Mae staff WSSPR yn ennill gwobr ac yn gwenu yn dal eu tlws

Gwobr i bartner presgripsiynu cymdeithasol CGGC

Cyhoeddwyd : 26/11/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae CGGC, fel partner yn Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) wedi ennill gwobr glodwiw ar gyfer effaith ac ymgysylltiad.

GWOBRAU YMGYSYLLTIAD AC EFFAITH

Daw WSSPR o dan arweiniad Prifysgol De Cymru. Yn ddiweddar, cynhaliodd y Brifysgol ei Gwobrau Ymgysylltiad ac Effaith i ddathlu cyraeddiadau’r staff hynny sy’n gwneud gwaith ymchwil ac arloesi gyda phartneriaid allanol ar bethau sy’n effeithio ar gymunedau.

Enillodd WSSPR Wobr Ymgysylltu i wneud Effaith, a oedd yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed i ymgysylltu â rhanddeiliaid a lledaenu’r gwaith ymchwil ar bresgripsiynu cymdeithasol y tu hwnt i’r byd academaidd.

YMGYSYLLTU Â RHANDDEILIAID

Mae WSSPR, mewn partneriaeth ag CGGC, wedi ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn ogystal â rhanddeiliaid cyhoeddus a chymunedol. Mae’r ymgysylltiad wedi digwydd drwy ddigwyddiadau a fforymau, gan gynnwys lansio’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, ac astudiaethau ymchwil a datblygiad. Mae hyn wedi helpu i gynyddu’r ddealltwriaeth o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, cael gwared â’r rhwystrau i ymgysylltu a gwella dulliau gwerthuso.

Mae enghreifftiau penodol yn cynnwys:

  • Datblygu Rhestr Dermau ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Datblygu Graddfa Llesiant Cymdeithasol De Cymru (SWSWBS), sef adnodd mesur i ddangos effaith gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol. Mae eisoes wedi’i defnyddio mewn arolwg Cymru gyfan a arweiniwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae cais wedi dod i law i’w defnyddio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn y dyfodol.
  • Rôl WSSPR o fewn y grŵp llywio i ddatblygu Fframwaith Cymhwysedd, a’i hymgysylltiad ag aelodau eraill a rhanddeiliaid allweddol er mwyn hysbysu datblygiad fframwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd yn mynd i’r afael â’r sgiliau a’r wybodaeth graidd y bydd eu hangen i baratoi’r gweithlu ar gyfer darparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol o ansawdd uchel sydd wedi’u personoli.

Dywedodd yr Athro Carolyn Wallace, Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru:

‘Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i ddarparu presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae mewn gwella iechyd a lles ar gyfer unigolion a’n cymunedau. Roedd ennill y wobr hon yn dyst i lwyddiant y bartneriaeth hon. Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf i weithio gydag CGGC yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, a boed iddo barhau.’

Dywedodd Dr Simon Newstead, Uwch Gynorthwyydd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru:

‘Rydyn ni’n ddiolchgar iawn o gael y wobr hon, sy’n cydnabod ymdrechion cydweithio WSSPR, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.’

AM FWY O WYBODAETH

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gwobrau Ymgysylltu ac Effaith, Prifysgol De Cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 22/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Chwilio am syniad Nadoligaidd syml i godi arian?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gyrru cynhwysiant ac amrywiaeth mewn chwaraeon – ein taith o gwmpas gogledd Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy