Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod effaith gadarnhaol a chyfraniadau neilltuol elusennau, mudiadau cymunedol, cyrff nid-er-elw a gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru.
CEFNDIR
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol a fu ar fywydau pobl o ganlyniad i waith elusennau, yn ogystal â gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol mewn amrywiaeth o gymunedau o Fôn i Fynwy.
Y nod yw amlygu a chodi ymwybyddiaeth o’r gwahaniaeth cadarnhaol gallwn ei wneud i fywydau ein gilydd drwy wirfoddoli a gwerthfawrogi gwaith anhygoel gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol.
Mae wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni. Mae’r rhain yn cael eu rhestru isod.
Y CAMAU NESAF
Diolch o galon i bawb a enwebodd ac a gymerodd ran eleni. Cawsom nifer anhygoel o enwebiadau o ansawdd uchel, ac roedd yn waith anodd iawn i’n panel beirniadu annibynnol!
Rydyn ni nawr wedi cysylltu â’r holl wirfoddolwyr a mudiadau a enwebwyd i roi gwybod iddyn nhw a ydyn nhw wedi cyrraedd y rhestr fer ai peidio. Bydd y mudiadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad gwobrwyo mawreddog lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi. Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar 11 Hydref 2023.
Y RHEINI SYDD WEDI CYRRAEDD ROWND DERFYNOL 2023
Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn) – noddir gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru
- Gill Faulkner
- Susan Davies
- Nicola Harteveld
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau) – noddir gan Utility Aid
- Thandiwe McDonnell
- Charlotte Cooke
- Sara Madi
Cynhyrchydd incwm y flwyddyn – noddir gan Tantrwm
- Grŵp Afonydd Caerdydd
- Tŷ Hafan
- Sistema Cymru – Codi’r To
Gwobr hyrwyddwr amrywiaeth – noddir gan Hugh James
- WEN
- Môn Community Forward
- TGP
Gwobr defnydd gorau o’r Gymraeg – noddir gan Nico
- Cymdeithas Alzheimer
- Mind Cymru
- Pride Bontfaen
Gwobr arloeswr – noddir gan salesforce.org
- Tanio
- Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru
- Tîm Cymorth Dementia Cwm Taf Morgannwg
Gwobr iechyd a lles – noddir gan Gwelliant Cymru
- Cerebral Palsy Cymru
- Prosiect Iechyd Gwyllt (Ymddiriedolaeth Natur Gwent)
- Wye Gymnastics Galaxy Cheerleading
Gwobr mudiad y flwyddyn – noddir gan SCG Cymru
- Llamau
- FareShare Cymru
- Cyngor Ffoaduriaid Cymru
- Cycling4All ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun
- Calan DVS
RHAGOR O WYBODAETH
Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan gwobrauelusennau.cymru.