Rydyn ni’n gyffrous i ddatgelu’r bobl a’r mudiadau rhagorol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni.
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad ffantastig y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru.
Nod y gwobrau yw codi ymwybyddiaeth o’r gwahaniaeth positif a’r effaith bwerus y mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn ei chael ar hyd a lled Cymru, a thu hwnt, a thaflu goleuni ar waith anhygoel ein sector sy’n newid bywydau pobl.
Diolch i bawb a gymerodd ran a gwneud enwebiad eleni. Cawsom nifer anhygoel o enwebiadau o ansawdd uchel, a bu’n dasg anodd dros ben i’n panel beirniadu annibynnol!
TEILYNGWYR 2024
Mae wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni, dyma ein teilyngwyr ar gyfer 2024:
Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed a hŷn) – noddwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru
- Hazel Lim
- Matthew Steele
- Carmen Soraya Kelly
Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu’n iau) – noddwyd gan *Hugh James
- Molly Fenton
- Reece Moss Owen
- Tyler Agyapong
Codwr arian y flwyddyn – noddwyd gan *Thomas Carroll
- Milford Youth Matters
- Gofal Canser Tenovus: Tîm Digwyddiadau Her
- Diabetes UK Cymru, ymgyrch ‘Ailysgrifennu Stori Peter’
- Tîm Grantiau Mudiad Meithrin
Hyrwyddwr amrywiaeth – noddwyd ar y cyd gan *AP Cymru a’r *South Wales Autism Assessments
- Be.Xcellence CIC
- Cyngor Ffoaduriaid Cymru
- Mudiad Meithrin
Defnydd gorau o’r Gymraeg – noddwyd gan Mentrau Iaith
- Celfyddydau SPAN
- Gwasanaeth Ysgolion NSPCC Cymru
- Y Bartneriaeth Awyr Agored
Mudiad bach mwyaf dylanwadol – noddwyd gan *Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr
- Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
- Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
- Mentro i Freuddwydio
Iechyd a lles – noddwyd gan *Leaderful Action
- Prosiect Darpar Hyrwyddwyr – St Giles Cymru
- Megan’s Starr Foundation
- Atgofion Chwaraeon Cymru
Mudiad y flwyddyn – noddwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru
- Prosiect Newid y Gêm CIC
- Credydau Amser Tempo
- Fareshare Cymru
- Area 43
- Aren Cymru
LLONGYFARCHIADAU I’N HOLL ENWEBEION
Diolch eto i bawb a enwebodd rywun, cawsom ein syfrdanu gan storïau pobl a mudiadau yng Nghymru a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud.
Hoffem longyfarch ein holl enwebeion. Waeth a gyrhaeddoch chi’r rhestr fer neu beidio, rydyn ni’n gobeithio bod cymryd rhan yng Ngwobrau Elusennau Cymru yn dangos i chi gymaint mae eich gwaith yn ei olygu i’r bobl a’r cymunedau rydych chi’n eu cefnogi.
CAMAU NESAF
Rydyn ni wedi cysylltu â’r holl wirfoddolwyr a mudiadau bellach i roi gwybod iddynt a ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer. Bydd y mudiadau ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i noson wobrwyo fawreddog lle y bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi. Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 25 Tachwedd 2024.
RHAGOR O WYBODAETH
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau drwy fynd i gwobrauelusennau.cymru.
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn bosibl diolch i nawdd caredig ein prif noddwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, a’n holl noddwyr a chefnogwyr eraill … Diolch yn fawr bawb!
*Saesneg yn unig