Mae Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru yn fenter arloesol yng Nghymru, sy’n canolbwyntio’n benodol ar arddangos cyflawniadau athletwyr lleiafrifoedd ethnig.
NOD Y GWOBRAU
Mae Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru yn gweithredu fel llwyfan sy’n tynnu sylw ar athletwyr lleiafrifoedd ethnig, gan ganiatáu iddynt fod yn ffigurau ysbrydoledig a modelau rôl yn eu cymunedau eu hunain.
Rydym am gyfrannu at weledigaeth Chwaraeon Cymru o genedl egnïol lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes a chreu cymdeithas fywiog lle gall unigolion o bob oed gael pleser gydol oes o chwaraeon. Sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn fforddiadwy, heb adael neb ar ôl.
CATEGORÏAU A MEINI PRAWF DYFARNU
Gwirfoddolwr y flwyddyn
Gwobr sy’n cydnabod unigolyn sydd wedi dangos ymroddiad eithriadol ac wedi cael effaith sylweddol wrth hyrwyddo amrywiaeth ethnig a chynhwysiant yn y diwydiant chwaraeon drwy eu gwaith gwirfoddol.
Personoliaeth y flwyddyn
Gwobr sy’n cydnabod unigolyn sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr mewn cymuned, clwb neu weithgaredd chwaraeon mewn cymunedau amrywiol.
Mabolgampwraig y flwyddyn
Gwobr sy’n cydnabod mabolgampwraig fenywaidd o gymuned amrywiol sy’n codi i’r brig yn barhaus yn y gamp o’u dewis.
Mabolgampwr y flwyddyn
Gwobr sy’n cydnabod mabolgampwr gwrywaidd o gymuned amrywiol sy’n codi i’r brig yn barhaus yn y gamp o’u dewis.
Unigolyn ysbrydoledig y flwyddyn
Gwobr sy’n cydnabod unigolyn sydd wedi dangos sgiliau arwain, mentora neu hyfforddi rhagorol.
Person ifanc y flwyddyn
Gwobr sy’n cydnabod unigolyn o dan 18 oed a’r cyflawniadau chwaraeon a gyflawnwyd gan yr athletwr dros y deuddeg mis diwethaf.
Clwb y flwyddyn
Gwobr sy’n cydnabod ac yn dathlu llwyddiant, datblygiad neu gyflawniad eithriadol arwyddocaol yn ystod y deuddeg mis diwethaf i dîm neu glwb.
Cyfraniad eithriadol i chwaraeon
Gwobr sy’n cydnabod unigolyn sydd wedi dangos gwaith eithriadol ac wedi cael effaith sylweddol wrth hyrwyddo amrywiaeth ethnig a chynhwysiant ym maes chwaraeon.
Prosiect chwaraeon cymunedol y flwyddyn
Gwobr sy’n cydnabod prosiect sydd wedi darparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i ennyn diddordeb cymunedau ethnig amrywiol.
Hyfforddwr y flwyddyn
Gwobr sy’n cydnabod hyfforddwr sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn hyfforddi, wrth feithrin cynhwysiant, mentoriaeth a chyfle cyfartal i athletwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol.
Gwobr chwaraeon cynhwysol
Gwobr sy’n cydnabod prosiect sydd wedi bod yn chwalu rhwystrau ym myd chwaraeon.
Gwobr cyflawniad oes
Gwobr sy’n cydnabod unigolyn y mae eu hymrwymiad i chwaraeon wedi creu argraff barhaol ar y diwydiant ac a fydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i chwaraeon Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth darllenwch feini prawf a chategorïau’r gwobrau llawn.
GWNEUD ENWEBIAD
Rhaid derbyn enwebiadau erbyn hanner nos ar 29 Medi 2023 trwy lenwi’r ffurflen enwebu ar-lein.