Gan mai hwn yw’r cyfle olaf i redeg prosiectau cyflogaeth un flynedd, mae mudiadau gwirfoddol yn cael eu hannog i gysylltu ag CGGC ynghylch gwneud cais cyn y cylch Cynhwysiant Gweithredol newydd.
Mae Cronfa Cynhwysiant Gweithredol CGGC yn ffordd bwysig i fudiadau gwirfoddol fynd i’r afael â diweithdra yn sgil Covid-19. Os ydych chi’n credu y gallech gynnig sgiliau newydd, cyfleoedd gwirfoddoli neu gyflogaeth â chymorth a thâl i bobl dan anfantais yng Nghymru er mwyn goresgyn rhwystrau i weithio, gallai’r gronfa hon fod i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar gyfer cylch nesaf cyllid Cynhwysiant Gweithredol yw 4 Mehefin 2021. Ond, bydd angen i’r rheini sy’n ymgeisio am y tro cyntaf fynd trwy broses gymeradwyo erbyn diwedd mis Ebrill, cyn i’r ceisiadau agor ar 3 Mai 2021.
Mae’r cylch hwn yn garreg filltir bwysig oherwydd hwn fydd y cyfle olaf i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau hyd at flwyddyn o hyd.
SWYDDI YW’R NOD YN Y PEN DRAW, OND NID DYNA’R STORI GYFAN
Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn darparu grantiau ar gyfer prosiectau yng Nghymru sy’n helpu pobl dan anfantais i ddychwelyd i fyd gwaith. Mae’r rhwystrau i gyflogaeth yn amrywio, ac mae’r grantiau hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n arbenigo mewn rhoi cymorth i grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio’n draddodiadol, fel pobl ag anhawster dysgu neu’r rheini o gymuned BAME (BME cyn hyn).
Mae’r grantiau’n arbennig o ddefnyddiol i’r rheini sy’n gweithio gyda:
- Gofalwyr
- Pobl dros 54 oed
- Pobl â sgiliau isel
- BAME pobl
- Cartrefi di-waith
- Pobl â gwaith yn cyfyngu ar gyflyrau iechyd
- Pobl ifanc sydd ‘Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth, neu Hyfforddiant’ (NEET)
Cael pobl ddi-waith i mewn i swyddi ystyrlon yw’r nod yn y pen draw, ond gallai eich prosiect hefyd fod yn darparu cam allweddol ar y daith i gyflogaeth, fel:
- Rolau gwirfoddoli sy’n darparu profiad buddiol
- Hyfforddiant sgiliau sy’n helpu rhagolygon gwaith pobl
CYSYLLTWCH Â NI CYN GWNEUD CAIS
‘Mae CGGC yna i’ch helpu chi, mae’r tîm Cynhwysiant Gweithredol wedi bod yn anhygoel’
Oes gennych chi syniad am brosiect? Cysylltwch i drafod eich syniad ag aelod o’n tîm Cynhwysiant Gweithredol. Gallwn ni helpu i wella’ch siawns o lwyddo a’ch arwain drwy’r broses ar bob cam o’r daith.
I drefnu sgwrs anffurfiol, anfonwch e-bost at activeinclusion@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124
YMUNWCH Â’R FRWYDR
Mae diweithdra ar gynnydd yng Nghymru, ond mae prosiectau a gyllidir gan Gronfa Cynhwysiant Gweithredol CGGC yn ymladd yn ôl.
Ar ôl gwella o lawdriniaeth ar y galon, credai Ian na fyddai erioed yn gallu cael gwaith eto, ond gyda help Prime Cymru, cafodd yr offer yr oedd ei angen i ddechrau ei wasanaeth trwsio beiciau ei hun.
Ar ôl bywyd fel gofalwr amser llawn i’w theulu, credai Mavis fod ei hoedran a’i diffyg profiad yn ei gadael heb obaith o gael gwaith. Ond gwnaeth Menter Môn gynorthwyo Mavis i ddychwelyd i fyd gwaith.
CAEL GWYBOD MWY
Mae cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiectau sy’n mynd i’r afael â diweithdra ar gael drwy CGGC tan 2022, ac er y gall cyllid yr UE fod yn heriol, mae tîm arbenigol CGGC yma i helpu.
I gael gwybod mwy, ewch i wcva.cymru/cynhwysiantgweithredol neu cysylltwch â ni.