Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd iawn i ddod â’n gwasanaeth Payroll Bureau i ben ar 30 Mehefin 2022. Gwnaed y penderfyniad hwn oherwydd y cymhlethdod a’r costau cynyddol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyflogres a’r anhawster o gyflogi staff sydd â sgiliau penodol yn y maes hwn. Am y rheswm hwn, ni allwn dderbyn unrhyw gleientiaid newydd.

Os oes angen cymorth arnoch gyda gwasanaethau cyflogres, rydym yn argymell eich bod yn siarad â’ch cyfrifydd/archwiliwr annibynnol eich hun neu’n cysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol a allai fod yn gyfarwydd â darparwyr cyflogres eraill yn eich ardal leol. Mae manylion cyswllt Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol ar gael drwy ddilyn y ddolen hon:

https://thirdsectorsupport.wales/cy/cysylltu/