Mae cynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru ar agor nawr ar gyfer prosiectau a fydd yn edrych ar wirfoddoli yn yr hirdymor a gwella arferion gwirfoddoli yng Nghymru.
Nod Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG) yw cynorthwyo nifer bychan o brosiectau strategol i adeiladu ar y dulliau newydd neu well o ymdrin â gwirfoddoli yng Nghymru a dysgu o’r dulliau hyn.
CYLCH DAU 2025-28
Ar gyfer y cylch cyllido hwn, croesawir cynigion o ansawdd uchel o’r meysydd blaenoriaethol canlynol:
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Addysg a phobl ifanc
- Argyfwng yr amgylchedd/hinsawdd
- Celfyddydau/diwylliant/chwaraeon
- Y Gymraeg/cymunedau
AMCANION Y GRANT
Nod y cynllun Grant yw datgloi potensial strategol gwirfoddoli dros y cyfnod mwy hirdymor drwy:
- Nodi ac edrych ar yr angen a’r cyfleoedd strategol ar gyfer cael gwared ar rwystrau i wirfoddoli (ar raddfa)
- Cryfhau neu edrych ar bartneriaethau o fewn a rhwng y trydydd sector, y sector preifat a’r sector cyhoeddus
- Cefnogi’r gwaith o ehangu modelau cyflawni a’r seilwaith strategol a mudiadau gwirfoddol er mwyn ymwreiddio arferion da sy’n dod i’r golwg
- Gwneud dysgu trwyadl o ran cydraddoldeb a chynhwysiant mewn gwirfoddoli ac edrych ar sut mae hyn yn effeithio ar gymunedau a’u hymgysylltiad
- Denu buddsoddiad pellach, ariannol ac anariannol
- Creu cronfa ddysgu i’w rhannu â Chymuned Ymarfer Gwirfoddoli Cymru sy’n brysur ehangu
DERBYNYDDION BLAENOROL
Mae llawer i’w ddysgu gan dderbynyddion Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru sydd wedi bod yn arwain prosiectau arloesol sy’n edrych ar wirfoddoli yn yr hirdymor a sut gallwn ddatgloi ei botensial.
Dyma rai enghreifftiau o’r prosiectau a’r adnoddau y maen nhw wedi’u creu.
Sported – Prosiect Gwirfoddoli Strategol Cymru: Nod hwn yw gwella capasiti ac effaith gwirfoddoli ar lefel bwrdd, ymddiriedolwyr a rheolwyr ar gyfer grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n darparu gweithgareddau corfforol a chwaraeon.
Mae’n cynnwys dau gam: yn gyntaf, deall ac adrodd ar y dirwedd gwirfoddoli ar y lefel hon o fewn grwpiau cymunedol yng Nghymru ac yn ail, cyflwyno cyfres o argymhellion i randdeiliaid o fewn y sector ar y ffordd orau o gyflawni cynnydd o’r fath mewn capasiti ac effaith.
Trwy wneud hyn, mae’r prosiect yn gobeithio cysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru a’i chefnogi. Yn benodol, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar sgiliau a datblygiad gwirfoddolwyr (Cymru ffyniannus), sector gwirfoddoli cynhwysol a hygyrch (Cymru fwy cyfartal) a chymuned wirfoddoli sy’n hyrwyddo a diogelu cymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden (Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu)
Gellir gweld y ddau adroddiad ar Yr Hwb Gwybodaeth: Sported – Adroddiad ymchwil Sported – Adroddiad datrysiadau
Innovate Trust – Hwb Gwirfoddoli: Insight yw ap cymunedol am ddim Innovate Trust i oedolion ag anableddau dysgu. Yma, gall unigolion ymuno â gweithgareddau, postio diweddariadau a gwneud ffrindiau. Nod Insight yw trechu ynysigrwydd drwy gyflwyno ap sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn lle gall unigolion gael eu cynnwys yn ddigidol mewn lle diogel a chefnogol.
Trwy’r gwerthusiad hwn, canfu bod unigolion eisiau gwirfoddoli a chael gafael ar wybodaeth addas am wirfoddoli mewn man sydd eisoes yn teimlo’n ddiogel iddynt. Dyma le y ganwyd y syniad o Hwb Gwirfoddoli.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar Yr Hwb Gwybodaeth: Innovate Trust – Hwb Gwirfoddoli
I WNEUD CAIS
Y dyddiad cau i ymgeiswyr yw dydd Gwener 22 Mai 2026, 11.59pm. Darllenwch y canllawiau llawn ar gyfer y cynllun cyn gwneud cais.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, ewch i’n tudalen, Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru.