Millie from FLVC sits at her computer as she delivers a webinar

Gwirfoddolwyr Sir y Fflint yn paratoi i gynorthwyo trigolion

Cyhoeddwyd : 09/04/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae cannoedd o breswylwyr Sir y Fflint yn paratoi i dderbyn hyfforddiant i’w cynorthwyo i fynd i’r afael â’r problemau a wynebir gan drigolion agored i niwed y sir yn wyneb y Coronafeirws.

Mae Cyngor Sir y Fflint ac FLVC (Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint), sy’n cydlynu gwirfoddolwyr yn yr ardal, yn cydweithio er mwyn sicrhau bod gan eu byddin newydd o wirfoddolwyr y cyfarpar sydd eu hangen arnynt er mwyn cynnig cymorth lle ceir y mwyaf o angen.

Gall gwirfoddolwyr ddisgwyl derbyn hyfforddiant i’w cynorthwyo i gyflawni tasgau a fydd yn cefnogi gwaith staff gofal cymdeithasol wedi’u lleoli yn Sir y Fflint. Gan fod pob mudiad o dan bwysau aruthrol, bydd y pecyn hyfforddi, a ddatblygwyd gan Arweinydd Diogelu Cyngor Sir y Fflint Jackie Goundrey, yn gymorth er mwyn sicrhau bod y rheiny sy’n agored i niwed yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt gan weithlu sy’n gyfuniad o staff gofal medrus a gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi.  (Bydd angen i wirfoddolwyr sy’n cynnig o’u hamser er mwyn cefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn y modd hwn ddarparu tystiolaeth o gliriad GDG (DBS) cyfredol a darparu geirdaon parthed eu haddasrwydd i’r rolau hanfodol hyn).

Mae nifer o rolau gwirfoddol eraill wedi’u datblygu gan grwpiau cymunedol newydd eu ffurfio, gan gynnwys tasgau megis paratoi a dosbarthu prydau bwyd, siopa am hanfodion, casglu a dosbarthu presgripsiynau a chynnig cefnogaeth dros y ffôn i’r rhai sydd mewn angen, wrth i effeithiau COVID-19 beri i nifer fod yn gaeth i’w cartrefi. Gall Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint (FLVC), yn unol ag aelodau eraill o Cefnogi Trydydd Sector Cymru, gynnig cefnogaeth o ran rheolaeth a chyllid gweithgarwch o’r fath a chynorthwyo i gysylltu cynigion o gymorth â cheisiadau am gymorth gan bartneriaid statudol.

Mae’r ymateb gan bobl sy’n awyddus i estyn llaw wrth i’r argyfwng hwn fynd rhagddo wedi arwain at gynnydd enfawr mewn gwirfoddolwyr newydd ledled Cymru, yn ogystal â gweddill y DU, gyda channoedd o filoedd o bobl yn cofrestru er mwyn chwarae’u rhan.

Dywedodd Ann Woods, Prif Swyddog FLVC, ‘fel Cyngor Gwirfoddol Sirol rydym yn parhau i helpu i gysylltu’r cannoedd ar gannoedd o gynigion am gymorth gan wirfoddolwyr ag anghenion cefnogi trigolion Sir y Fflint. Trwy weithio’n agos â’r Awdurdod Lleol, Heddlu Gogledd Cymru a chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd, gallwn gynorthwyo i symleiddio mynediad i gefnogaeth wirfoddol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn datblygu arfer ddiogel, yn sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl ac nad ydyn yn gwastraffu egni’r rhai sydd ynghlwm â’r broses.’

Gall unrhyw un sy’n dymuno gwirfoddoli wneud hynny trwy gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru/ Volunteering Wales – volunteering-wales.net, a gall unrhyw fudiad sydd angen gwirfoddolwyr bostio cyfleoedd i bobl gofrestru ar eu cyfer.

Os carech ddiweddariad dyddiol (Llun – Gwener) ar y newyddion COVID-19 diweddaraf i’r sector gwirfoddol yng Nghymru, gan gynnwys diweddariadau ar wirfoddoli a chyllid, cofrestrwch ar gyfer y newyddlen yma.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy