Mae adroddiad diweddar yn amlygu pwysigrwydd gwirfoddolwyr a chymorth cymunedol i bobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr.
YR ADRODDIAD
Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS) wedi rhyddhau adroddiad yn ddiweddar, Living well with dementia, yn amlygu pwysigrwydd gwirfoddolwyr a chymorth cymunedol i bobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr.
Gydag achosion o ddementia ar gynnydd, mae llawer o deuluoedd yn cael trafferth cael cymorth anfeddygol hanfodol. Noda arolwg yr RVS nad yw dros draean o’r rheini sy’n gofalu am anwyliaid yn cael fawr iawn o gymorth ar ôl diagnosis, gan adael llawer yn teimlo’n ‘ynysig ac wedi’u llethu’.
Dyma rai canfyddiadau eraill o’r adroddiad:
- Nid yw 37% o’r rhai sy’n rhoi gofal yn cael unrhyw help ar ôl diagnosis eu hanwyliaid, sy’n arwain at deimlo’n unig ac mewn trallod emosiynol.
- Mae 63% o’r rhai sy’n rhoi gofal yn chwilio am fwy o gymorth.
- Mynegodd bron un o bob pedwar (24%) awydd i wirfoddoli mewn grwpiau cymorth dementia.
- Gwelodd 81% o’r rheini a aeth i grwpiau cymorth welliannau yn hwyl, llesiant, awydd am fwyd ac iechyd corfforol eu hanwyliaid.
- Profodd 98% o’r rhai sy’n rhoi gofal a aeth i grwpiau cymorth fuddion fel cefnogaeth emosiynol ac ymdeimlad o gymuned.
Mae’r adroddiad yn amlygu sut mae rhaglenni cymunedol yn darparu seibiant a chysylltiad cymdeithasol. Mae’n galw am fwy o gyllid a gwirfoddolwyr i ehangu’r gwasanaethau cymorth dementia.
CEFNOGAETH AR GAEL
Mae’r RVS yn darparu grwpiau gweithgarwch a chymorth yng Nghymru a Lloegr, gan gynnig cymorth gwerthfawr i deuluoedd.
Mae stori Irene, a rennir yn yr adroddiad, yn dod â’r heriau hyn yn fyw. Fel rhywun a oedd yn rhoi gofal i’w gŵr â dementia, roedd hi’n teimlo wedi’i llethu ac ar ei phen ei hun, tan iddi ddod o hyd i grŵp cymorth dementia wythnosol a oedd yn cael ei redeg gan yr RVS. I Irene, roedd yn fwy na chefnogaeth; roedd yn achubiaeth.
Dywedodd: ‘Nid yw’n daith y dylai unrhyw un orfod ei hwynebu ar ei ben ei hun.’
Gyda 63% o rai sy’n rhoi gofal yn chwilio am fwy o gymorth, ni fu’r angen am adnoddau cymunedol hygyrch erioed mor glir i helpu unigolion a’u teuluoedd i lywio trwy fywyd â dementia.
Ar ôl colli ei gŵr yn 2022, canfu Irene ddiben newydd wrth wirfoddoli gyda’r un grŵp cymorth dementia a’i helpodd hi. Disgrifiodd ef fel modd o fynegi diolchgarwch a lledaenu ymwybyddiaeth a thosturi yn y gymuned ar yr un pryd – mae’n dangos nad yw grwpiau cymorth yn helpu’r rheini â dementia yn unig, ond hefyd y rheini sy’n gofalu amdanynt.
GWIRFODDOLI
Er bod datblygiadau meddygol yn helpu, mae rhwydweithiau cymunedol cryfach, mwy o gyllid a gwirfoddolwyr yn dyngedfennol i sicrhau nad oes unrhyw un yn wynebu dementia ar ei ben ei hun.
Mae gwirfoddoli yn chwarae rhan hanfodol mewn gwella llesiant cleifion â dementia a’r rhai sy’n rhoi gofal iddynt, gan gynnig cefnogaeth emosiynol, rhyngweithiad cymdeithasol a gwell ansawdd bywyd. Mae’r adroddiad yn amlygu’r angen am wasanaethau mwy hygyrch a yrrir gan y gymuned ac yn galw am fwy o gydweithio i ehangu’r ymdrechion hyn:
- Mynediad gwell – Mae llawer o wasanaethau cymorth wedi’u lleoli’n bell o’r rheini sydd eu hangen, gan eu gwneud nhw’n anodd eu cyrraedd.
- Gallai ehangu mentrau a arweinir gan wirfoddolwyr helpu i ddod â gwasanaethau yn agosach at gymunedau lleol.
- Ehangu cyfleoedd i wirfoddolwyr o fewn y maes gofal dementia.
AM RAGOR O WYBODAETH
Am ragor o wybodaeth am iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ewch i dudalen prosiect Iechyd a Gofal CGGC.
*Saesneg yn unig