Grŵp o bedair merch hŷn sy'n gwenu yn ymarfer gyda bandiau cryfhau elastig wrth eistedd yn y dosbarth ffitrwydd

Gwirfoddolwyr yn gwella symudedd a llesiant cleifion hŷn

Cyhoeddwyd : 08/07/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae gwirfoddolwyr yr RVS yn cydweithio’n glos â thimau clinigol i wella canlyniadau i gleifion hŷn. Ar wardiau ysbytai maent yn helpu gyda sesiynau ymarferion a gweithgaredd ac yn y gymuned maent hefyd yn cynorthwyo â gwasanaeth sy’n seiliedig ar atal sy’n rhoi pwyslais ar faeth, llesiant corfforol a chysylltedd cymdeithasol.

Yn Ysbytai Dewi Sant a Llandochau yng Nghaerdydd, mae gwirfoddolwyr yn helpu cleifion i wneud ymarferion mewn cadeiriau, i wella cryfder a symudedd y rhai sy’n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth. Mae’r sesiynau ymarfer yn rhoi pwyslais ar wella cryfder cyhyrau yn y craidd, y breichiau a’r coesau drwy efelychu’r symudiadau o ddydd i ddydd mae pobl hŷn yn am yn cael anhawster â hwy. Mae sesiynau grŵp hefyd yn gweithio i leihau gorbryder ac unigrwydd.

Hefyd, mae gwirfoddolwyr yn rhoi anogaeth a help yn ystod prydau bwyd ar y wardiau, ac yn cynnig gweithgareddau sy’n hybu gallu gwybyddol a symudedd.

Ar ôl rhyddhau cleifion, gall gwirfoddolwyr gynnig cymorth gyda chryfder a chydbwysedd yn y cartref neu mewn canolfannau yn y gymuned leol. Maent yn parhau i annog bwyta iach, hydradu ac ymarfer corff ac yn helpu i asesu pa wasanaethau trydydd sector neu statudol a fyddai o fudd iddynt. Mae cleifion sydd angen rhaglenni ymarfer corff mwy dwys, sy’n ychwanegol at yr ymarferion cadair, yn cael eu cyfeirio at wasanaethau priodol.

Mae gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant llawn a chynhwysfawr ar iechyd a diogelwch, cyfrinachedd, diogelu, ymwybyddiaeth o ddementia, maeth a hydradu yn ogystal â chael eu hyfforddi mewn ‘Move it or Lose it’ sy’n eu galluogi i gynnal sesiynau ymarfer corff yn y gadair, naill ai ar lefel un i un neu mewn grŵp.

Pa wahaniaeth mae hyn yn ei wneud?

Mae partneriaid ymchwil annibynnol yn gwerthuso’r gwasanaethau hyn er mwyn gallu deall yn well pa rôl y gall gwirfoddolwyr ei chwarae i wella canlyniadau iechyd a llesiant. Byddant yn edrych ar effaith cyfraniadau gwirfoddolwyr drwy ddefnyddio cwestiynau arolygu safonol, wedi’u dilysu ar iechyd, hapusrwydd, gorbryder, hyder a mesur safonol ar gyfer unigrwydd.

Hyd yma, amcangyfrifir fod 61 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu 1,180 o oriau gwirfoddolwyr (mae’r Kings Fund yn amcangyfrif fod hyn yn werth £12,980) dros gyfnod o 16 mis, gan helpu 158 o gleifion yn ychwanegol at y gofal a ddarperir gan staff gofal iechyd proffesiynol.

Mae cleifion wedi croesawu’r sesiynau ymarfer ar y ward: ‘Mae eich gwên yn rhan o fy therapi’ medd un ac ‘mae hyn yn wych a bydd yr ymarferion hyn yn fy helpu i fynd adref. Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr yn werth y byd’ medd un arall.

Yn ôl y dystiolaeth, dywed RVS fod ymarferion ymwthio wedi’u targedu yn gallu lleihau sarcopenia (colled ddirywiol i gyhyrau ysgerbydol) a gall hefyd wella gweithrediad gwybyddol. Mae gweithgarwch cymdeithasol a chorfforol ar gyfer cleifion bregus yn ymdrechu i wella cryfder a chydbwysedd (sydd wedyn yn gallu lleihau cwympiadau), er mwyn gwella’r gallu i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd a pharhau’n annibynnol, lleihau nifer yr ymweliadau ag Adrannau Damweiniau neu’r Meddyg Teulu a gwella llesiant a hwyliau yn gyffredinol.

Mae’r gwasanaeth yn gwella yn sgil profiad: mewn cydweithrediad â’r ffisiotherapydd arweiniol, rheolwyr gwirfoddolwyr yr ysbyty ac uwch staff nyrsio, mae RVS yn awr yn sefydlu dau grŵp yr wythnos yn Llandochau ac yn Ysbyty Dewi Sant, lle mae’n cyflwyno’r gwasanaeth ar wardiau ychwanegol.

Mae RVS wedi sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith tan 2021, gydag arian gan y People’s Postcode Lottery. Mae’n cael ei gydnabod fel prosiect sydd â’r potensial i gael ei gyflwyno’n ehangach ar draws y DU. Bydd diweddariadau’n cael eu cyhoeddi wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

Yn ystod y pandemig Covid19

Yn ystod y pandemig bu’n rhaid i’r gwasanaeth weithredu ei gynllun wrth gefn. Mae’r ddwy agwedd ar y gwasanaeth, Ar y Ward a’r Gwasanaeth Cymunedol Cartref wedi eu haddasu i ddarparu gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn yn ogystal â chynnig cymorth i ysbytai a sefydliadau eraill fel Gofal a Thrwsio. Mae gwirfoddolwyr a staff wedi bod yn helpu cleientiaid gyda galwadau ffôn llesiant ac yn cynnig gwasanaethau siopa/danfon.

Mae’r sefyllfa’n cael ei monitro’n fanwl a bydd trafodaethau’n cael eu cynnal â’r bwrdd iechyd pan fydd canllawiau’r ysbyty a’r llywodraeth yn caniatáu hynny, i ailafael yn y gwasanaethau a gwella’r llwybr ar gyfer ein gwasanaeth cymorth yn y gymuned, gan gynnwys dosbarth Move it or Lose it cymunedol (yng ngofal Hyfforddwr MioLi Instructor). Bydd y gwasanaeth yn cael ei gysylltu hefyd â gwasanaethau cymunedol lleol presennol RVS a all (os bydd angen) ddarparu cymorth y tu hwnt i’r cyfnod o 12 wythnos ar ôl gadael yr ysbyty.

Mae RVS yn bartner strategol gyda Helpforce UK ac mae’n aelod o Grŵp Llywio Helplu yng Nghymru.

Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio â Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 CGS), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae tudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni at erthyglau diweddar, blogiau a hanesion eraill.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy