Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn dal Gwobr Mudiad y flwyddyn

Gwobrau Elusennau Cymru 2023 – Cyhoeddi’r enillwyr

Cyhoeddwyd : 12/10/23 | Categorïau: Newyddion |

Ar ôl derbyn mwy o enwebiadau nag erioed o’r blaen, dewch i weld pwy aeth â’r llestri gorau adref yn y Gwobrau Elusennau Cymru eleni.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn dathlu’r effaith bositif a’r cyfraniadau rhagorol sydd wedi’u gwneud gan elusennau, mudiadau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru.

Cawsom noson ffantastig yn ein seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2023, lle y buon ni’n dathlu’r holl deilyngwyr gwych ac yn cyhoeddi’r enillwyr am eleni. Y newyddiadurwr a chyflwynydd y BBC Sian Lloyd oedd yn cynnal y seremoni, a agorodd gyda neges fideo gan yr actor Michael Sheen, Llywydd CGGC.

Darllenwch ymlaen i gael gwybod am yr enillwyr a’r eilyddion yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023.

ENILLWYR AC EILYDDION 2023

Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu’n hŷn) – noddwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Enillydd: Nicola Harteveld

Nicola Harteveld yn dal gwobr Gwirfoddolwr y flwyddyn

  • Nicola Harteveld (canol) yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023 gyda Sian Lloyd (chwith) o’r BBC a Helen Thomas o’r Brifysgol Agored yng Nghymru (de)

Megan’s Starr Foundation

Roedd Nicola “mewn trallod llwyr” pan wnaeth ei merch 14 mlwydd oed, Megan, ladd ei hun yn 2017 oherwydd syberfwlio. Ymddangosodd ar raglen ‘This Morning’ i adrodd stori Megan, a sbardunodd hyn ymgyrch ‘Be Kind’ ITV, a wnaeth hefyd ennyn brwdfrydedd ynddi hi i rybuddio rhieni eraill am beryglon bwlio.

Arweiniodd hyn hi i sefydlu’r Megan’s Starr Foundation, sydd bellach wedi cyflwyno mwy na 300 awr o gymorth proffesiynol a chymorth gan gymheiriaid i bobl ifanc yn Sir Benfro, gan gynnwys hyfforddiant i fod yn Barista, cyrsiau hylendid bwyd a chyfleoedd hyfforddi eraill i 36 o bobl ifanc.

Wedi’i arwain yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, mae Nicola yn treulio dros 40 awr yr wythnos yn gwirfoddoli i’r elusen, yn cydlynu gwirfoddolwyr eraill yn y Tŷ Coffi Cymunedol, cynnal asesiadau ar gyfer atgyfeiriadau cwnsela, ac yn llunio ceisiadau grant. Mae hefyd yn gwneud cyflwyniadau gwrth-fwlio mewn ysgolion, colegau a mudiadau eraill.

Eilyddion:

  • Gill Faulkner
  • Dr Susan J Davies

Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu’n iau) – noddwyd gan Utility Aid

Enillydd: Sara Madi

Sara Madi yn dal Gwobr gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn

  • Sara Madi (canol) yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023 gyda Sian Lloyd (chwith) o’r BBC a Stephanie Steele o Utility Aid (de)

Canolfan Gymunedol Affricanaidd Cymru

Mae Sara, ceiswyr lloches 21 mlwydd oed o Lebanon, wedi ymsefydlu’i hun yn y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) fel gwirfoddolwr amhrisiadwy. Mae’n cynnig gwasanaeth dehongli Arabaidd, a hefyd wedi llwyddo i sefydlu ac arwain grŵp i fenywod ifanc, ‘Women Breaking Borders’, sy’n hyrwyddo gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc o ddiwylliannau amrywiol.

Fel llysgennad ar banel ieuenctid ACC, mae’n brwydro dros iechyd meddwl da a newid i’r system, ac mae hi wedi dechrau partneriaeth ACC gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gynnig ‘cyflwyniad i gwnsela’ i bobl ifanc o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Eilyddion:

  • Thandiwe McDonnell
  • Charlotte Cooke

Cynhyrchydd incwm y flwyddyn – noddwyd gan Tantrwm

Enillydd: Tŷ Hafan

Ty Hafan yn dal Gwobr cynhyrchydd incwm y flwyddyn

  • Tîm Tŷ Hafan yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023 gyda Sian Lloyd (chwith) o’r BBC a Dawn Penny o Dantrwm (de)

Tŷ Hafan

O ganlyniad i’r argyfwng costau byw, derbyniodd mudiad Tŷ Hafan 50% yn llai o roddion o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Er mwyn rhoi ‘hwb’ i’w hymdrechion codi arian cyhoeddus, datblygodd y tîm ymgyrch 60 awr hynod. Roedd yr ymgyrch hon yn seiliedig ar fodel codi arian newydd, ‘Hyrwyddwr Apeliadau’, a oedd yn canolbwyntio ar negeseuon diwedd oes.

Gan fynd y tu hwnt i bob disgwyliad, cododd £344,649 – bron £100,000 yn fwy nag unrhyw ymgyrch codi arian cyhoeddus arall gan Dŷ Hafan – a denodd bron 800 o roddwyr newydd.

Eilyddion:

  • Grŵp Afonydd Caerdydd
  • Sistema Cymru – Codi’r To

Gwobr Hyrwyddwr amrywiaeth – noddwyd gan Hugh James

Enillydd: Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN)

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru ar ol ennill Gwobr hyrwyddwr amrywiaeth

  • Tîm Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023 gyda Chyn-gyfarwyddwr Catherine Fookes (de) a Sian Lloyd (chwith) o’r BBC

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru

Mae WEN Cymru yn fudiad blaengar sy’n cydweithio’n eang i greu ymgyrchoedd effeithiol, fel ‘5050 Amrywiol’ a ‘Gwneud Gofal yn Deg’. Mae’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant i fenywod sy’n profi gwahaniaethu croestoriadol. Mae llwyddiannau diweddar yn cynnwys ymrwymiad i gwotâu rhywedd sy’n rhwym yn y gyfraith yn niwygiad y Senedd ac ymrwymiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig cyllid i oroeswyr camdriniaeth ddomestig heb fynediad at arian cyhoeddus.

Yn arwyddocaol, mae eu rhaglen fentora, ‘Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal’, a arweinir ar y cyd gan Anabledd Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) a Stonewall Cymru, wedi grymuso 100 o fentoreion y flwyddyn i fynd i faes gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Y llynedd, adroddodd 85% o’r mentoreion bod ganddyn nhw fwy o hyder i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, a gwnaeth naw o’r mentoreion hyn sefyll fel cynghorwyr yn 2022 (gyda chwech yn cael eu hethol).

Eilyddion:

  • Môn Communites Forward
  • Rhaglen Ffoadur a Lloches TGP Cymru: ‘Prosiect Belong’

Gwobr defnydd gorau o’r Gymraeg – noddwyd gan Nico

Enillydd:

Gwasanaeth Ffôn Cymorth Dementia’r Gymdeithas Alzheimer

Cymdeithas Alzheimer’s Cymru yn dal Gwobr Defnydd gorau o'r Gymraeg

  • Tîm Gwasanaeth Ffôn Cymorth Dementia Cymdeithas Alzheimer Cymru yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023 gyda Sian Lloyd (chwith) o’r BBC a Nia Davies o Nico (de)

Gwasanaeth Ffôn Cymorth Dementia Cymdeithas Alzheimer Cymru

Mae Cymdeithas Alzheimer Cymru wedi hybu eu darpariaeth o wasanaethau Cymraeg lleol a chenedlaethol eleni, drwy wella eu cymorth yn y gymuned a thros y ffôn, ynghyd ag ansawdd a chywirdeb y deunyddiau sydd ganddynt wedi’u cyfieithu ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau sy’n siarad Cymraeg. Mae hyn yn bwysig, oherwydd mae ymchwil wedi dangos y gall pobl sy’n byw gyda dementia droi i siarad eu hiaith gyntaf yn unig wrth i’r clefyd ddatblygu.

Yn 2022/23 yn unig, gwnaeth eu Gwasanaeth Ffôn Cymorth Dementia Cymraeg ledled Cymru gefnogi 281 o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a effeithiwyd gan ddementia. Pan maen nhw’n cael anhawster cynnig cymorth Cymraeg wyneb yn wyneb mewn ardaloedd heb staff rhugl, maen nhw bellach yn talu i Gynghorwyr Dementia Cymraeg eu hiaith sy’n gweithio mewn mannau eraill deithio i’r defnyddiwr gwasanaeth.

Eilyddion:

  • Mind Cymru
  • Pride y Bontfaen

Gwobr Arloeswr – noddwyd gan Salesforce.org

Enillydd: Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru

Community Volunteers Wales ar ol ennill gwobr Arloeswyr

  • Tîm Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023 gyda Sian Lloyd (chwith) o’r BBC

Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru

Mae’r Pantri, a sefydlwyd ym mis Chwefror 2023 gan Wirfoddolwyr Cymunedol Cymru, yn cyflwyno dull unigryw o gynnig cymorth bwyd yn Rhisga, ac yn arallgyfeirio oddeutu 400kgs o fwyd a deflir o safleoedd tirlenwi bob wythnos.  Mae’r pantri bwyd cymunedol arloesol hon yn wahanol i fanciau bwyd traddodiadol, oherwydd mae’n grymuso cwsmeriaid i wneud dewisiadau cynaliadwy a fforddiadwy, ar eu cyflymder eu hunain, gan hefyd leihau gwastraff bwyd.

Mae’n agored i bawb, ond yn arbennig i’r rheini ar gyllideb dynn. Mae aelodau’n talu cyfraniad o £2, bob tri mis, yna £4 am fasged o fwyd. Mae digon o fwyd ynddi am ddeg pryd bwyd maethlon. Mae’r Pantri yn cynnig nwyddau cwpwrdd sylfaenol a chynnyrch ffres i’w aelodau, a’r cwbl yn ddigon da i’w bwyta ac o fewn y dyddiad y dylid eu defnyddio erbyn. Daw’r bwyd drwy bartneriaethau â Blakemore & Sons a’r elusen flaenllaw, Fareshare.

Eilyddion:

  • Tanio
  • Tîm Cymorth Dementia Cwm Taf Morgannwg

Gwobr iechyd a lles – noddwyd gan wasanaeth Gwelliant Cymru

Enillydd: Wye Gymnastics & Galaxy Cheerleading

Wye Gymnastics & Galaxy Cheerleading yn dal Gwobr Iechyd a lles

  • Tîm Wye Gymnastics & Galaxy Cheerleading yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023 gyda Sian Lloyd (chwith) o’r BBC a Sarah Patmore o Welliant Cymru (de)

Wye Gymnastics & Galaxy Cheerleading 

Mae Wye Gymnastics & Galaxy Cheerleading yn cynnig cyfleoedd cynhwysol i bobl sy’n byw yn Sir Fynwy a Chasnewydd gymryd rhan mewn gweithgareddau gymnasteg a chodi hwyl.

Mae’r mudiad, sydd yng nghanol Cil-y-coed, yn cynnig sylfaen ardderchog i bobl o bob oed gymryd rhan mewn ymarfer corff, gan gefnogi ac ysbrydoli trigolion i fyw bywydau hapus, iach a ffyniannus. Yn 2022, gwnaethant gyflwyno 225 o sesiynau, ar draws deg lleoliad, gan effeithio ar 122 o bobl  .

Eilyddion:

  • Cerebral Palsy Cymru
  • Prosiect Iechyd Gwyllt (Ymddiriedolaeth Natur Gwent)

Mudiad y flwyddyn – noddwyd gan SCG Cymru

Enillydd: Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn dal Gwobr Mudiad y flwyddyn

  • Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru Andrea Cleaver (ail o’r chwith) a rhai o’r tîm gyda Sian Lloyd (chwith) o’r BBC a Gary Pepper, SCG Wales (de), yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Gyda chefndir gelyniaethus y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau a Chynllun Rwanda y tu ôl iddynt, mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) wedi gweithio’n ddiflin i gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid ledled Cymru. Mae’r tîm, sydd wedi ennill ymddiriedaeth y cymunedau amrywiol y mae’n eu gwasanaethu, yn siarad mwy na 30 o ieithoedd, ac mae gan fwy na hanner y staff ddiwylliant mudol.

Mae WRC wedi llwyddo i gael gafael ar 15 o ffrydiau cyllido newydd ac wedi cynyddu ei incwm o 60% ers 2020. Gyda’i gilydd, mae WRC wedi cyflwyno 3,000 o sesiynau cymorth i 700 o geiswyr noddfa o fwy na 50 o wledydd, ac wedi dod o hyd i gartrefi i ymhell dros 200 o ffoaduriaid a fyddai wedi bod yn ddigartref fel arall.

Eilyddion:

  • Llamau
  • FareShare Cymru
  • Beicio i Bawb
  • Calan DVS

DIOLCH YN FAWR

Diolch i bob un ohonoch chi sydd wedi bod yn rhan o Wobrau Elusennau Cymru eleni. Mae’r gwaith y mae gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn ei wneud yn anhygoel ac mae’n fraint o’r mwyaf ei ddathlu.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at seremoni blwyddyn nesaf yn barod!

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy