Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn cynnwys ystod eang o fudiadau elusennol a mudiadau dielw. Mae’r mudiadau hyn yn llawer mwy tebygol o fod yn wydn, o gyflawni eu nodau ac o gael effaith bositif ar gymdeithas os cânt eu rheoli’n dda ac os oes ganddynt drefniadau llywodraethu da ar waith.
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth, canllawiau, offerynnau ac adnoddau i’ch cefnogi chi wrth gynnal eich mudiadau yn effeithiol. Mae’n cwmpasu pynciau o drefniadau llywodraethu ac arweinyddiaeth i ymddiriedolwyr ac uwch-aelodau o staff i’rgwaith o reoli eich mudiad o ddydd i ddydd. Ceir hefyd ganllaw penodol ar feysydd pwysig, megis mesurau diogelu, diogelwch data a dangos effaith.