Mae cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru yn cyllido prosiectau sy’n cefnogi profiad gwirfoddoli positif, yn mynd i’r afael â’r rhwystrau i wirfoddoli ac yn cael effaith hirdymor ar y gymuned.
Mae cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru 2025-28 yn derbyn ceisiadau nawr drwy Borth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar brosiectau sy’n mynd i’r afael â’r rhwystrau i wirfoddoli, yn rhoi profiad positif i’r gwirfoddolwr ac yn cael effaith hirdymor ar y gymuned.
Bydd cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn ar gael, dros ddwy flynedd ar y mwyaf. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Ionawr 2025 am 23:59.
YNGLŶN Â GRANTIAU GWIRFODDOLI CYMRU
Gwirfoddoli yw un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n olrhain cynnydd Cymru yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw gwella’r ffordd y mae Cymru yn cyflawni llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Drwy gyllido mudiadau i gefnogi a hyfforddi unigolion mewn cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd, mae gwirfoddoli yn cael effaith bositif uniongyrchol a hirdymor ar yr unigolyn a’r gymuned. Yn genedlaethol, mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i gyflawni cenhadaeth a gwerthoedd mudiadau gwirfoddol.
HELPU’R GYMUNED A’R GWIRFODDOLWYR
Mae prosiectau blaenorol wedi cyflawni canlyniadau sylweddol, sydd nid yn unig wedi rhoi budd i’r gymuned ond sydd hefyd wedi gwella llesiant gwirfoddolwyr a’u helpu i ddatblygu eu sgiliau.
Dywedodd un gwirfoddolwr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru wrthym:
‘Mae gwirfoddoli gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru wedi bod yn brofiad amhrisiadwy. Mae wedi caniatáu i mi gynorthwyo â phrosiectau ymchwil a chreu cynnwys ar gyfer cylchlythyrau sy’n hysbysu’r cyhoedd am yr heriau a wynebir gan geiswyr lloches a ffoaduriaid, a sut gallant helpu.’
‘Mae’r rôl hon wedi rhoi’r cyfle i mi gyfrannu’n weithredol at wneud Cymru yn Genedl Noddfa ac wedi caniatáu i mi ddatblygu sgiliau newydd o fewn mudiad.’
Defnyddiodd Mind Gogledd-ddwyrain Cymru’r grant i gyflogi Cydlynydd Gwirfoddolwyr i wella profiad eu gwirfoddolwyr ac annog mwy o bobl i gymryd rhan. Dywedodd un o’r gwirfoddolwyr:
‘Mae gwirfoddoli wedi bod yn brofiad gwych i mi ac mae wedi fy helpu i ailadeiladu fy hyder a’m hunan-barch. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i wella fy sgiliau cymdeithasol ac mae’n wobrwyol; rwy’n teimlo mod i wedi gwneud rhywbeth gwerth chweil ac wedi cyfrannu at lesiant pobl eraill.’
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
Os oes gan eich mudiad ddiddordeb mewn manteisio ar gynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru, darllenwch ganllawiau llawn y cynllun yma neu cysylltwch â grantiaugwirfoddolicymru@wcva.cymru.
Bydd sesiwn wybodaeth yn cael ei chynnal ar-lein ar 28 Tachwedd 2024 rhwng 10 am a 12 pm. Cofrestrwch yma os hoffech fynychu.
Gellir gwneud ceisiadau drwy MAP, Porth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC. I gofrestru a gweld cyfleoedd cyllido presennol CGGC, ewch i map.wcva.cymru.