Gwnewch wahaniaeth mawr fel ymddiriedolwr i CGGC
19 Awst 2019
Mae CGGC yn gofyn am enwebiadau i ymuno â’n bwrdd – helpwch ni i alluogi mudiadau yng Nghymru i wneud fwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
Mae angen i Gymru fod yn barod i daclo’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau. I wneud hyn credwn ein bod angen sector wirfoddol cydweithrediadol, grymus sydd â ffocws. Rydym angen mudiadau gwirfoddol nawr yn fwy nac erioed.
Dyma ble mae CGGC yn camu i’r adwy. CGGC yw’r corff aelodaeth cenedlaethol yng Nghymru ac rydym yn bodoli i alluogi elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol a gwirfoddolwyr yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
Y flwyddyn hon rydym yn chwilio am bedwar aelod bwrdd deinamig ac egnïol sy’n bwriadu gwneud Cymru yn le gwell – yn enwedig y rhai hynny â chefndir ariannol a all gymryd rhan y dirprwy drysorydd.
Beth mae’n olygu i fod yn ymddiriedolwr?
Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwr yn gorff llywodraethu i CGGC ac yn gyfrirfol yn ariannol a chyfreithiol dros osod gweledigaeth a chyfeiriad strategol.
Mae ein Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith yr wythnos yn ystod oriau swyddfa yng Nghaerdydd ac mae ymddiriedolwyr yn cael eu had-dalu am unrhyw gostau o’u poced eu hunain. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus fel rheol yn cael eu penodi am gyfnod o dair mlynedd ac yn cael gwasanaethu am gyfnod o naw mlynedd.
Mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i’r holl ymddiriedolwr a gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am fod yn ymddiriedolwr yma.
Dyma Jonathan Evans, ymddiriedolwr a thrysorydd gyda CGGC, yn siarad am ei brofiad a pam ddylech chi ymuno a fwrdd CGGC fel dirprwy trysorydd.
Y tri cham ar gyfer gwneud enwebiad
Aelodau o CGGC yn unig all enwebu pobl ar gyfer y bwrdd (er nid oes rhaid i’r rhai a enwebir fod yn aelodau o CGGC eu hunain).
Mae tri phrif gam mae angen eu dilyn:
- Dewis eich enwebai. Gall bob mudiad sy’n aelod enwebu hyd ar ddau o bobl gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu.
- Cael cytundeb mudiad arall sy’n aelod o CGGC fel eiliwr (mae’n rhaid i’r eiliwr fod o fudiad aelod CGGC gwahanol i’r cynigydd)
- Gofyn i’r enwebwr gwblhau ffurflen gais ymddiriedolwr a’i hanfon gyda’i CV.
Eisiau sgwrs?
Os hoffwch sgwrs anffurfiol cyn ymgeisio cysylltwch â Ruth Marks, Prif Weithredwr ar 02920 431734 neu rmarks@wcva.cymru ac am unrhyw wybodaeth bellach ar y broses ethol, cysylltwch â Tracey Lewis ar tlewis@wcva.cymru neu 02920 431734.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau a ffurflenni ymgeisio yw dydd Gwener 13 Medi 2019.
Pecyn enwebu
Ffurflen enwebu
Nodiadau esboniadol y papurau enwebu
Pecyn gwybodaeth enwebai
Ffurflen ymgeisio ymddiriedolwr
Rhestr o aelodau CGGC
Ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal
Nodyn preifatrwydd