dyn yn cynghori grwp o bobl mewn cylch

Gwirfoddolwyr ym maes iechyd a lles meddyliol yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd : 12/08/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

I aelodau cymdeithasau amrywiol wedi’u lleoli yng Ngogledd Caerdydd, mae’r Community Care and Wellbeing Service (CCAWS) yn achubiaeth sy’n cynnig gwasanaethau cefnogi mewn dros 13 o ieithoedd ynghyd â dealltwriaeth groesawgar o ddiwylliannau amrywiol. 

Mae CCAWS yn cynnig gwasanaethau cwnsela, cyfeillio ac eirioli ac yn derbyn atgyfeiriadau gan wasanaethau meddygon teulu a thimau iechyd meddwl yn ogystal â hunanatgyfeiriadau.

Caiff sesiynau cwnsela eu cynnal gan gwnselwyr cymwys neu fyfyrwyr ar leoliad. Rhyngddynt maent yn cynnig ystod eang o ddulliau cwnsela. Mae’r gwasanaethau cyfeillio ar gyfer unrhyw un sydd dros 18 oed (er bod llawer sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn 60+) ac sy’n teimlo’n unig neu wedi’u hynysu, ac yn aml bydd cleientiaid yn wynebu problemau iechyd meddwl. Mae’r gwasanaethau eirioli yn cynorthwyo cleientiaid sy’n profi trafferthion gyda materion mewnfudo a budd-daliadau, megis y Credyd Cynhwysol.

Yn ogystal, mae grwpiau cefnogi wythnosol i ddynion a menywod yn darparu mannau saff a chyfrinachol i drafod materion sy’n ymwneud â lles meddyliol.

Rôl Gwirfoddolwyr

Yn dilyn sgwrs gychwynnol, hyfforddiant a gwiriadau DBS, gall gwirfoddolwyr fod ynghlwm â gwaith cyfeillio, eirioli, y cyfryngau cymdeithasol neu weinyddu, yn ogystal â chynnal asesiadau cychwynnol o gleientiaid neu gwblhau gwaith monitro a gwerthuso. (Myfyrwyr ar gyrsiau cydnabyddedig yn unig sy’n ymgymryd â gwaith cwnsela cleientiaid, a hynny o dan oruchwyliaeth broffesiynol).

Mae gwirfoddolwyr sy’n ymgymryd â gwaith cyfeillio yn cael cwmni aelod o staff mewn cyfarfod cychwynnol a gynhelir mewn caffi neu fan cyhoeddus arall. Mae’r rheiny sy’n gwneud gwaith eirioli yn cwrdd â chleientiaid yn adeilad CCAWS. Cânt eu hannog i asesu’r hyn sydd ei angen ar gleient, i ymchwilio i opsiynau ac i weithio gyda’r cleient i ddod o hyd i ddatrysiad.

‘Gall gwirfoddoli fynd â chi o’ch man cyffyrddus,’ meddai Bilal Anjum, ein Swyddog Cefnogi Gwirfoddolwyr. ‘Ond rydyn ni yma i esbonio popeth i chi. Dim ond codi’r ffôn sydd angen.’

Mae myfyrwyr a fu’n gwirfoddoli trwy gynllun Insight Prifysgol Caerdydd wedi gadael eu marc. Fe gefnogodd Abi, er enghraifft, y grŵp wythnosol i fenywod a chynorthwyo i ddatblygu rhaglen 26 wythnos i’r grŵp. Aeth Gabby ati i greu cynnwys ar gyfer y dudalen Facebook, mewn perthynas â iechyd meddwl, cefnogaeth a lles yn benodol, a chychwynnodd Marlowe flogiau rheolaidd ar iechyd meddwl yn ogystal â datblygu cyfleuster i alluogi cefnogwyr i wneud cyfraniadau ar-lein i CCAWS.

Gwneud gwahaniaeth

Ers i’r gwasanaeth gael ei sefydlu 2 flynedd yn ôl, mae nifer y bobl sydd wedi’u cyfeirio atom wedi mwy na dyblu ac mae CCAWS wedi cefnogi cyfanswm o dros 1500 o gleientiaid.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi gwasanaethau’r GIG trwy ddarparu dull holistig o gefnogi iechyd meddwl yn y gymuned a mynd i’r afael ag achosion ysgafn i gymhedrol cyn iddynt fynd yn rhy ddifrifol. Mae hyn yn cynorthwyo i leihau’r gofyn enfawr ar y GIG, gan gynnwys amserau aros hir o chwe mis neu fwy am gwnsela ac yn galluogi’r GIG i ganolbwyntio ar anghenion mwy arbenigol,’ meddai Dr Meraj Hasan MBE, ymddiriedolwr a Seiciatrydd Ymgynghorol ‘Mae cleientiaid yn derbyn cwnsela trwy CCAWS, o fewn 6-8 wythnos fel arfer. Gallant gael mynediad iddo yn eu dewis iaith, sy’n hynod bwysig, yn enwedig pan yn trafod materion personol neu anodd,’ ychwanegodd.

Mae CCAWS yn ymateb i gleientiaid unigol, yn aml trwy wneud defnydd o fwy nag un o’r gwasanaethau a gynigir. Er enghraifft, cafodd dyn o Fangladesh ei gyfeirio am sesiynau cwnsela wedi i wasanaethau eraill yn y gymuned brofi’n aflwyddiannus. Derbyniodd wasanaeth cwnselydd CCAWS Bengalaidd. Roedd yr unigolyn hefyd yn geisiwr lloches a llwyddodd gwirfoddolwr eirioli i’w gynorthwyo i gasglu tystiolaeth i’w achos ac i gysylltu â chyfreithiwr. Roedd yn geisiwr lloches. Yn ogystal â sesiynau cwnsela a ddarparwyd gan gwnselydd CCAWS Bengalaidd, dynodwyd gwirfoddolwr eirioli iddo a lwyddodd i’w helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer ei achos a thrafod â’r cyfreithiwr.

Ymdrinnir â chymaint â phosibl o anghenion unigol. Er enghraifft, derbyniodd un cleient gefnogaeth er mwyn cael mynediad i driniaeth IVF, tra derbyniodd eraill gymorth gyda cheisiadau am gefnogaeth ariannol i gwrdd ag anghenion penodol.

Caiff cleientiaid eu monitro am orbryder ac iselder gan ddefnyddio dull cydnabyddedig, sy’n dangos yr effaith gadarnhaol ar eu lles meddyliol. Maent hefyd yn llenwi ffurflen gwerthuso gwasanaeth, sy’n helpu llunio datblygiad gwasanaethau CCAWS. Datblygwyd rhaglen gumunedol o weithdai ar reoli straen a hunanwerth, er enghraifft, yn dilyn adborth gan gleientiaid.

Heriau a gwersi a ddysgwyd

Fel mudiad gwirfoddoli yn y lle cyntaf, sydd bellach yn cyflogi 3 aelod o staff yn unig, mae CCAWS wedi dibynnu ar dîm angerddol, gweithgar ac ymroddgar i sefydlu a chyflenwi gwasanaeth dibynadwy ac effeithiol.

Disgrifia Bilal yr heriau a ddaeth i’w rhan wrth geisio cael y gwasanaeth ar ei draed. ‘Cyn hynny bûm yn wirfoddolwr gyda mudiad a gynigai gefnogaeth gyfrannol i gymunedau BAME (pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig) a Mwslimaidd, ond a aeth i’r wal oherwydd problemau cyllido. Roedd cleientiaid yn parhau i ddod atom, serch hynny, ac felly roedd buddiolwyr a gwirfoddolwyr yn benderfynol o weld y gwaith yn parhau. Dewisom yr enw newydd, a phenderfynom ganolbwyntio ein gwasanaethau ar gwnsela, cyfeillio ac eirioli.

Roedd angen delwedd newydd sbon arnom. Fe weithiom yn galed ar ddatblygu gwahanol strategaethau er mwyn denu gwirfoddolwyr, gan gadw mewn cof y gwahanol resymau sydd gan bawb dros wirfoddoli. Gall myfyrwyr gysylltu â ni ar-lein, er enghraifft, a gwnawn yn siŵr ein bod yn cynnig profiad gwerthfawr iddynt.

‘Cyn i ni gyflwyno unrhyw swyddi â thâl, cafodd tri llinyn y gwaith eu datblygu ar y cyd â gwirfoddolwyr. Fe ddatblygom gysylltiadau â Phrifysgol De Cymru a bellach mae myfyrwyr cwnsela ar leoliadau gyda ni yn rheolaidd.’

Mae Bilal, sy’n 22 mlwydd oed, yn fyfyriwr MBA llawn amser ac yn cael ei gyflogi i weithio fel Swyddog Cefnogi Gwirfoddolwyr. Fe gyfrannodd Bilal ei arbenigedd busnes i ddatblygiad strategol CCAWS, ac yn benodol i ddatblygiad y gwasanaethau cyfeillio ac eirioli.

Darllenwch gofnod Bilal o’i siwrnai wirfoddoli yn ei eiriau ei hun.

Effaith y Coronafeirws

Disgrifia Bilal Anjum effaith Covid 19 ar y gwasanaethau a ddarperir. ‘Mae swyddfa CCAWS wedi parhau ar agor gydol y cyfnod clo. Cafodd yr oriau eu lleihau ar y cychwyn ac erbyn hyn maen nhw wedi dychwelyd yn raddol i’r oriau arferol. Rydyn ni wedi parhau i ddarparu cefnogaeth eiriolaeth i’n cleientiaid ac mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn ffonio unigolion agored i niwed a’r rhai sy’n ynysig yn wythnosol i wneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn.

Cafodd y gwasanaeth cwnsela ei symud yn gyflym i blatfform ar-lein trwy ddefnyddio Zoom, yn ogystal â darparu gwasanaeth cwnsela dros y ffôn. Mae ein cynnwys Facebook wedi cael ei ddiweddaru’n gyson ac rydyn ni wedi creu cynnwys i helpu aelodau o’r gymuned i roi strategaethau ymdopi yn eu lle er mwyn lleihau straen a rheoli gorbryder. Mae ein cyrsiau   seicoaddysgiadol yn cael eu darparu ar-lein ac wedi derbyn adborth positif.

‘Mae’r math o atgyfeiriadau sy’n cael eu gwneud i CCAWS dipyn yn fwy cymhleth a difrifol na’r rhai a brofwyd gan y gwasanaeth cyn hyn. Rydyn ni wedi bod yn cyfeirio llawer mwy nag arfer o unigolion at feddygon teulu i gael asesiadau iechyd meddwl.’

Edrych tua’r dyfodol

‘Rydyn ni am gadw gwirfoddolwyr cyn hired â phosibl,’ meddai Bilal. ‘Gwnawn hynny trwy roi profiadau heriol iddynt, ond â digonedd o gefnogaeth, i’w galluogi i elwa’n llawn o fod yma. Carem feithrin llysgenhadon gwirfoddoli er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth yn y gymuned o’r hyn rydyn ni’n ei wneud a threfnu digwyddiadau a phrosiectau codi arian, er enghraifft, a charem ddatblygu hyfforddiant wedi’i achredu i’n gwirfoddolwyr.

‘Mae cynllunio olyniaeth i’r dyfodol yn hanfodol – sicrhau cyllid parhaus a pharhau i recriwtio gwirfoddolwyr i gwrdd â’r galw am wasanaethau. Carem dyfu fel mudiad – mewn adeilad mwy gallem groesawu mwy o gleientiaid. Ond byddwn yn cymryd pob gofal rhag cyfaddawdu’r diwylliant sydd gennym yma – diwylliant sy’n ymatebol ac yn gefnogol i gleientiaid a gwirfoddolwyr fel ei gilydd,’ ychwanegodd.

‘Rydyn ni’n ddiolchgar ac yn falch o’r gefnogaeth mae ein tîm o wirfoddolwyr wedi eu darparu, ac y byddant yn parhau i’w darparu, i unigolion agored i niwed yn ein cymunedau amrywiol.’

Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 CVC), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli er mwyn cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae tudalen Helplu/ Helpforce ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau, blogiau a straeon achos diweddar.                              

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy