Helpu ymddiriedolwyr i ennyn sicrwydd mewn cyfnod o ansicrwydd

Helpu ymddiriedolwyr i ennyn sicrwydd mewn cyfnod o ansicrwydd

Cyhoeddwyd : 01/04/21 | Categorïau: Newyddion |

Mae CGGC yn croesawu ymgyrch gan y Comisiwn Elusennau sydd â’r nod o helpu ymddiriedolwyr i ddiweddaru eu gwybodaeth o lywodraethiant elusennau ac i ‘ennyn sicrwydd mewn cyfnod o ansicrwydd’.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys cyfres o bum fideo wedi’u hanimeiddio a lansiwyd ym mis Tachwedd 2020, gyda phob fideo’n hyrwyddo un o ganllawiau 5-munud y rheoleiddiwr. Mae’r canllawiau’n darparu gwybodaeth syml, hawdd ei deall ar yr holl egwyddorion sylfaenol sydd angen i ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol ohonynt mewn perthynas â llywodraethiant.

Daw’r ymgyrch fel rhan o ymrwymiad y Comisiwn i gynorthwyo ymddiriedolwyr prysur i redeg eu helusennau. Caiff ymdriniaeth y rheoleiddiwr o’r ymgyrch ei hysbysu gan waith ymchwil i wybodaeth ac ymwybyddiaeth ymddiriedolwyr o’u cyfrifoldebau ac i agweddau ehangach ymddiriedolwyr.

Dywedodd Paul Latham, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Pholisi’r Comisiwn Elusennau:

‘Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn eithriadol o anodd i elusennau. Golyga’r pandemig eu bod yn wynebu newidiadau digynsail ac mae ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniadau anodd iawn, a hynny ar frys yn aml. Yn y cyfnod ansicr hwn, rydym yn awyddus i helpu ymddiriedolwyr i deimlo’n fwy hyderus eu bod nhw’n gwneud pethau’n iawn. Mae’r ymgyrch hon wedi’i hanelu at ymddiriedolwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd – gall pob elusen elwa o ymddiriedolwyr sy’n cymryd cyfrifoldeb gweithredol dros gaffael a diweddaru eu gwybodaeth ynglŷn â rheoli elusennau mewn modd cadarn.

‘Mae’r ymgyrch hon yn nodi symudiad pwysig o fewn y Comisiwn hefyd, yn unol â’n strategaeth – rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein deunyddiau’n hawdd eu defnyddio ac ar gael yn rhwydd i ymddiriedolwyr prysur ymgysylltu â nhw. Gobeithiaf y bydd cymaint o ymddiriedolwyr â phosibl yn gweld ein deunyddiau, ac yn cymryd amser i ddiweddaru eu gwybodaeth.’

Mae’r ymgyrch yn ysgogi ymddiriedolwyr i ystyried eu dealltwriaeth o’r cyfrifoldebau allweddol trwy ofyn cwestiwn sy’n gysylltiedig â phob cyfarwyddyd:

Mae CGGC yn argymell bod elusennau yn tynnu sylw eu hymddiriedolwyr at y canllawiau ac yn eu cynnwys yn eu pecynau cynefino.

Ydych chi wedi cofrestru gyda Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru lle gallwch ddysgu a chysylltu ag eraill yn union fel chi ar draws y trydydd sector?

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector – camau nesaf

Darllen mwy