Mae gwirfoddolwyr yn cysylltu â chymunedau amrywiol i wella gwasanaethau i famau a babanod ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan.
Grŵp o famau a darpar famau yw Babi (Birth and Bump Improvement) sy’n cwrdd â staff o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i rannu profiadau, rhoi adborth ac awgrymu gwelliannau i’r gwasanaeth.
Ond roedd Alex Coetsee, sy’n fam ei hun i dri o blant ifanc ac yn Is-Gadeirydd Babi ers iddo ddechrau yn 2019, yn ymwybodol o’i gyfyngiadau. ‘Pobl gwyn a Chymreig oedd y defnyddwyr gwasanaethau a oedd yn ymhél fwyaf â’r grŵp – ac nid oedd hyn yn adlewyrchu’r boblogaeth amlddiwylliant o amgylch Casnewydd o gwbl.’
Roedd Alex a’r fydwraig ymgynghorol, Emma Mills, yn poeni nad oedd gwybodaeth sylfaenol yn cyrraedd y rheini a oedd ei hangen fwyaf. Er ei bod ar gael yn hawdd mewn taflenni ac ar wefannau mewn ieithoedd lluosog, mae mynediad i’r wybodaeth gywir ar yr adeg gywir yn cyfrannu at annhegwch mewn canlyniadau iechyd. Er enghraifft, gwyddys fod y risg o farwolaethau ymysg mamau a marwolaethau amenedigol yn uwch mewn rhai grwpiau nag eraill (gwefan Saesneg yn unig).
CYMORTH CYLLIDO
Roedd Alex ac Emma yn benderfynol o ddod o hyd i ffyrdd gwell o ymgysylltu â menywod mewn mwy o risg, a phan wnaethant glywed am gyllid drwy’r grant Safer Beginnings (Saesneg yn unig), gwelsant eu cyfle.
Prif nod y prosiect oedd cynyddu amrywiaeth y fforwm defnyddwyr gwasanaethau drwy gynnwys gwirfoddolwyr (bydîs Babi) a oedd yn gallu cynrychioli barn pobl eraill yn eu cymunedau.
Roedd sicrhau y gallai gwirfoddolwyr lywio’r prosiect eu hunain a datblygu eu rolau eu hunain fel ‘pobl gyswllt’ o fewn eu cymunedau yn bwysig i weledigaeth y prosiect. Golygodd y cyllid y gallent wneud hyn, gan alluogi’r tîm i gadw meddwl agored wrth ystyried sut byddai’r prosiect yn datblygu a’r canlyniadau y byddai’n eu cyflawni.
ADEILADU’R TÎM GWIRFODDOLWYR
Aethant ati i chwilio am wirfoddolwyr drwy amrediad o sianeli, gan gynnwys bydwragedd. Cafodd Alex ac Emma sgwrs gychwynnol, anffurfiol gyda phob gwirfoddolwr ac ar ôl hyn, cynhaliwyd gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a rhoddwyd hyfforddiant cynefino cyffredinol gan dîm gwirfoddoli’r bwrdd iechyd. Yn olaf, cyflwynwyd hyfforddiant a oedd yn benodol i’r rôl ar gyfer y prosiect mewn sesiwn hanner diwrnod gydag Alex ac Emma a rhoddodd hwn gyfle iddyn nhw ddod i adnabod ei gilydd yn well fel grŵp.
Mae Kerry Jeffries, Is-reolwr Cyfarwyddiaeth y gwasanaethau mamolaeth, yn chwarae rôl allweddol mewn cydlynu’r prosiect a chyfathrebu â gwirfoddolwyr. Dywedodd fod ‘gwirfoddolwyr wedi cael iPads a chyfeiriad e-bost y bwrdd iechyd i’w defnyddio mewn perthynas â’u gwirfoddoli. Eu tasg gyntaf oedd dylunio poster yn eu hiaith eu hunain ac edrych ar sut fath o rôl allai fod ganddynt, yn unigol a chyda’i gilydd.’
GWIRFODDOLWYR YN ESTYN ALLAN
Mae pum gwirfoddolwr gweithredol ar y prosiect wedi achub ar gyfleoedd ac wedi datblygu eu rolau mewn ffyrdd gwahanol:
Gwnaeth Maria, gwirfoddolwr o Rwsia, gwblhau hyfforddiant ar gefnogi bwydo ar y fron a sefydlu grŵp lleol ar y cyd â’r fenter Dechrau’n Deg leol.
Mae Michaela, o Romania, yn egluro i bobl sut mae gwasanaethau mamolaeth yn gweithio yma. Mae wedi cysylltu â Llysgenhadaeth Romania yng Nghymru i ledaenu’r neges.
Aeth Aleksandra gyda’r fydwraig ymgynghorol, Emma, pan oedd menywod o Wlad Pwyl yn ystyried eu dewisiadau geni. Er y gall cyfieithydd gyfieithu’n gywir, gall deall y cyd-destun fod yn fwy heriol ac ni allant gynnal sgwrs mor effeithiol â gwirfoddolwyr bydîs Babi fel Alexandra.
Mae gwirfoddolwr arall, Itala, wedi sefydlu grŵp Facebook ar gyfer mamau o Hwngari ledled Cymru.
CYDGYNHYRCHU AR WAITH
Fel rhan o’u rolau, mae gwirfoddolwyr yn mynychu’r fforwm Babi ar-lein yn rheolaidd, gan ddod â mewnwelediadau, pryderon a lleisiau o’u cymunedau amrywiol.
Mae Emma a chydweithwyr o’r gwasanaethau mamolaeth hefyd yn mynychu, sy’n golygu y gellir clywed ac ymateb i broblemau ar unwaith, mewn amgylchedd cyfeillgar sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a diben cyffredin.
‘Mae gweithio gyda fforwm Babi yn werthfawr tu hwnt i ni’ meddai Emma. ‘Rydyn ni wedi gallu gwneud llawer o welliannau i’r gwasanaethau. Mae rhai menywod wedi teimlo mor unig yn ystafelloedd sengl y ward mamolaeth, er enghraifft, ac rydyn ni wedi dod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â hynny.’
‘Rydyn ni’n cael mewnwelediadau cyson sy’n bwysig iawn i fydwragedd eu deall, fel y rhesymau diwylliannol pam y gallai fod ofn gweithwyr proffesiynol ar fenywod, neu pam mae rhai menywod yn cysylltu mwy o ymyrraeth feddygol â gofal iechyd gwell’.
Meddai Alex, ‘mae cael bydwraig ymgynghorol yn ein cyfarfodydd yn allweddol. Gall pobl weld sut y rhoddir sylw i’w hadborth a pha mor werthfawr yw’r adborth hwnnw.’
Mae gwirfoddolwyr wedi cael budd ohono hefyd, gan ddweud ei fod wedi rhoi ymdeimlad o ddiben a chwaeroliaeth iddynt, gan newid eu bywydau er gwell.
BLE NESAF?
Mae’r prosiect wedi llwyddo i ddod â lleisiau na chlywir yn aml i mewn i wirfoddoli, gan greu rolau lle y gallant ddylanwadu’n uniongyrchol ar wella gwasanaethau a helpu llawer o fenywod o gymunedau amrywiol.
Ond, mae angen mwy o wirfoddolwyr i ehangu’r cyrhaeddiad ymhellach. ‘Mae 51 o ieithoedd yn cael eu siarad yng Nghasnewydd’ ‘eglurodd Emma, ‘Nid yw ein gwirfoddolwyr yn adlewyrchu’r cwmpas hwn eto.’
‘Mae ein prosiect fel cynllun peilot’ meddai Emma ‘Mae’n waith tîm go iawn rhwng y bwrdd iechyd a defnyddwyr y gwasanaeth. Dylid ei gyflwyno i wasanaethau eraill ac mewn byrddau iechyd gwahanol’.
Enillodd y prosiect Wobr Prif Swyddog Nyrsio am ragoriaeth glinigol, sy’n syfrdanol gan ystyried mai dim ond deg gwobr o’r fath sydd wedi’u cyflwyno erioed.
‘Mae bod yn amlddiwylliannol ac yn gynhwysol yn flaenoriaeth enfawr i ni yn y bwrdd iechyd, ac rwy’n falch iawn o hynny. Mae’n rhaid i ni ddal ati a pharhau i wneud mwy.’
HELPLU CYMRU
Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae tudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau a storïau achos.