Sumaya Chwaraeon Amrywiaeth Cymru yn sgwrsio gyda Sion a Delyth o Gyngor Tref Llanelli am eu gwaith i gefnogi ffoaduriaid o Syria

Gyrru cynhwysiant ac amrywiaeth mewn chwaraeon – ein taith i orllewin Cymru

Cyhoeddwyd : 16/04/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae ein tîm Amrywiaeth Chwaraeon Cymru wedi bod yn teithio o gwmpas gorllewin Cymru yn cynnig clust i wrando i fudiadau sydd eisiau gwneud chwaraeon yn fwy cynhwysol.

Dros ddau ddiwrnod, bu Amrywiaeth Chwaraeon Cymru yn teithio ledled gorllewin Cymru, yn cwrdd â grwpiau cymunedol, clybiau a mudiadau. O Abertawe i Lanelli, Sir Benfro, a Hwlffordd, gwnaethom gysylltu â phobl frwdfrydig sy’n gwneud gwahaniaeth – ond gwnaethom hefyd glywed am yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth geisio gwneud chwaraeon yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.

ABERTAWE: CHWALU’R RHWYSTRAU

Abertawe oedd ein cyrchfan gyntaf, lle gwnaethom ni gwrdd â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS)*, a’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd*. Gwnaeth pob mudiad amlygu rhwystrau cyffredin – diffyg lle, costau uwch, problemau trafnidiaeth ac anhawster cael cyllid.

Gwnaethom drafod datrysiadau ymarferol, gan gynnig cyngor ar byrth cyllido, cyfeirio at bartneriaid perthnasol a rhannu manylion ein digwyddiad i ddod yng ngorllewin Cymru a Rhwydwaith Staff Amrywiaeth Chwaraeon Cymru. Mae’r rhwydwaith yn lle cefnogol i staff a gwirfoddolwyr ethnig lleiafrifol mewn chwaraeon yng Nghymru. Mae’n cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid, rhwydweithio a phlatfform i drafod heriau, rhannu profiadau a gyrru newid yn y sector. Cofrestrwch eich presenoldeb yn ein cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 16 Ebrill 2025.

Tîm Chwaraeon Amrywiaeth Cymru CGGC yn cwrdd â Franck o The CAE

LLANELLI: HYRWYDDO FFOADURIAID A THRECHU HILIAETH

Yn Llanelli, cawsom gyfarfod ysbrydoledig gyda Sion a Delyth o Gyngor Tref Llanelli, sy’n gwneud gwaith ffantastig yn cefnogi ffoaduriaid o Syria. Siaradodd Sion yn frwd am yr heriau wrth geisio trechu camdriniaeth hiliol a thlodi.

Gwnaethom ni ei roi mewn cysylltiad â chysylltiadau allweddol, gan gynnwys tîm buddsoddi Chwaraeon Cymru, i edrych am gyfleoedd cyllido. Er mwyn cefnogi cymuned fwy cynhwysol a gwybodus, gwnaethom hefyd rannu adnoddau ar fodiwlau hiliaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, ynghyd â manylion ein seminar Ramadan, sy’n ceisio ennyn mwy o ddealltwriaeth ac ymgysylltiad ar draws diwylliannau.

SIR BENFRO: DENU CYMUNEDAU AMRYWIOL DRWY CHWARAEON

Yng Nghlwb Rygbi Sir Benfro, gwnaethom ni ymuno â bore coffi grŵp a oedd yn awyddus i wneud eu clwb yn fwy cynhwysol. Eu prif her? Ymgysylltu â chymunedau amrywiol.

Cawsom ni sesiwn o daflu syniadau a’u rhoi mewn cysylltiad â mentrau criced lleol, gan gydnabod pa mor boblogaidd yw’r chwaraeon ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gwnaethom ni hefyd rannu cyfleoedd cyllido – o  grantiau amgylcheddol i helpu i wella cyfleusterau, i fodiwlau hyfforddiant ar hiliaeth a chynhwysiant i gefnogi eu taith amrywiaeth.

HWLFFORDD: GRYMUSO MENYWOD A PHLANT YN Y MOSG

Ym Mosg Hwlffordd, cawsom sgwrs mewnweledol ag Afia am y galw mawr gan fenywod i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol. Serch y brwdfrydedd hwn, mae llawer o fenywod yn wynebu rhwystrau diwylliannol ac ymarferol sy’n ei gwneud hi’n anodd iddynt gymryd rhan. Mae awydd clir am fwy o gyfleoedd, ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi’r mosg i greu sesiynau cynhwysol a hygyrch i fenywod a phlant gadw’n heini a chadw cysylltiad.

Gwnaethom ni edrych ar syniadau ar gyfer sesiynau i fenywod yn unig sydd wedi’u teilwra i’w anghenion, fel dosbarthiadau ffitrwydd, grwpiau cerdded, neu hyd yn oed weithgareddau cymdeithasol ag elfen gorfforol.

Yn wahanol i Abertawe, mae ganddynt ddigonedd o le yma gan fod y gymuned wedi codi arian i brynu hen adeilad gwag y swyddfa Dreth gynt.

Ynghyd â hyn, aethom ati i edrych ar ddatrysiadau cynaliadwy, gan gynnwys cyllid ar gyfer paneli solar. Bydd hyn yn helpu i liniaru costau gwresogi cynyddol y mosg a’i dri adeilad. Gallai lleihau’r costau hyn ryddhau adnoddau i ail-fuddsoddi mewn gweithgareddau ar gyfer y gymuned, gan greu effaith bositif barhaol.

PRIF WERSI A DDYSGWYD: GWRANDO, DYSGU AC ARWAIN NEWID

Roedd y daith hon yn ymwneud â mwy na chynnig datrysiadau yn unig – roedd yn ymwneud â gwrando. Gwnaeth pob ymweliad atgyfnerthu’r angen taer am gymorth wedi’i deilwra, mynediad gwell i gyfleusterau a dealltwriaeth ddiwylliannol er mwyn sicrhau bod chwaraeon yn teimlo’n wirioneddol gynhwysol i bawb.

DIGWYDDIAD YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED A CHWARAEON GORLLEWIN CYMRU

Ein cam nesaf yw dwyn pawb ynghyd – cymunedau amrywiol lleol a mudiadau chwaraeon – i rwydweithio, rhannu arferion gorau, trechu heriau a dysgu o’n gilydd. Mae ein digwyddiad i ddod yn ymwneud ag adeiladu cysylltiadau, meithrin cydweithrediad ac edrych ar sut gallwn greu amgylchedd chwaraeon ffyniannus mwy cynhwysol i bawb yng ngorllewin Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer y Digwyddiad Ymgysylltu â’r Gymuned a Chwaraeon Gorllewin Cymru cyffrous hwn yn Abertawe yng nghanolfan galw heibio Tîm Cymorth a Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) ar ddydd Iau 8 Mai 2025.

Cofrestrwch eich presenoldeb.

NEWYDDION PERTHNASOL

Gyrru cynhwysiant ac amrywiaeth mewn chwaraeon – ein taith i ogledd Cymru

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 25/04/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr mewn gwasanaethau iechyd meddwl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/04/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Gwerth economaidd eich mudiad mewn wasanaethau iechyd a gofal

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/04/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Nifer y mudiadau sy’n cau yn y sector gwirfoddol ar gynnydd

Darllen mwy