Mae ein tîm yn Amrywiaeth Chwaraeon Cymru wedi bod yn teithio o gwmpas gogledd Cymru yn siarad â mudiadau am sut gallwn wneud chwaraeon yn fwy cynhwysol.
Mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (Saesneg yn unig), aeth ein tîm yn Amrywiaeth Chwaraeon Cymru ar daith gyffrous o gwmpas gogledd Cymru’n ddiweddar. Nod ein taith oedd cysylltu â mudiadau lleol, grwpiau cymunedol ac unigolion i edrych ar sut gallwn ni eu cefnogi’n well i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol, yn enwedig cymunedau ethnig lleiafrifol.
Gan ddechrau yng ngogledd-orllewin Cymru a gweithio ar draws i’r gogledd-ddwyrain, gwnaethom gwrdd â grwpiau amrywiol i drafod yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu a sut gallwn ni eu helpu drwy gyllid, cyngor a phartneriaethau.
GRYMUSO CYMUNEDAU DRWY CHWARAEON
Ar hyn ein taith, gwnaethom gwrdd â mudiadau sy’n gwneud gwaith anhygoel i gefnogi’r bobl yn eu cymunedau. O Bawso yn Wrecsam, sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a chamfanteisio du ac ethnig leiafrifol, i’r Groes Goch, sy’n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Gwnaeth pob mudiad rannu heriau a chyfleoedd unigryw ar gyfer cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon. Yn dilyn y trafodaethau, rydym yn creu cronfa ddata benodedig i gadw mewn cysylltiad, rhannu diweddariadau a chysylltu mudiadau â chyllidwyr a darparwyr eraill er mwyn sicrhau cefnogaeth barhaus.
PRIF BROBLEMAU
Ymhlith y prif broblemau a godwyd gan fudiadau oedd rhwystrau fel diffyg trafnidiaeth, anawsterau cael cyllid cynaliadwy, a’r angen am weithgareddau diwylliannol-briodol sy’n diwallu anghenion menywod a merched ethnig lleiafrifol.
I lawer o fudiadau, mae chwaraeon yn cynnig cyfle unigryw i ddod â chymunedau ynghyd, lleihau unigrwydd a gwella iechyd meddyliol a chorfforol. Ond heb y cymorth cywir, mae’r grwpiau hyn yn cael anhawster harneisio potensial chwaraeon yn llwyr.
CAMAU GWEITHREDU A CHYNLLUNIAU AR GYFER Y DYFODOL
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, aeth CGGC, Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon ati i gynnig cymorth mewn nifer o ffyrdd. Gwnaethom rannu gwybodaeth am grantiau a oedd ar gael, edrych ar bartneriaethau posibl â mudiadau lleol eraill a thrafod sut i wneud chwaraeon yn fwy cynhwysol.
Nid gwrando yn unig oedd nod ein taith, roedd yn ymwneud â gweithredu – rhoi cyngor wedi’i deilwra, cyfeirio at gyfleoedd cyllido ac ymrwymo i sesiynau a seminarau dilynol.
HYFFORDDIANT AR GYNHWYSIANT HIL
Fel rhan o’n cymorth parhaus, byddwn yn cyflwyno cwrs cynhwysiant hil ar-lein ar gyfer darparwyr chwaraeon gogledd Cymru ar 28 Tachwedd 2024, rhwng 10am a 12.30pm. Mae’r sesiwn hon yn agored i bob darparwr chwaraeon yng ngogledd Cymru sydd â diddordeb mewn gwneud ei gynnig yn fwy cynhwysol i gymunedau amrywiol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r hyfforddiant hwn, anfonwch e-bost at skhan@wcva.cymru i gadw eich lle.
DYFODOL MWY DISGLAIR I OGLEDD CYMRU
Rydym yn gobeithio mai’r daith hon oedd y cam cyntaf i feithrin cydberthnasau ystyrlon a hirdymor â chymunedau gogledd Cymru. Roedd y sgyrsiau a gawsom yn fewnweledol tu hwnt, a gwnaethant atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithio rhwng mudiadau lleol, cyrff cenedlaethol a’r cymunedau eu hunain.
Ein nod yw gweithio gyda’n gilydd i chwalu’r rhwystrau i gymryd rhan a sicrhau bod chwaraeon i bawb, waeth beth yw eu cefndir.
Os hoffech weithio gyda ni i wireddu hyn, cysylltwch â skhan@wcva.cymru.