Yr wythnos diwethaf rhoddwyd sêl bendith i ddechrau brechu yn erbyn Covid-19. Mae rhaglen uchelgeisiol i ddarparu gwasanaeth brechu wedi cychwyn, ac mae’n debygol o barhau ymhell i 2021.
Mae Byrddau Iechyd yn gwneud trefniadau er mwyn i wirfoddolwyr gefnogi’r rhaglen frechu dorfol, ar y cyd â Chynghorau Gwirfoddol Sirol a phartneriaid y trydydd sector.
Ym Mhowys, er enghraifft, mae Gail a Gavin yn ddau wirfoddolwr a ddechreuodd helpu ar y diwrnod cyntaf, a drefnwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO).
Esbonia Gail: ‘Rydym ni i gyd yn awyddus i ddod trwy hyn cyn gynted â phosibl fel bod modd i ni ddychwelyd i’n bywydau arferol. Gorau i gyd po fwyaf o bobl all helpu i wneud i hynny ddigwydd. Rydw i wedi bod yn helpu cyfarch pobl wrth iddyn nhw gyrraedd a chwblhau eu gwaith papur er mwyn i’r system fod mor llyfn â phosibl, ac yn difyrru pobl wrth iddyn nhw aros. Mae pawb yn bositif dros ben, maen nhw i gyd wrth eu bodd ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwn.’
Mae Gavin wedi bod yn helpu i sicrhau bod pobl yn cyrraedd ac yn parcio yn y man cywir er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y ganolfan frechu’n gyflym a bod modd i’r rheini sy’n gweithio yn yr Ysbyty barhau â’u gwaith. ‘Mae pawb wedi bod yn hynod gyfeillgar, bu’n bleser pur gallu cynnig help llaw.’
YMATEB GWIRFODDOLWYR YNG NGHYMRU
Diolch i’r ymateb anhygoel gan wirfoddolwyr ynghynt yn ystod y pandemig, mae gwirfoddolwyr sydd eisoes wedi’u hyfforddi yn barod i helpu. Ers dechrau’r flwyddyn mae 22,000 o unigolion wedi cofrestru ar wefan www.volunteering-wales.net, ac ni chafodd rhai ohonynt gyfle i ddechrau gwirfoddoli eto.
Mae ymgyrchoedd recriwtio lleol yn cael eu trefnu ar hyn o bryd, gan dargedu roliau gwirfoddoli penodol mewn ardaloedd daearyddol penodol.
Mae’r sefyllfa’n un sy’n newid a bydd yn cael ei hadolygu’n gyson. Lle bo angen recriwtio gweithredol, caiff cyfleoedd eu postio ar wefan www.volunteering-wales.net.
Yn y cyfamser, gellir cyfeirio ymholiadau cyffredinol ynglŷn â chefnogi gwirfoddoli i’r cyfeiriadau e-bost priodol isod.
Dylai gwirfoddolwyr sy’n gymwys i ddarparu cymorth cyntaf neu i frechu ac sy’n awyddus i gymryd rhan gysylltu â St John Cymru trwy eu gwefan – www.sjacymru.org.uk/volunteer.
Ar gychwyn y bennod fwy cadarnhaol hon yn stori pandemig Covid-19, a ninnau newydd ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Gwirfoddolwyr o dan thema ‘gyda’n gilydd gallwn wneud trwy wirfoddoli’, gallwn fod yn falch o’r ffyrdd mae gwirfoddolwyr, mudiadau’r sector gwirfoddol a’r GIG yn canfod ffyrdd o weithio gyda’i gilydd er budd iechyd a llesiant ein cymunedau.
PWY I GYSYLLTU Â NHW YNGLŶN Â GWIRFODDOLI GIG LLEOL
Ardal Bwrdd Iechyd | Cyfeiriad E-bost |
Aneurin Bevan | ffrindimi.abb@wales.nhs.uk |
Betsi Cadwaladr | BCUHB.PublicVolunteers@wales.nhs.uk |
Caerdydd a’r Fro | Volunteer.Enquiries.cav@wales.nhs.uk |
Cwm Taf Morgannwg | ctuhb_volunteering@wales.nhs.uk |
Hywel Dda | VolunteerForHealth@wales.nhs.uk |
Powys | volunteering@pavo.org.uk |
Bae Abertawe | volunteer.centre@wales.nhs.uk |