Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gymorth a chefnogaeth cyfreithiol am ddim i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit a pharhau i fyw a gweithio yng Nghymru.
Mae Cymru yn gartref i filoedd o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n cyfoethogi ein cymunedau ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n llwyddiant economaidd.
Byddant yn parhau i allu gweithio, astudio a chael buddion a gwasanaethau yn y DU ar yr un sail ag yn awr. Bydd y rhai nad ydynt wedi bod yn preswylio’n barhaus am bum mlynedd yn gymwys am statws preswylydd cyn-sefydlog. Byddant hefyd yn gallu gweithio, astudio a chael buddion a gwasanaethau yn y DU ar yr un sail ag yn awr.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gymorth a chefnogaeth cyfreithiol am ddim i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit a pharhau i fyw a gweithio yng Nghymru.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn:
- cynnig cymorth gyda cheisiadau ac yn rhoi cyngor ar faterion lles cymdeithasol a hawliau yn y gweithle drwy rwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru;
- darparu gwasanaeth cynghori ar fewnfudo am ddim sy’n cynnig cymorth arbenigol ar gyfer achosion cymhleth, drwy gwmni cyfreithiol sy’n arbenigwyr ar fewnfudo, Newfields Law;
- cynyddu’r ddarpariaeth o ganolfannau cymorth digidol yng Nghymru – i helpu’r rhai heb fynediad at dechnoleg ddigidol i wneud cais am statws preswylydd sefydlog;
- gweithio gydag amrywiol elusennau a phartneriaid ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r angen i wneud cais am statws preswylydd sefydlog mewn cymunedau agored i niwed ac anodd cyrraedd atynt.
Mae gwefan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru yn rhoi darlun clir o’r gwasanaethau cyngor cyfreithiol am ddim sydd ar gael yng Nghymru. http://www.eusswales.com/cy/