Urdd Gobaith Cymru yn derbyn eu tlws am gipio gwobr Mudiad y Flwyddyn yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2022

Gwobrau Elusennau Cymru 2023 – Wythnos i fynd!

Cyhoeddwyd : 16/06/23 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Newyddion |

Cyfle olaf i ddathlu effaith newid bywydau nid yn unig elusennau ond gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol o bob lliw a llun yng Nghymru. Dyddiad cau 26 Mehefin 2023, 5 pm.

Wedi’u trefnu gan CGGC, mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad ffantastig y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.

Rydym yn ddiolchgar i’n prif noddwr, SCG Cymru am wneud y gwobrau’n bosib.

CATEGORÏAU

Mae wyth categori ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2023 a gallwch wneud un enwebiad ar gyfer pob categori.

Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn) – noddir gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

A

Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau) – noddir gan Utility Aid

Bydd y wobr hon yn mynd i unigolyn eithriadol sy’n gwneud cyfraniad arbennig iawn at y gymuned neu’r amgylchedd drwy wirfoddoli. Gall y gwirfoddolwr hwn fod yr un sy’n arwain ac yn ysbrydoli eraill, neu sy’n ‘mynd yr ail filltir’ i ‘ddod â phopeth i fwcwl’, neu’r un y tu ôl i’r llenni sy’n dal popeth gyda’i gilydd.

Y naill ffordd neu’r llall, bydd y ffocws ar y gwahaniaeth positif sydd wedi’i gyflawni, yn hytrach nag ar am faint o amser a dreuliwyd yn gwirfoddoli. Bydd yr enwebiad buddugol yn dangos y newid y gall cyfraniad gwirfoddol unigolyn arwain ato, fel effaith gwirfoddoli ar fuddiolwyr, y gymuned neu’r amgylchedd neu’r effaith ar wirfoddolwyr eraill neu staff.

Cynhyrchydd incwm y flwyddyn – noddir gan Tantrwm

Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu fudiad sydd wedi addasu neu ddiweddaru eu harferion cynhyrchu incwm (gallai hyn fod yn godi arian, masnachu neu waith contract/wedi’i gomisiynu) a/neu eu prosesau mewnol ac sy’n gallu dangos eu bod wedi dod yn gynaliadwy a gwydn yn ariannol.

Bydd y mudiad buddugol yn dangos eu bod wedi meddwl yn strategol am sut maen nhw’n rheoli eu hymdrechion cynhyrchu incwm a’u cyllid er mwyn addasu a pharatoi’n well ar gyfer yr hinsawdd gymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu’r sector gwirfoddol yng Nghymru a thu hwnt.

Gwobr hyrwyddwr amrywiaeth – noddir gan Hugh James

Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad neu grŵp sydd wedi gwneud ymdrechion eithriadol i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn eu cymuned. Rydyn ni eisiau cydnabod a dathlu’r rheini sydd wedi gweithio’n ddiflin i greu amgylchedd mwy cynhwysol a chroesawgar i holl aelodau’r gymdeithas, waeth beth yw eu hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, anabledd neu gefndir.

Rydyn ni’n annog enwebiadau sydd wedi dangos ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn eu rhaglenni, gwasanaethau, polisïau ac arferion, er mwyn dathlu cyfraniadau’r rheini sydd wedi helpu i wneud ein cymunedau’n fwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol.

Gwobr defnydd gorau o’r Gymraeg – noddir gan Nico

Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad neu grŵp sy’n gallu dangos ymdrech arbennig i gynyddu a/neu wella darpariaeth eu gwasanaeth(au) yn Gymraeg. Bydd y rhai buddugol yn mynd ati’n effeithiol i ddangos sut maen nhw wedi ystyried anghenion eu defnyddwyr gwasanaethau ac wedi defnyddio dull arloesol i oresgyn rhai o’r heriau y maen nhw wedi’u hwynebu wrth gynnig gwasanaeth yn y Gymraeg. Byddant hefyd yn egluro sut mae profiad y defnyddiwr gwasanaeth wedi gwella drwy ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Gwobr arloeswr – noddir gan Salesforce.org

Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu fudiad sydd wedi rhoi cynnig ar ddull newydd neu wedi gwneud rhywbeth blaengar neu arloesol i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.

Rydyn ni’n chwilio am fudiadau sy’n arwain y ffordd yn eu maes ac yn rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o wella eu gwasanaethau a helpu eu cymunedau. Gallai hyn gynnwys defnyddio technolegau newydd, diogelu’r mudiad ar gyfer y dyfodol, neu fynd i’r afael â materion mawr fel y newid yn yr hinsawdd. Waeth beth yw’r dull gweithredu arloesol, dylai ddangos effaith gadarnhaol ar bobl eraill, a dangos bod y mudiad wedi newid y ffordd y mae’n gweithredu.

Gwobr iechyd a lles – noddir gan Gwelliant Cymru

Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno i grŵp neu fudiad sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymuned drwy wella lles meddyliol a/neu iechyd a lles corfforol. Bydd y cais buddugol yn dangos y newid cadarnhaol yn llesiant eu cymuned neu gymdeithas ehangach o ganlyniad i’w camau gweithredu. Bydd hefyd yn amlygu eu dull arloesol o wella iechyd a lles.

Gwobr Mudiad y flwyddyn – noddir gan SCG Cymru

Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad eithriadol sydd wedi cyflawni llawer iawn yn y flwyddyn ddiwethaf ac y mae eraill yn y sector yn ei barchu a’i edmygu. Bydd y cais buddugol yn fudiad gwydn ac yn dangos safonau uchel o lywodraethu. Bydd mudiad y flwyddyn hefyd yn gallu dangos sut y mae wedi cyflawni ei amcanion drwy arloesi a thynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar ei ddefnyddwyr gwasanaeth, gan newid bywydau er gwell.

YR AMSERLEN AR GYFER 2023

  • 26 Mehefin 2023 – Dyddiad cau enwebu
  • W/C 31 Gorffennaf 2023 – Cyhoeddi’r rhestr fer
  • 11 Hydref 2023 – Seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd

ENILLWYR A’R SEREMONI

Byddwn ni’n cysylltu â’r holl enwebeion ar ddechrau mis Awst i roi gwybod iddynt a ydyn nhw wedi cyrraedd y rhestr fer. Bydd y mudiadau ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd wedyn i seremoni ddisglair a hudolus lle byddwn ni’n cyhoeddi’r enillwyr!

DARGANFOD MWY A GWNEUD ENWEBIAD

Gallwch ddarganfod mwy am y gwobrau drwy ymweld â gwobrauelusennau.cymru lle byddwch hefyd yn gallu gwneud eich enwebiadau. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y rheolau cyn enwebu.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy