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 03/02/22 | Categorïau: Newyddion |

Rydyn ni’n chwilio am bartneriaid cyflenwi i gymryd rhan mewn prosiect newydd cyffrous i’n helpu ni i wella lefel y cymorth digidol sydd ar gael i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Fel rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector, prosiect partneriaeth a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan CGGC, Canolfan Cydweithredol Cymru a ProMo-Cymru, rydyn ni’n datblygu rhaglen o hyfforddiant a chymorth sy’n hybu ac yn galluogi arferion digidol da ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Byddwn ni’n rhannu gwybodaeth ac yn cael mewnwelediadau gan y sector er mwyn sicrhau y gall mwy o bobl a mudiadau fanteisio ar ffyrdd digidol o weithio ac ymwreiddio’r rhain yn eu gwaith. Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i godi ymwybyddiaeth o’r safonau gwasanaeth digidol i Gymru ac yn defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i greu gwasanaethau a’u gwella.

I gael rhagor o wybodaeth am Newid a gwaith y tri phartner, gallwch chi ddilyn ein blog ‘medium’ yma.

GALWAD AM BARTNERIAID CYFLENWI

Mae gan CGGC bedwar cyfle i gymryd rhan yn Newid ar hyn o bryd, sydd wedi’u rhestru ar GwerthwchiGymu. Mae’r tri cyntaf yn ymwneud â chreu deunyddiau dysgu ar-lein ar gyfer Hwb Gwybodaeth TSSW yn y meysydd pwnc canlynol:

  • Seilwaith digidol
  • Diogelwch digidol a data
  • Cynhyrchu incwm digidol

Mae’r pedwerydd cyfle yn wahoddiad i dendro ar gyfer datblygu a chyflwyno cwrs hyfforddi sgiliau digidol ar gyfer aelod-fudiadau yn y sector gwirfoddol.

I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais ar gyfer y cyfleoedd hyn, chwiliwch am y teitlau canlynol ar GwerthwchiGymru.

Adnoddau a Chyrsiau Digidol ar gyfer Hwb Gwybodaeth TSSW: Diogelwch Digidol a Data

Adnoddau a Chyrsiau Digidol ar gyfer Hwb Gwybodaeth TSSW: Cynhyrchu incwm digidol

Adnoddau a Chyrsiau Digidol ar gyfer Hwb Gwybodaeth TSSW: Seilwaith Digidol

Hyfforddiant Sgiliau Digidol i Aelod-fudiadau’r Sector Gwirfoddol

MWY AM NEWID

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Newid a’r Adroddiad Darganfod Digidol, yr ymchwil sydd y tu ôl iddo, yn ein herthygl flaenorol, Yn cyflwyno Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Arloesedd Digidol, Hannah Bacon, yn hbacon@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/12/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy