Mae ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2024/25 yn adrodd yr hanes o sut gwnaethom ni weithio tuag at y nodau uchelgeisiol rydyn ni wedi’u gosod i’n hunain, a’r gwahaniaeth a wnaethom ni.
Eleni, daeth sector gwirfoddol Cymru i’r adwy, dro ar ôl tro.
Yn 2024.25, gwnaeth mudiadau gwirfoddol yng Nghymru gadw eu drysau ar agor, eu gwasanaethau i fynd a’u cymunedau’n gysylltiedig, hyd yn oed pan oedd costau’n mynd drwy’r to ac adnoddau’n brin. Gwnaethom ni sefyll gyda nhw bob cam o’r ffordd ac mae ein hadroddiad blynyddol 2024/25 yn amlinellu dim ond rhai o’r pethau a wnaethom i geisio cyflawni ein cynllun uchelgeisiol am 2022-27.
EIN TRI NOD
- MAE’R SECTOR GWIRFODDOL YN FWY AMRYWIOL A GWYDN
Yng ngŵydd heriau’r argyfwng costau byw, prisiau ynni’n saethu i fyny, a chyllidebau’n tynhau, dangosodd y sector gwirfoddol wydnwch anhygoel, ond roedd angen cymorth arno i ddal ati. A dyna le gwnaethom ni gamu i mewn. Gwnaethom rymuso mudiadau gyda’r adnoddau a’r sgiliau hanfodol oedd eu hangen arnynt, nid yn unig i ateb galwadau heddiw ond i ffynnu yn y dyfodol.
Yn 2024/25, dechreuodd 15 o fudiadau gwirfoddol hanfodol ar eu teithiau digidol diolch i £35,000 mewn grantiau bach y gwnaethom eu dosbarthu drwy Newid – y buddsoddiad cyntaf o’i fath.
Dyfarnodd ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru £301,000 mewn benthyciadau i gynorthwyo mudiadau ledled Cymru i ddatblygu.
Yn ogystal â hyn, fe wnaethom ddosbarthu £2,160,017 o Grantiau Gwirfoddoli Cymru i hybu a gwella arferion gwirfoddoli yng Nghymru.
- MAE MUDIADAU GWIRFODDOL YN BARTNERIAID CYFARTAL WRTH GYFLAWNI LLESIANT YNG NGHYMRU
Yn 2024/25, gwelodd mudiadau gwirfoddol gynnydd yn eu costau rhedeg pan oedd system gofal iechyd mewn trafferthion angen cyfraniad y sector mwy nag erioed. Gwnaethom weiddi’n groch am bwysigrwydd y 45,000 a mwy o fudiadau yn ein sector gwych, gan ymgyrchu drostynt gyda’r llywodraeth a chysylltu â phartneriaid o’r sector cyhoeddus er mwyn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni newid.
Gwnaethom ymuno â’r sector i lunio maniffesto i’r sector gwirfoddol a grëwyd gan ac ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethau. Gan edrych ymlaen at etholiadau 2026 y Senedd, aethom ati, gyda’n partneriaid, i brofi syniadau, rhannu mewnwelediadau a chodi ymwybyddiaeth o ddiwygiad y Senedd a’r hyn y mae’n ei olygu i fudiadau gwirfoddol ledled Cymru.
- MAE CGGC YN FWY GWYDN
Eleni, dechreuodd CGGC ar drawsnewidiad mewnol mawr. Yn 2023/24, roedd Cam 2 ein rhaglen newid yn ymwneud â gweithredu a chryfhau ein hymrwymiad i lesiant, cyflogau a buddion staff a mynd ati o ddifrif i ymwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ym mhopeth a wnawn.
Aethom gam ymhellach yn ein taith i fod yn fudiad gwrth-hiliol. Eleni, gwnaethom gyhoeddi ein hymrwymiadau gwrth-hiliaeth a chyflwyno hyfforddiant ar wrth-hiliaeth a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i’n holl staff. Gwnaethom ail-ddychmygu sut rydyn ni’n cefnogi ac yn gwobrwyo ein staff, a gwnaeth adolygiad annibynnol o’n cyflogau a buddion sicrhau ein bod nid yn unig yn gystadleuol, ond hefyd yn deg ac yn flaengar.
ASTUDIAETHAU ACHOS
Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys amrywiaeth o astudiaethau achos, gan gynnwys yr un hon sydd yn canolbwyntio ar waith anhygoel Innovate Trust, a gyllidir gan ein Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru.

Trwy’r Hwb Gwirfoddoli, sy’n rhan o ap ‘Insight’ Innovate Trust, mae pobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion ychwanegol eraill yn darganfod cyfleoedd gwirfoddoli hygyrch sy’n grymuso ac yn cael eu creu gyda nhw, nid dim ond ar eu cyfer nhw.
Un o lwyddiannau allweddol Hyb Gwirfoddoli Innovate oedd cynnwys defnyddwyr gwasanaethau er mwyn cyd-gynhyrchu’r cynnwys ar gyfer y wefan. Roedd Scott wedi bod yn rhan o brosiect cadwraeth â chymorth a oedd wedi dod i ben a’i adael yn teimlo ar goll. Ond pan ymunodd â phrosiect yr Hyb Gwirfoddoli, newidiodd popeth. Helpodd i lunio cynnwys, rhannu ei syniadau a chanfod diben newydd.
RHAGOR O WYBODAETH
Gallwch weld yr astudiaeth achos lawn a rhai eraill yn ein Hadroddiad Blynyddol 2024/25.
Am ragor o wybodaeth am effaith CGGC ewch i’n tudalen, Ein heffaith.
Diolch i’n holl aelodau a phartneriaid sydd wedi gweithio gyda ni yn 2024/25, i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.