Mae’r Prosiect ‘Family Tree’ yn helpu cymunedau gwledig ym Malawi i ddod yn fwy hunangynhaliol, yn fwy gwydn i drychinebau naturiol ac yn fwy sefydlog yn economaidd.
MATERION SY’N WYNEBU MALAWI
Mae’r rhan helaeth o boblogaeth Malawi yn byw mewn ardaloedd gwledig, lle mae’n arferol i goginio ar dân agored. O ganlyniad, mae gan Malawi gyfradd uchel iawn o ddatgoedwigo ac mae hyn wedi dod yn broblem ddifrifol yn y 30 mlynedd ddiwethaf; mae’r pridd wedi dirywio, swm enfawr o fioamrywiaeth wedi’i golli ac mae’n achosi llifogydd. Mae oddeutu 90% o’r teuluoedd sy’n byw yn yr ardaloedd hyn yn byw mewn tlodi eithafol ac yn cael trafferth prynu coed tân. Mae pandemig COVID-19, y rhyfel yn Wcráin a’r llifogydd trychinebus a achoswyd gan Seiclon Freddy ym mis Mawrth 2023 wedi gwaethygu’r problemau a wynebir gan y cymunedau hyn.
Elusen yng Nghymru yw FROM Wales (gwefan Saesneg yn unig) sy’n cynorthwyo pobl Malawi i ddod allan o dlodi. Wedi’u cyllido gan Gynllun Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, gwnaethant ffurfio partneriaeth â Phrosiect Cymunedol Fisherman’s Rest (FRCP) yn Ne Malawi i helpu’r cymunedau gwledig hyn i adeiladu a chryfhau bywoliaethau cynaliadwy.
TYFU COEDWIGOEDD AM GYNALIADWYEDD
Mae’r prosiect wedi nodi 300 o ffermwyr yn ardal TA Somba, a fydd yn derbyn amrywiaeth o goed i dyfu coedwigoedd a fydd yn caniatáu iddynt ddefnyddio coed tân mewn modd cynaliadwy. Bydd amrediad amrywiol o rywogaethau yn cael eu dewis, a fydd yn cyflwyno buddion gwerthfawr ac unigryw i’r hinsawdd fyd-eang ac i’r perchnogion tir unigol.
Yn ogystal â’r 40,000 o goed a fydd yn cael eu plannu, bydd y ffermwyr hefyd yn derbyn hyfforddiant damcaniaethol ac ymarferol ar bob agwedd ar y broses tyfu coedwigoedd, o adnabod rhywogaethau i gasglu hadau a rheoli coedwigoedd. Bydd hyn yn eu galluogi i warchod y coed presennol a’r coed sydd newydd eu plannu yn yr hirdymor.
Bydd y teuluoedd sy’n cymryd rhan yn y prosiect hefyd yn cael eu haddysgu ar sut i adeiladu a chynnal a chadw ffwrn glai effeithlon, sy’n defnyddio 70% yn llai o goed tân ac yn arbed tair tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn. Ar wahân i’r buddion amgylcheddol, bydd hyn yn cael effaith gymdeithasol, yn enwedig ar y menywod a’r merched hynny sydd â’r rôl draddodiadol o gasglu coed tân. Bydd defnyddio ffyrnau effeithlon yn caniatau iddynt dreulio mwy o amser yn gofalu am eu plant, chwarae neu astudio.
STORI BETI
Un o’r bobl sy’n elwa ar y prosiect yw Beti, sy’n byw mewn pentref yn TA Somba, yn gweithio ar ei thir ac yn gofalu am ei phum plentyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae eu tir wedi dod yn ddiffrwyth, ac mae hyn wedi golygu bod angen iddyn nhw wario symiau enfawr o arian ar wrteithiau, yn ogystal â phlaladdwyr i atal y plâu byth-gynyddol sy’n lleihau’r cnydau a gynhyrchir. Mae Beti a’i merch yn mynd ar daith hir i’r farchnad bob dydd Sadwrn i brynu coed tân. Yr unig ffordd y gallent fforddio gwneud hyn oedd drwy gael benthyciadau llog uchel, sy’n rhoi pwysau ariannol cyson ar y teulu. Mae’r prosiect yn eu helpu nhw i dyfu eu coed eu hunain a dod yn hunangynhaliol.
Meddai Beti:
‘Mae bod yn rhan o Brosiect ‘Family Tree’ yn rhoi gobaith i mi a’m teulu y gall pethau newid. Bydd y coed gwrtaith yn gwneud y pridd yn ffrwythlon eto ac rydyn ni wedi cael hyfforddiant ar sut i gynaeafu’r coed ar gyfer coed tân fel eu bod yn parhau i dyfu.’
HYBU DINASYDDIAETH FYD-EANG YNG NGHYMRU
Mae FROM Wales wedi cysylltu â nifer o ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol yng Nghymru ers i’r prosiect ddechrau. Trwy godi ymwybyddiaeth mewn gwersi cadwraeth, gweithdai a chyfarfodydd, mae cymunedau yng Nghymru wedi cael gwybodaeth o lygad y ffynnon am bwysigrwydd bioamrywiaeth a chydbwysedd ecolegol byd-eang. Mae’r ddealltwriaeth hon yn meithrin gwerthfawrogiad dyfnach o’u hamgylchedd lleol, gan annog cymunedau i fabwysiadu arferion cynaliadwy.