Allai eich cymuned chi elwa’n fwy o’r amgylchedd naturiol? Neu a oes gennych brosiect amgylcheddol sydd angen arian a chymorth? Os felly, dewch draw i’r digwyddiad hwn.
Menter newydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru yw Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i helpu atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn natur, ac i dyfu’r amgylchedd er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Wedi’i anelu at gynghorau tref a chymuned, mae ystod o gefnogaeth a gyllidir ar gael gan Cadwch Gymru’n Daclus a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gyda chefnogaeth a chyngor oddiwrth eich Partneriaeth Natur Lleol a’ch Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol.
Mae’r digwyddiadau yma am ddim, ac yn gyfle i gwrdd â’r cyllidwyr, clywed rhagor am y gefnogaeth sydd ar gael yn eich ardal, i ofyn cwestiynau ac i rannu syniadau a phrofiadau gydag eraill.
Dyddiadau a lleoliadau:
- 9 Mawrth 17.00 – 18.30, Britton Ferry,
- 16 Mawrth 17.30 – 19.00, Blaenau Ffestiniog
- 26 Mawrth, amser i’w gadarnhau: Caerffili
Gweminar:
- 10 March 14.00 – 15.00, Cyflwyniadau yn Saesneg
- 17 March 14.00 – 15.00, Cyflwyniadau yn Gymraeg
Am fwy o fanylion ac i gofrestru cysylltwch LNPCymru@wcva.cymru
Bydd mwy o ddyddiadau mewn lleoliad ledled Cymru yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir!
Mwy am Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur menter newydd sbon wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at greu, adfer a gwella cannoedd o gynefinoedd ledled y wlad.
Mae’r broses ymgeisio ar agor nawr i grwpiau a mudiadau cymunedol sy’n awyddus i helpu i gildroi diryw iad byd natur.
I’w gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl gymryd rhan, maent wedi dylunio detholiad o ‘becynnau’ wedi’u teilwra i wahanol grwpiau a sefydliadau.
Mae pob pecyn, y mae ei gost wedi’i thalu ymlaen llaw, yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill. Bydd y tim yn delio â’r archebion a’r danfoniadau, a bydd eu swyddogion prosiect hyd yn oed yn darparu cymorth ar lawr gwlad i’ch helpu i greu eich man newydd ar gyfer byd natur.
Mae eu phecynnau yn perthyn i dri chategori – cliciwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth:
- Pecynnau dechreuol i gynghorau tref a chymuned (1 yr un) – dewiswch naill ai a) Gardd Pili Pala, b) Gardd Ffrwythau neu c) Gardd Bywyd Gwyllt. Darllen y canllawiau a’r Cwestiynau Cyffredin
- Pecynnau dechreuol i sefydliadau cymunedol (3 fesul sir) – dewiswch naill ai a) Gardd Pili Pala, b) Gardd Ffrwythau neu c) Gardd Bywyd Gwyllt. Darllen y canllawiau a’r Cwestiynau Cyffredin
- Pecynnau datblygu i sefydliadau cymunedol (3 fesul sir) – dewiswch naill ai a) Man tyfu bwyd, b) System draenio cynaliadwy neu c) Gardd Bywyd Gwyllt. Llwytho’r nodiadau canllaw i lawr
Mae’r broses ymgeisio’n un hawdd ac maen nhw’n disgwyl llawer o ymgeiswyr, felly gwnewch gais cyn gynted â phosib!
Dyddiad cau’r cylch ceisiadau cyntaf yw 12pm ddydd Gwener 6 Mawrth.