Mae dyn sy'n eistedd mewn cyfarfod bwrdd yn chwerthin gyda grŵp amrywiol o bobl yn y cefndir

Gwneud mwy o wahaniaeth fel ymddiriedolwyr CGGC

Cyhoeddwyd : 30/07/21 | Categorïau: Newyddion |

Bydd enwebiadau i ymuno â bwrdd CGGC yn agor ar 16 Awst – helpwch ni i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.

CGGC yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, yn cefnogi elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a gwirfoddoli.

Mae pobl bob amser wedi dod ynghyd o’u gwirfodd yng Nghymru, nid am arian nac am fod y gyfraith yn dweud wrthyn nhw, ond am eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth. Dyma pam y ffurfiwyd CGGC. Ein diben yw galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.

Mae angen i Gymru fod yn barod i wynebu’r heriau sy’n wynebu cymdeithas fodern. I wneud hyn, rydyn ni’n credu bod angen sector gwirfoddol cydweithredol arnom sydd â ffocws ac wedi’i rymuso – a dyna ble rydyn ni’n dod i mewn.

Mae enwebiadau’r flwyddyn hon i ymuno â bwrdd CGGC ar agor unwaith eto, ac rydyn ni’n chwilio am saith unigolyn dynamig a brwdfrydig sydd eisiau gwneud Cymru’n lle gwell. Nid oes angen profiad blaenorol ar fwrdd nac o fod yn ymddiriedolwr.

AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT AR EIN BWRDD

Rydyn ni’n ymrwymedig i gydraddoldeb a chynrychioli holl amrywiaeth y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae amrywiaeth yn cwmpasu amrywiaeth eang o nodweddion gwarchodedig, ond mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn derbyn enwebiadau gan ein haelodau am bobl iau, pobl ag anabledd, pobl drawsryweddol, pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol a’r rheini o’r gymuned LGBT+. Ond rydyn ni’n croesawu enwebiadau gan unigolion o bob lliw a llun.

BETH MAE BOD YN YMDDIRIEDOLWR YN EI OLYGU?

Y Bwrdd Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethu CGGC ac mae’n gyfrifol am faterion cyfreithiol ac ariannol y mudiad, gosod y weledigaeth a’r cyfeiriad strategol.

Mae ein Bwrdd yn cwrdd wyth gwaith y flwyddyn yn ystod oriau swyddfa (pedwar cyfarfod Bwrdd ffurfiol a phedwar cyfarfod gweithgor). Fel arfer, bydd ymddiriedolwyr yn cael eu penodi am dair blynedd, gallant wasanaethu am hyd at naw blynedd a bydd unrhyw dreuliau parod yn cael eu had-dalu.

Mae hyfforddiant a chymorth ar gael i bob ymddiriedolwr a gallwch gael rhagor o wybodaeth am fod yn ymddiriedolwr yma.

YMGEISIO YN ETHOLIAD Y BWRDD ELENI

Mae etholiad Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGC yn agor ar 16 Awst 2021 a dyma pryd y byddwch chi’n gallu dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu chi i gwblhau’r broses enwebu ar wefan CGGC. Mae angen dilyn tri phrif gam:

  1. I gael eich ystyried am le ar y Bwrdd, rhaid i chi gael eich enwebu gan aelod o CGGC (nid oes angen i’r sawl a enwebir fod yn aelod o CGGC ei hun).
  2. Cyn gynted ag y byddwn ni’n derbyn enwebiad ar eich cyfer, byddwn ni’n cysylltu â chi drwy e-bost
  3. Ar ôl derbyn eich enwebiad gan aelod o CGGC, bydd angen i chi gyflwyno’r wybodaeth ganlynol: CV, datganiad personol nad yw’n fwy na dwy dudalen o hyd (sy’n dangos sut, yn eich tyb chi, y byddai eich sgiliau a’ch profiad yn eich galluogi i gyflawni rôl Ymddiriedolwr), ynghyd â chrynodeb 200 gair ar y mwyaf yn ateb y cwestiwn – Pam ddylai aelodau CGGC bleidleisio drosof i fod yn Ymddiriedolwr?

Bydd y pecyn gwybodaeth i enwebeion (sy’n cynnwys y disgrifiad rôl) a rhestr o aelodau cyfredol CGGC ar gael ar ein gwefan o 16 Awst ymlaen.

CYSYLLTU Â NI

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol cyn ymgeisio, cysylltwch â Ruth Marks, Prif Weithredwr ar 02920 431734 neu rmarks@wcva.cymru ac i gael unrhyw wybodaeth bellach am y broses etholiadol, cysylltwch â Tracey Lewis ar tlewis@wcva.cymru neu 02920 431734.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau a CV, datganiad personol a chrynodeb yr enwebeion yw 10 Medi 2021.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy