Mae astudiaeth gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgolion Birmingham a Manceinion yn edrych ar ffordd y gall gwirfoddoli cymheiriaid helpu pobl hŷn i gynyddu lefel eu gweithgarwch corfforol.
ACTIF
Dechreuodd yr astudiaeth, a elwir yn ACTIF, yn 2022 ac mae’r cyfranogwyr bellach wedi cyrraedd 530 (bron 200 yn ardal Gaerdydd), a 200 o wirfoddolwyr. Mae hanner y cyfranogwyr wedi’u paru â gwirfoddolwr am chwe mis. Mae’r gweddill ohonynt yn ffurfio grŵp cymharu ac yn mynychu dwy sesiwn Heneiddio’n Iach. Ar ddiwedd yr astudiaeth, bydd y data o’r ddau grŵp yn cael ei gymharu er mwyn asesu pa mor effeithiol a chost-effeithiol yw ACTIF.
Y DATA
Caiff data ei gasglu gan yr holl gyfranogwyr ar y llinell sylfaen, ac ar chwe mis, 12 mis a 18 mis. Mae hwn yn cynnwys data ar weithrediad ffisegol, cof a gwybyddiaeth, uchder, pwysau a chryfder gafael a lefelau’r gweithgarwch (a fesurir gan fesurydd cyflymu a wisgir ar yr arddwrn). Caiff holiaduron hefyd eu defnyddio i gasglu gwybodaeth am lesiant pobl, eu rhyngweithiad cymdeithasol, sut maen nhw’n defnyddio gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac ati. Bydd holl ddata ACTIF wedi’i gasglu erbyn Awst 2025. Bydd crynodeb o’r canlyniadau ar gael o fis Rhagfyr 2025.
ADBORTH
Dywedodd un cyfranogwr:
‘Mae wedi bod yn dda iawn ac rwyf wedi teimlo’n llawer gwell. Rwyf wedi bod yn cwrdd â’m gwirfoddolwr ac mae wedi fy ngwella’n fawr. Rwy’n hapus iawn. Diolch am gael gafael ar rywun i’m helpu i.’
Dywedodd un arall:
‘Gwnaethom ni roi cynnig ar symudedd ioga gyda’m gwirfoddolwr ac fe fwynheais i’r profiad yn fawr iawn. Rwy’n teimlo ein bod ni wedi dod yn ffrindiau da.’
CADW’U SYMUDEDD
Anweithgarwch corfforol yw un o ragfynegyddion cryfaf anableddau corfforol mewn oedolion hŷn. Gall cynyddu gweithgarwch corfforol helpu pobl hŷn i gadw’u symudedd, cryfder, cydbwysedd a’u gallu i fyw’n annibynnol.
Mae dal cyfle i bobl 65 oed a hŷn sydd mewn perygl o anabledd symudedd ac sy’n byw yng Nghaerdydd i gymryd rhan yn y prosiect ACTIF.
AM RAGOR O WYBODAETH
Ceir rhagor o wybodaeth ar Prosiect ACTIF, drwy Gyngor Trydydd Sector Caerdydd.