Gwobr Adeiladu Ymddiriedaeth y Cyhoedd

Gwobr Adeiladu Ymddiriedaeth y Cyhoedd

Cyhoeddwyd : 06/06/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae Gwobr Adeiladu Ymddiriedaeth y Cyhoedd am Effaith mewn Menter Gymdeithasol 2022 ar agor am geisiadau, a gallech chi ennill £5,000!

Mae Gwobr Adeiladu Ymddiriedaeth y Cyhoedd PwC, mewn cydweithrediad â’r Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol, yn cydnabod rhagoriaeth mewn mentrau cymdeithasol sy’n gallu dangos effaith gymdeithasol neu amgylcheddol bositif.

Bydd yr enillydd yn derbyn rhodd o £5,000 a bydd dau eilydd yn derbyn rhodd o £2,500 yr un gan Glwb Entrepreneuriaid Cymdeithasol PwC, i’w helpu i barhau i gynyddu eu heffaith.

Bydd y ceisiadau’n cael eu gwerthuso ar sail yr egwyddorion canlynol:

  • Dangos effaith gymdeithasol neu amgylcheddol bositif a gefnogir gan dystiolaeth.
  • Dangos defnydd da o ddulliau mesur effaith neu werthuso.
  • Cynnwys rhanddeiliaid a chyfathrebu â nhw.
  • Cyfathrebu ei effaith arfaethedig a gwirioneddol yn glir yn yr adroddiadau neu dystiolaeth a ddarparwyd.

Bydd y ceisiadau yn cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr pwnc o blith PwC, yr Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol eraill. Bydd y panel yn llunio rhestr fer o ddeg ymgeisydd i ddechrau ac yna’n dewis tri ar gyfer y rownd derfynol. Bydd y rhai sydd drwodd i’r rownd derfynol yn cael eu hystyried wedyn gan banel feirniadu annibynnol.

CYMHWYSEDD

Mae’r dyfarniad hwn yn agored i bob menter gymdeithasol yn y DU. Rhaid i ymgeiswyr gael adroddiad effaith a chyflwyno hwn fel rhan o’u cais. Dyma rai o’r meini prawf eraill:

  • Mae gan y busnes genhadaeth gymdeithasol/amgylcheddol glir sydd wedi’i hamlinellu yn ei ddogfennau llywodraethu
  • Mae’r busnes yn annibynnol ac yn ennill mwy na hanner ei incwm drwy fasnachu (oni bai ei fod wedi bod yn masnachu am lai na 24 mis)
  • Mae wedi’i reoli neu ym mherchnogaeth yr unigolion dan sylw er budd y genhadaeth gymdeithasol/amgylcheddol
  • Mae’n dryloyw ynghylch sut mae’n gweithredu a’i effaith
  • Mae’n ail-fuddsoddi o leiaf hanner ei elw neu warged yn ei ddiben cymdeithasol neu amgylcheddol neu’n ei ddefnyddio at y dibenion hynny

ENILLWYR BLAENOROL

Enillydd y llynedd oedd Noise Solution, menter gymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr ac yn defnyddio cerddoriaeth i fynd i’r afael â phroblemau fel ymddygiadau sy’n tarfu ar eraill, diffyg cymhelliant, diffyg hunan-barch, dim llawer o ymgysylltu, niwroamrywiaeth, gorbryder, iselder a myfyrwyr mewn perygl o gael eu gwahardd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar ddydd Gwener 17 Mehefin 2022. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yng nghinio Gwobrau Ymddiriedaeth y Cyhoedd PwC yn ddiweddarach y flwyddyn hon.

Ewch yma am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad at y ffurflen gais ar-lein (Saesneg yn unig).

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy