Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) yn hyfforddi ac yn cefnogi gwirfoddolwyr i alluogi ymateb prydlon i alwadau 999 ac i leihau derbyniadau diangen i’r ysbyty.
YMATEBWYR LLES CYMUNEDOL
Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol Gwirfoddol yn cefnogi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddarparu’r gofal neu’r cyngor iawn, yn y lle iawn, bob tro.
Mae’r pwysau sydd ar y system ymateb brys wedi golygu bod yn rhaid i’r gwasanaethau flaenoriaethu’r achosion mwyaf brys. Mae cleifion sy’n cael eu hystyried fel rhai ‘llai brys’ yn gorfod aros yn hirach nag erioed o’r blaen.
Yn aml iawn, gall gwirfoddolwyr fod ar leoliad yn gyflymach na chriw ambiwlans. Felly pan fydd galwadau 999 yn cael eu gwneud, os bydd y parafeddyg sy’n delio â’r alwad yn teimlo nad oes angen ambiwlans ac ymateb llawn, gallan nhw basio’r alwad i wirfoddolwyr yn lle hynny.
GWIRFODDOLWYR
Dechreuodd y cynllun yng Nghymru ym mis Mawrth 2024. Ers hynny, mae gwirfoddolwyr wedi mynychu tua 1,800 o alwadau 999 ac wedi llwyddo i osgoi’r angen am ambiwlans mewn bron i bedwar allan o bob deg achos (720).
Gwirfoddolwyr yw’r Ymatebwyr Lles Cymunedol, fel yr Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol mwy cyfarwydd, sydd wedi’u hyfforddi a’u hanfon gan y gwasanaeth ambiwlans. Ond tra bod Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol yn darparu triniaeth a chymorth achub bywyd hanfodol yn ystod y munudau hollbwysig cyn i griw ambiwlans gyrraedd, mae Ymatebwyr Lles Cymunedol yn cael eu hyfforddi i ymateb mewn achosion lle mae llai o berygl i fywyd drwy wneud arsylwadau sylfaenol a gwiriadau lles ar gleifion, gan gynnwys cyfradd curiad y galon a lefelau ocsigen.
Mae’r Ymatebwyr Lles Cymunedol yn rhannu canlyniadau’r profion maen nhw’n eu cynnal, dros y ffôn neu ar fideo, gyda chlinigydd, a allai fod gannoedd o filltiroedd i ffwrdd. I bob pwrpas, nhw yw llygaid a chlustiau’r clinigydd, sy’n eu galluogi i benderfynu ar y camau nesaf mwyaf priodol. Gallai hynny gynnwys anfon ambiwlans, cyfeirio’r claf at eu meddyg teulu, cyngor hunanofal neu rywbeth arall.
Mae cynnwys gwirfoddolwyr yn caniatáu i barafeddygon ymateb i tua 15 i 20 o achosion y dydd. Pe baen nhw’n mynychu pob galwad eu hunain, dim ond un neu ddau y bydden nhw’n gallu eu cyrraedd.
AM FWY O WYBODAETH
Yn ddiweddar, creodd Channel 5 fideo yn treulio diwrnod gydag Ymatebwyr Lles Cymunedol.