Mae gwirfoddolwyr mewn clinigau Hear to Help yn helpu’r gymuned â nam ar eu clyw ym Mhowys trwy wneud mân atgyweiriadau o gymhorthion clyw.
Mae ymchwil yn dangos bod 65% o bobl sy’n defnyddio cymhorthion clyw am y tro cyntaf yn cael trafferthion wrth eu defnyddio. Gall gwirfoddolwyr yng nghlinigau Hear to Help ymgymryd â mân waith trwsio yn y gymuned leol, a thrwy hynny arbed oriau o amser teithio i bobl wrth ymweld â’u hadran awdioleg y GIG a lleihau gymaint â phosibl ar yr angen am apwyntiadau cleifion allanol yr ysbyty.
Mae Action on Hearing Loss yn gweithio mewn partneriaeth ag awdiolegwyr y GIG a gwirfoddolwyr, llawer ohonynt wedi colli eu clyw.
Beth mae gwirfoddolwyr yn ei wneud?
Gwirfoddolwyr sy’n sefydlu ac yn rhedeg clinigau Hear to Help mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol lleol ac mewn lleoliadau lleol eraill, yn unol ag amserlen a gyhoeddir. Caiff gwirfoddolwyr eu hyfforddi gan Awdiolegwyr y GIG i ddatrys rhai o’r problemau cyffredin mae pobl yn dod ar eu traws wrth ddefnyddio cymhorthion clyw.
Mae’r rhain yn cynnwys newid batris a thiwbiau, gwaith cynnal a chadw sylfaenol yn ogystal â chynnig cyngor ar sut i gael y gorau o’r cymhorthion clyw. Maen nhw hefyd yn hyrwyddo manteision cynnal a chadw drwy addysgu’r rhai sy’n defnyddio cymhorthion clyw, aelodau o’r teulu a gofalwyr sut i wneud hynny eu hunain. Gallai hyn olygu y bydd pobl yn gallu cynnal eu cymhorthion clyw eu hunain yn eu cartref.
Rhoddir pecyn offer a darnau sbâr i’r gwirfoddolwyr. Maen nhw’n mynychu sesiynau hyfforddiant gloywi bob blwyddyn, a gynhelir gan awdiolegwyr, er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am dechnoleg sy’n datblygu’n gyson a modelau newydd o gymhorthion clyw. Maen nhw hefyd yn gallu cyfeirio cleientiaid at eu meddyg teulu, tîm synhwyrau’r gwasanaethau cymdeithasol neu at y Cysylltwyr Cymunedol, fel y bo’n briodol.
Gwneud gwahaniaeth
Mae’n cynnig gwasanaeth cynnal a chadw cymhorthion clyw sylfaenol yn llawer agosach at y cartref ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cymhorthion clyw’r GIG. Yn aml iawn mae clinigau’r ysbyty yn brysur iawn, felly mae’r sesiynau galw heibio hyn yn helpu i leihau’r galw yn yr ysbyty a hefyd yn ei gwneud hi’n haws ac yn fwy cyfleus i gleifion.
Mae’r effaith ar gleientiaid yn amlwg. ‘Pan fydd rhywun yn dod i mewn i’r clinig, a heb fod ers misoedd, ac un o’r gwirfoddolwyr yn trwsio’i gymhorthydd clyw, cawn weld gwên o glust i glust’ meddai Rachael Beech, Rheolwr Hear to Help yn Action on Hearing Loss, sy’n gweithio’n bennaf ym Mhowys.
‘Bydd gwirfoddolwyr yn gweld yn syth pa effaith maen nhw wedi’i chael ar ansawdd bywyd rhywun, ac mae hynny mor braf. Mae nifer o’r gwirfoddolwyr yn colli eu clyw hwythau, felly maen nhw’n gallu bod yn empathig â’u cleientiaid.
‘Maen nhw’n deall yr effaith mae colli eich clyw yn gallu ei chael ar hunanhyder, yn ogystal â’r gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol’
Mae gwasanaeth Hear to Help Powys yn cynnal clinigau mewn 15 lleoliad bob mis. Mae’r tîm medrus o wirfoddolwyr hefyd yn ymgymryd â rhwng 10 a 20 o ymweliadau cartref bob mis, yn ymweld â 18 neu 19 cartref gofal bob blwyddyn ac yn mynychu 3 ‘clwb coesau’ yn rheolaidd (lle bydd nyrsys ardal mewn lleoliadau cymunedol yn newid rhwymynnau).
I rai cleientiaid, mae dod i’r clinig Hear to Help wedi dod yn rhan o’u bywyd, lle gallan nhw gael paned o de neu goffi a sgwrs gyfeillgar yn ogystal â thrwsio eu cymhorthion clyw.
Gallwch chi gwrdd â rhai o’r tîm a gweld yr hyn y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu fideo byr isod.
Heriau a’r gwersi a ddysgwyd
Gall rôl y gwirfoddolwyr fod yn heriol. Dywedodd Rachael ‘Rhaid i wirfoddolwyr weithio’n agos yng ngofod personol rhywun. Ond pwy bynnag ydy o neu hi, a beth bynnag yw ei sefyllfa, mae gwirfoddolwyr yn cynnal gwasanaeth sy’n deg ac yn gyson.
‘Weithiau dydy’r gwirfoddolwyr ddim yn gallu datrys problem cleient, a does dim dewis ond ei gyfeirio i gael apwyntiad awdioleg. Dydy hyn ddim yn wastad yn plesio ac mae’n rhaid i’r gwirfoddolwyr ymdopi â siom y cleient’.
Mae cynnal gwasanaeth cyson dros ardal ddaearyddol sydd mor fawr ac amrywiol yn her ychwanegol. ‘Mae gennym 39 o wirfoddolwyr ar hyn o bryd ond mae problemau’n aml o ran sicrhau bod rhywun ar gael os bydd rhywun yn sâl neu os bydd gwirfoddolwyr yn symud i ffwrdd neu’n ymddeol – mae llawer o heriau wrth recriwtio mewn ardal wledig fel Powys.’ meddai Rachael.
‘Does dim modd rhedeg clinig heb o leiaf dau wirfoddolwr. Os oes angen, byddaf i’n helpu i wneud y gwaith pan fydd swyddi gwag i wirfoddolwyr. Rydym yn osgoi canslo clinigau hyd y gellir.’
Mae’r rhaglen Hear to Help yn bartneriaeth ardderchog rhwng awdiolegwyr sydd â’r arbenigedd proffesiynol ac Action for Hearing Loss sy’n arbenigo mewn cynnwys gwirfoddolwyr a’r hyblygrwydd i sefydlu a datblygu systemau newydd sy’n gweithio i bobl leol yn eu cymunedau.
‘Wrth weithio â gweithwyr proffesiynol y GIG, mae’n rhaid i ni ddarparu gwasanaeth hynod broffesiynol ein hunain’ meddai Rachael, ‘Mae’n rhaid i ni sicrhau y cyrhaeddir safonau gofal iechyd ac awdioleg a dangos bod y gwasanaeth a ddarperir yn ddiguro.
‘Rwy’n cyflwyno adroddiad manwl a phenodol ar gyfer y comisiynwyr ym Mhowys er bod y gwasanaeth yn cynnwys 4 Bwrdd Iechyd ar wahân.
‘Mae gennym berthynas waith wych gyda’r awdiolegwyr. Maen nhw’n cydnabod y gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud, ac yn ein galluogi i redeg gwasanaeth gwerthfawr yn y gymuned’.
Datblygu a chynnal y gwasanaeth
Fe ddechreuodd y rhaglen Hear to Help gyntaf yng Nghymru yn Sir Faesyfed bron i ddeng mlynedd yn ôl, pan gafodd gwirfoddolwyr eu recriwtio a’u hyfforddi, derbyniwyd atgyfeiriadau gan awdiolegwyr a threfnwyd ymweliadau cartref. Yna, cafodd y gwasanaeth ei ehangu i gynnwys y rhan fwyaf o Gymru, a chynhaliwyd clinigau mewn lleoliadau cymunedol, gyda’r gwaith cydlynu’n fwy canolog.
Pan ddaeth y cyllid grant i ben yn 2016, y gobaith oedd y byddai’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth, er mwyn sicrhau na chollir y gwasanaeth rhagorol a oedd wedi’i ddatblygu.
Ers hynny, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn comisiynu Action on Hearing Loss i ddarparu’r gwasanaeth ar sail dreigl ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi derbyn y gwasanaeth ‘yn fewnol’, lle mae’n parhau i gael ei gynnal gan wirfoddolwyr ond o dan nawdd y Bwrdd Iechyd.
Effaith Covid 19
Mae Action on Hearing Loss wedi parhau i gynorthwyo cleientiaid ym Mhowys drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud, gyda gwirfoddolwyr yn ymgymryd â chryn dipyn o weithgarwch o bell. ‘Er nad ydyn ni wedi gallu helpu cleientiaid wyneb yn wyneb yn ein clinigau neu ar ymweliadau cartref, rydyn ni wedi gallu eu cyfeirio at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw’ meddai Rachael.
‘Rydyn ni’n trefnu casglu cymhorthion clyw ar gyfer gwaith trwsio drwy’r post ac yn parhau i roi cyngor a gwybodaeth dros y ffôn ac ar e-bost.
‘Efallai bydd gwasanaeth Hear to help yn edrych ychydig yn wahanol am dro, ond byddwn ni’n ailgydio yn ein gwasanaeth llawn cyn gynted ag y gallwn ni, gyda’n holl wirfoddolwyr ardderchog!’
Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogaeth Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 CGS), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddol i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae ein tudalen helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau ac astudiaethau achos.