Ymunwch â ni wrth i ni amlygu gwaith gwych elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yng Nghymru a galw ar bobl i ‘roi/gwirfoddoli/hyrwyddo’.
Gwna dy ran a newid bywydau
BETH YW WYTHNOS ELUSENNAU CYMRU?
Mae Wythnos Elusennau Cymru, a noddir gan *Utility Aid, yn gyfle i gydnabod a dathlu’r holl waith y mae pobl a mudiadau ar draws sector gwirfoddol Cymru yn ei wneud i dywynnu ychydig o olau yn y tywyllwch. Mae’n gyfle i ddod ynghyd i ddangos gwerthfawrogiad, i atgoffa pobl bod yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth.
Cynhelir Wythnos Elusennau Cymru rhwng 9 a 13 Chwefror 2026. Mae Cymru yn adnabyddus am ei hanes hir o wirfoddoli a gweithredu gwirfoddol, rhywbeth sy’n parhau i fod yn rhan fawr o ddiwylliant Cymru hyd heddiw. Mae elusennau yn fwy nag achubiaeth i’r rhai mwyaf agored i niwed, maen nhw yno i bobl mewn hawddfyd ac adfyd, yn cymryd camau bach yr olwg sy’n arwain at wahaniaeth mawr.
Eleni, wrth i ni agosáu at Etholiadau tyngedfennol y Senedd, rydyn ni angen i bobl o bob cwr o Gymru ddeall pa mor hanfodol y mae ein sector i lesiant Cymru. Dyma pam rydyn ni’n herio pobl drwy ddweud ‘Gwna dy ran a newid bywydau’, i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y sector gwirfoddol, gyda galwad i weithredu i ‘roi/gwirfoddoli/hyrwyddo’.
SUT I GYMRYD RHAN
Elusennau – gwaeddwch yn groch a byddwch yn falch o’ch Effaith!
Os ydych chi’n elusen, yn fudiad gwirfoddol neu’n grŵp cymunedol a chyda diddordeb mewn cymryd rhan eleni, beth am …
- RANNU FIDEO BYR: Ewch ati i greu fideo am eich gwaith ar gyfryngau cymdeithasol a chofiwch ddefnyddio #WythnosElusennauCymru. Rydyn ni wedi creu canllaw syml ar sut i greu eich fideo y gellir ei weld ar wefan Wythnos Elusennau Cymru.
- RHOI SYLW I’CH STAFF NEU WIRFODDOLWYR: Dywedwch wrth y byd am aelod staff, gwirfoddolwr neu dîm a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud drwy bostio ar gyfryngau cymdeithasol, neu beth am drefnu dathliad iddyn nhw? Postiwch eich neges o ddiolch ac unrhyw luniau y gallai fod gennych chi ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru (gwnewch yn siŵr bod gennych chi ganiatâd pawb sydd yn y lluniau).
- RHANNU’R PECYN YMGYRCH: Anfonwch becyn ymgyrch Wythnos Elusennau Cymru at eich ffrindiau, cefnogwyr a phartneriaid a gofynnwch iddyn nhw gefnogi eich gwaith drwy gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru.
Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i ddangos pa mor anhygoel yw ein sector drwy amlygu’r gwaith ysbrydoledig sy’n cael ei wneud 365 diwrnod y flwyddyn.
Unigolion – rhoi/gwirfoddoli/hyrwyddo
Mae digonedd o ffyrdd hawdd y gall unigolion gymryd rhan yn #WythnosElusennauCymru 2026, gan gynnwys…
- Rhoi sylw i elusen neu grŵp gwirfoddol rydych chi’n ei edmygu ar gyfryngau cymdeithasol
- Rhoi arian
- Dod yn wirfoddolwr
I ddarllen mwy am sut gall unigolion gymryd rhan, edrychwch ar wefan Wythnos Elusennau Cymru.
YMUNWCH Â NI I DDATHLU EIN SECTOR ANHYGOEL
Yn ystod yr wythnos, byddwn ni’n rhannu storïau, yn dweud diolch ac yn amlygu’r gwaith gwych y mae pobl yn ei wneud yng Nghymru, felly cofiwch gadw eich llygaid ar agor am yr hashnod #WythnosElusennauCymru ar gyfryngau cymdeithasol (#WelshCharitiesWeek yn Saesneg). Rydyn ni eisiau i’r holl sector gymryd rhan, waeth a yw’n elusen, gwirfoddolwr, grŵp cymunedol neu’n fenter gymdeithasol, rydyn ni eisiau clywed amdanyn nhw!
Gallwch hefyd ddod o hyd i’r pecyn ymgyrch ar y wefan, a beth am gofrestru ar ein rhestr bostio i gael yr wybodaeth am Wythnos Elusennau Cymru yn eich mewnflwch?
HYRWYDDO CYFLEOEDD GWIRFODDOLI
Mae Wythnos Elusennau Cymru yn adeg dda i bobl roi rhywbeth yn ôl, drwy ddangos eu gwerthfawrogiad, codi arian neu hyd yn oed gwirfoddoli. Os oes gennych chi gyfleoedd gwirfoddoli, beth am eu hysbysebu am ddim ar blatfform Gwirfoddoli Cymru?
*Saesneg yn unig