Gwrth-hiliaeth

Yn CGGC, mae hiliaeth yn ein gwylltio, ac rydym yn cymryd camau i wneud yn siŵr ein bod nid yn unig yn fudiad sydd yn ei erbyn, ond ein bod hefyd yn chwarae rhan weithredol mewn difa hiliaeth.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn bwysig tu hwnt i ni yn CGGC ac mae ein grŵp Hyrwyddwyr EDI o blith ein staff wedi bod yn cyfarfod ers 2019 i sicrhau bod EDI yn cael y sylw pennaf ym mhopeth a wnawn.

Yn ystod yr amser hwn, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol i ddiogelu pobl rhag gwahaniaethu, cyflwyno arferion positif a rhoi’r hyder i’n staff ddweud eu dweud pan fyddant yn gweld rhywbeth o’i le. Gwnaethom hefyd lofnodi Addewid Dim Hiliaeth Cymru, gan ymrwymo i drechu hiliaeth lle bynnag y byddwn ni’n ei gweld.

Rydym yn sylweddoli nad yw’r gwaith hwn byth yn dod i ben a bod bob amser lle i wella, ond mae angen i ni fynd ymhellach. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld nifer o achosion torcalonnus ledled y DU, sy’n dangos bod hiliaeth yn dal i fodoli yn ein cymdeithas ac o fewn y sector gwirfoddol. Mae hyn yn ein gwylltio!

GWNEUD MWY O YMDRECH

Fel mudiad, mae CGGC yn mynd y tu hwnt i fod yn erbyn hiliaeth yn unig. Rydym ni’n cymryd camau fel y gallwn ddweud heb air o gelwydd, ‘d’oes dim lle i hiliaeth yn ein sector nac yn ein cymdeithas ehangach, ac rydyn ni’n gwneud rhywbeth amdano’.

Nawr yw’r amser i wneud safiad a chanolbwyntio ar weithrediadau yn hytrach na geiriau.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn canolbwyntio ar ymgymryd â rôl weithredol mewn gwrth-hiliaeth. Rydym hefyd wedi diweddaru’r term rydym ni’n ei ddefnyddio, o nawr ymlaen byddwn ni’n cyfeirio at EDIA (cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth) er mwyn sicrhau ein bod bob amser yn canolbwyntio’n gadarn ar y rôl honno.

EIN DATGANIAD GWRTH-HILIAETH

Yn CGGC, rydym yn credu’n danbaid nad yw hiliaeth o fewn y sector gwirfoddol na’r gymdeithas ehangach yn dderbyniol. Ni wnawn ni orffwys tan fod hiliaeth yn rhywbeth sy’n perthyn i’r oes o’r blaen.

Rydym yn benderfynol o ddod yn fudiad gwrth-hiliaeth ac yn annog ein partneriaid i wneud yr un fath. Nid yw’n ddigon i ladd ar hiliaeth; rhaid i ni fynd ati’n weithredol i ddod yn wrth-hiliol.

Ein rhoi ni ar y llwybr cywir

Mae angen i ni gymryd nifer o gamau. I ddechrau, mae angen i ni ddeall beth mae gwrth-hiliaeth yn ei olygu i ni, a beth mae’n ei olygu i’r sector gwirfoddol yng Nghymru a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd hefyd angen i ni edrych tuag at i mewn ar ein diwylliant yn CGGC, ein polisïau a’n pobl.

Y tu hwnt i’r camau cyntaf hyn, rhaid i ni sicrhau ein bod yn cadw’r momentwm i fynd, gan fanteisio ar bob cyfle i ddysgu a gweithredu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wrth-hiliaeth yma: *12 nodwedd o fudiad gwrth-hiliol.

Rydym yn benderfynol o fod yn deg a chyfartal ac i fynd ati’n rhagweithiol i herio anghyfiawnder hiliol y tu mewn a’r tu allan i’n mudiad. Mae angen i ni addysgu ein hunain, mae angen i ni wrando ar y rheini sydd wedi cael eu heffeithio, ac mae angen i ni ffurfio partneriaethau â’r rheini a all ein helpu ni i gael hyn yn gywir. Ac mae angen i ni ddechrau nawr.

Ein hymrwymiadau

Mae CGGC yn ymrwymo i’r gweithrediadau canlynol a yrrir gan werthoedd:

  • Arweinyddiaeth – Byddwn yn mynd ati’n ddiedifar i fabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol yn ein harferion a’n llywodraethiant. Yn aml, caiff pobl sy’n profi hiliaeth eu hepgor o gyfleoedd cyflogaeth. Byddwn ni’n gwella’r mynediad i gyfleoedd i ymuno â’n tîm – ar bob lefel o’r mudiad. Byddwn yn amrywio ein bwrdd ymddiriedolwyr, ein huwch-dîm a’n tîm staff ehangach. Byddwn yn ymrwymo’n llwyr i ddarparu a chefnogi’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Byddwn yn cysylltu â phartneriaid yn y DU i gefnogi *Home Truths 2 a phennu beth mae hyn yn ei olygu i Gymru. Byddwn yn ymdrechu i arddangos rhagoriaeth mewn gwrth-hiliaeth.
  • Dewrder – Byddwn yn edrych o ddifrif ar ein hunain. Byddwn yn uwchsgilio’r holl staff, arweinwyr ac aelodau bwrdd ac yn creu gofod ar gyfer sgyrsiau dewr. Er enghraifft, drwy weithio drwy bedair lefel y *Model Aeddfedrwydd mewn Tegwch Hiliol gan Shereen Daniels. Bydd hyn yn ein helpu i bennu i ba raddau rydym yn wrth-hiliol mewn gwirionedd a beth sydd angen i ni ei wneud nesaf.
  • Angerdd – Ni wnawn ni stopio fyth! Mae angen i wrth-hiliaeth fodoli yn ein diwylliant. Gyda chymorth ein Hyrwyddwyr EDIA (Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Gwrth-hiliaeth), byddwn yn defnyddio ein llais a’n platfformau i godi lleisiau’r rheini sydd wedi profi rhwystrau diwylliannol a hiliol i gael gafael ar wasanaethau. Mae ein hangerdd yn ddiysgog.
  • Uniondeb – Byddwn yn rhoi sylw i hiliaeth yn ein gweithle ac wrth weithio gyda phartneriaid. Bydd ein llwybr gwrth-wahaniaethu yn cael ei lansio ym mis Tachwedd 2024.Bydd ein hadolygiad polisi yn cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2025. Byddwn yn llunio ac yn cyhoeddi adroddiad gan CGGC ar fwlch cyflog ethnigrwydd yn 2025. Byddwn yn casglu a dadansoddi data gwerthfawr ac yn cael ein harwain gan leisiau’r rheini â phrofiad bywyd o hiliaeth. Ni fyddwn ni’n cael pethau’n iawn bob amser, ond byddwn ni’n agored am ein camgymeriadau ac yn dysgu oddi wrthynt er mwyn symud ymlaen gyda’n gilydd.
  • Tegwch – Byddwn yn cysylltu â chymunedau ledled Cymru nad ydynt yn gwybod am CGGC neu sy’n ei weld fel mudiad gwyn. Byddwn yn sicrhau bod lleisiau lleiafrifol du, brown a gwyn yn cael eu clywed gan CGGC a thu hwnt. Byddwn yn codi lleisiau mudiadau gwrth-hiliol eraill. Hwn fydd ein cwmpas i yrru newid.

‘Mae hiliaeth yn newid yn gyson. Os na wnawn ni lwyddo i’w ddifa, bydd yn parhau drwy’r cenedlaethau. Mae’n dod yn etifeddiaeth wrthnysig sy’n mynegi ei hun mewn mwtadiadau gwahanol, ac mae hynny’n difetha bywydau cenedlaethau’r dyfodol mewn ffyrdd gwahanol ….  Flynyddoedd maith yn ôl, roedd hiliaeth yn amlwg iawn, gyda llawer o bobl ethnig leiafrifol yn clywed yn uniongyrchol nad oedd eu heisiau. Heddiw, mae hiliaeth wedi newid i ymddygiadau cynnil bob dydd nad ydynt fymryn llai niweidiol yn eu heffeithiau. Rydym ni eisiau difa hiliaeth a chredwn mai mabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol yw’r allwedd i hyn.’

 Yr Athro Emmanuel Ogbonna
Cyd-gadeirydd, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru

*Saesneg yn unig