phone being held by person playing a video

Oes gennych chi stori i’w hadrodd?

Cyhoeddwyd : 17/02/20 | Categorïau: Newyddion |

Mae Gŵyl Ffilm MewnUndod yn chwilio am fideos byr sy’n ystyrlon, creadigol a wneir gan wirfoddolwyr neu mudiadau gwirfoddol

Falch o gyhoeddi bod Gŵyl Ffilm Fer MewnUndod bellach yn derbyn cyflwyniadau fideo!

Mae’r ŵyl yn chwilio am fideos byr creadigol, ystyrlon sydd yn dangos sut mae rhoi’n ôl yn gyrru newid yn y gymdeithas ac yn grymuso pobl i fod y gorau gallant. Mae angen i chi greu fideo gan/gyda phobl ifanc (11-25).

Rydym wedi ymrwymo i ddangos y gwaith mwyaf beiddgar ac arloesol sydd yn herio ffiniau creu ffilm.

Bydd y 5 fideo sydd yn fuddugol yn derbyn gwobr ariannol a sylw cenedlaethol drwy @WCVA ac yn cael eu dangos yng ngŵyl #gofod3 ym mis Mawrth 2020, yn arddangos sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru.

Os ydych chi wedi cynhyrchu fideo byr eisoes sydd yn cyrraedd gofynion y gystadleuaeth, yna awgrymir yn gryf i chi gymryd rhan. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos eich gwaith da ar lefel genedlaethol.

Ceisiadau yn cau 1 Mawrth 2020, 11:59

Cofrestrwch ar mewnundod.cymru 

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch: dayana@promo.cymru / 029 2046 2222

gofod3

gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf i’r sector gwirfoddol yng Nghymru a chaiff ei drefnu gan CGGC.

Yn wahanol i unrhyw ddigwyddiad arall yng Nghymru, mae’r man hwn wedi’i neilltuo’n benodol i’r sector gwirfoddol ddysgu o’i gilydd, ysgogi ei gilydd ac ysbrydoli ei gilydd. Mae hwn yn gyfle prin ond hanfodol i ni ddod ynghyd ac effeithio ar newid yng Nghymru. Bydd digwyddiad eleni yn cael ei noddi gan Keegan & Pennykid ac yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 19 Mawrth 2020.

Mae gan gofod3 amserlen gyffrous a phrysur llawn siaradwyr, dosbarthiadau meistr, paneli trafod a gweithdai, yn ogystal â man arddangos rhyngweithiol sy’n cynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Archebwch tocynnau am ddim ar gofod3.cymru

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Newyddion

Datganiad ar yr ymosodiadau diweddar ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru dros gyfryngau cymdeithasol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Newyddion

Swydd Wag – Rheolwr Rhaglen Forol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy