Amdanom ni

CGGC yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, a’i bwrpas yw galluogi mudiadau gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Cyllid

Mae’n bwysicach nag erioed i fudiadau gwirfoddol feddu ar y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt i ganfod arian ac amrywio eu ffyrdd o wneud incwm. Yn 2021/22, dyrannodd CGGC tua £28.9 miliwn mewn cyllid i elusennau, mentrau cymdeithasol a gwirfoddolwyr yng Nghymru.

Yn ein hadran ariannu, fe welwch wybodaeth am gynlluniau ariannu CGGC, ynghyd â phopeth y bydd ei angen arnoch i’ch helpu chi i chwilio am arian a chynnal ffrwd arian ar gyfer eich achos.

Group of people looking happy, showing off litter-picking work
Two women and a man at gofod3 in discussion

Hyfforddiant, digwyddiadau a gwobrau

Mae ein sesiynau hyfforddiant, ein digwyddiadau a’n gwobrau yn dwyn mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ynghyd i ddysgu oddi wrth ei gilydd, i gysylltu â’i gilydd, ac i ddangos y gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud. Mae ein hyfforddiant yn canolbwyntio ar anghenion mudiadau gwirfoddol. Gallwn eich helpu chi a’ch mudiad i gael ei gynnal yn fwy effeithiol a gallwn ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer mudiadau gwirfoddol gan gynnwys gofod3 (y digwyddiad mwyaf o’i fath yng Nghymru), ein Darlith Flynyddol a’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ynghyd â Gwobrau Elusennau Cymru.

Dewch yn aelod o CGGC

Mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn newid bywydau bob dydd, ond er mwyn goresgyn yr heriau yr ydym ni oll yn eu hwynebu, mae angen inni gydweithio. Darganfyddwch fwy am aelodaeth CGGC isod a helpwch ni i wneud mwy o wahaniaeth gyda'n gilydd.

Y newyddion diweddaraf

Cyhoeddwyd: 14/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Lansio cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy
Darllen mwy

Gwirfoddoli

Gwirfoddolwyr yw enaid sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru. Maen nhw’n dod â chymaint o fuddion – ond mae recriwtio a chadw gwirfoddolwyr yn golygu creu amgylchedd cadarnhaol a chefnogol.

Mae gennym ni daflenni gwybodaeth sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau a chyngor, polisïau enghreifftiol, adnoddau, gwybodaeth am gyllid grant a mwy. Os ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr yng Nghymru, neu’n meddwl am wirfoddoli, yna mae gennym bopeth ar eich cyfer.

Gwirfoddolwyr o Well Fed yn sortio bocsys bwyd i'r gymuned

Adnoddau

Mae ein banc adnoddau ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru yn cynnwys canllawiau defnyddiol, ynghyd â phecynnau cymorth, gwybodaeth, arweiniad a chyhoeddiadau.