Grŵp o oedolion yn eistedd mewn cylch ac yn cael trafodaeth ar iechyd meddwl

Gwirfoddolwyr mewn gwasanaethau iechyd meddwl

Cyhoeddwyd : 25/04/25 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae gwirfoddolwyr â phrofiad bywyd o iechyd meddwl yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae prosiect peilot un mlynedd ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Aneurin Bevan ar hyn o bryd, gyda chymorth grant gan ein prosiect Helplu Cymru a help arbenigol gan Helpforce y DU* i ddylunio’r prosiect a gwerthuso’r effaith.

ADEILADU AR DDATBLYGIADAU BLAENOROL

Nod y prosiect yw recriwtio ac integreiddio mwy o wirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl a mwy o wirfoddolwyr â phrofiad bywyd o iechyd meddwl.

Gwnaeth Helplu gefnogi gwaith blaenorol a sefydlodd lwybr gwirfoddoli i yrfa fel rhan o’r cynnig gwirfoddoli generig. Rhagwelwyd y gellid cysylltu hwn â gwirfoddoli iechyd meddwl, gan alluogi gwirfoddolwyr i edrych ar amrediad o opsiynau gyrfaol a’u dilyn os oeddent yn dymuno.

Dywedodd y Rheolwr Prosiect, Kathryn Thomas:

‘Mae hwn yn gyfle da iawn i ni adeiladu ar yr hyn rydym eisoes wedi’i wneud – i ehangu amrywiaeth ein gwirfoddolwyr ymhellach, i gyflwyno gwirfoddolwyr i mewn i feysydd clinigol newydd ac i ehangu ein llwybr o wirfoddoli i yrfa.’

CREU ROLAU PRIODOL

Gwnaeth sgyrsiau â chydweithwyr mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu i oedolion amlygu rhai risgiau a heriau, fel ‘sbardunau’ i wirfoddoli gyda hanes o broblemau iechyd meddwl a lefel y cymorth y byddai ei angen.

Cytunwyd, fodd bynnag, y gallai mesurau priodol gael eu rhoi ar waith, fel cyd-ddarparu gweithgareddau gydag aelod staff, neu alluogi gwirfoddolwyr i siarad am bethau sydd wedi digwydd, dros y ffôn, gydag aelod o’r tîm gwirfoddoli. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r pryderon a godwyd yn rhwystrau i gynnwys gwirfoddolwyr mewn lleoliadau clinigol iechyd meddwl.

Y rôl wirfoddoli gyntaf, a hawddaf, i’w rhoi ar waith oedd ar wardiau iechyd meddwl i bobl hŷn, lle mae gwirfoddolwyr yn ymhél â chleifion mewn gweithgareddau ystyrlon.

ARBENIGWYR TRWY BROFIAD

Yn y cyfamser, mae rôl wirfoddoli newydd wedi’i chymeradwyo, Gwirfoddolwr Iechyd Meddwl Arbenigwr trwy Brofiad. Mae hon yn addas i unigolion sy’n graddio o Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT) a rhaglenni ymddygiadol eraill ac sy’n dymuno defnyddio’u profiad i helpu pobl eraill.

Bydd Arbenigwyr trwy Brofiad Gwirfoddol yn mynd i sesiynau grŵp therapi ymddygiadol dros gyfnod o chwe wythnos neu ragor ac yn cefnogi’r hwylusydd Seicolegydd drwy gyfrannu at drafodaethau o safbwynt eu profiadau eu hunain.

Mae rolau gwirfoddoli eraill yn cael eu hystyried.

ADEILADU CYSYLLTIADAU A LLWYBRAU

Nod y prosiect yw adeiladu llwybrau atgyfeirio cynaliadwy, gan dargedu’r rheini a allai gael y budd mwyaf o wirfoddoli.

Mae cysylltiadau wedi’u meithrin â phartneriaid allanol i hybu buddion gwirfoddoli er mwyn magu hyder a datblygu i gael swydd neu fynd i addysg bellach.

Gwnaeth canolfan waith Glynebwy, er enghraifft, gynnig cynnal sesiwn wedi’i theilwra wedi’i thargedu at y rheini â phroblemau iechyd meddwl. Llwyddodd staff y prosiect i siarad am wirfoddoli, ateb cwestiynau a sicrhau pobl ynghylch yr hyn sy’n gysylltiedig.

PARTNERIAID GWEITHREDOL ERAILL

Mae Platfform yn gweithio gyda phobl sy’n profi heriau iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder ac anableddau dysgu. Mae wedi dod yn bartner gweithredol, nid yn unig trwy atgyfeirio unigolion, ond hefyd drwy gadw mewn cysylltiad parhaus â nhw i roi cymorth ychwanegol.

Mae’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)* a Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (TVA)* – wedi croesawu’r cyfle i atgyfeirio unigolion, gan wybod y byddant yn cael eu cefnogi’n dda ac yn cael cyfleoedd i ddatblygu’n bersonol a gwneud cynnydd.

Mae rôl ‘mentor cymheiriaid’ wedi’i chyflwyno’n ddiweddar gan y Bwrdd Iechyd a chaiff gwirfoddolwyr eu hannog a’u cefnogi i ymgeisio pan fo’n briodol. Mae rolau lefel mynediad eraill â thâl wrthi’n cael eu hystyried.

MESUR Y GWAHANIAETH

Mae fframwaith gwerthuso prosiect yn ei le sy’n cynnwys arolygon adborth gan gleifion, gwirfoddolwyr a staff. Mae poster wedi’i ddylunio, sy’n cynnwys cod QR i gyrraedd yr arolygon a chofnodir adborth yn barhaus.

Mae cwestiynau’r arolwg yn adlewyrchu’r gwahaniaeth y disgwylir i’r prosiect ei wneud. Er enghraifft, a yw gwirfoddolwyr yn ennill sgiliau a hyder? A ydynt yn datblygu diddordeb mewn gyrfa yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol neu’n cymryd camau tuag at ddatblygu hyn drwy hyfforddiant neu gyflogaeth? A yw cleifion yn profi llesiant emosiynol gwell ac a ydynt yn fodlon â chysylltiad y gwirfoddolwyr? A yw aelodau’r staff yn gweld gwirfoddolwyr ar newydd wedd ac a yw gwirfoddolwyr yn effeithio ar lwyth gwaith staff?

Mae’r canlyniadau eraill i’w hystyried yn cynnwys y gwelliannau sydd wedi’u gwneud i wasanaethau, y gwerth arbennig y gall profiadau bywyd gwirfoddolwyr ei gyflwyno a nifer y gwirfoddolwyr sy’n datblygu i wneud hyfforddiant pellach neu gael gwaith.

DECHRAU POSITIF

Nod y prosiect yw recriwtio o leiaf 15 o wirfoddolwyr er mwyn cael gwerthusiad ystyrlon. Ar ôl y chwe mis cyntaf, roedd chwe gwirfoddolwr yn weithredol, sy’n ddechrau positif. Mae gan bob un ohonynt brofiad uniongyrchol neu anuniongyrchol (drwy bartneriaid neu aelodau o’r teulu) o iechyd meddwl.

Bydd y cysylltiadau a fydd yn cael eu gwneud â mudiadau cymunedol yn galluogi ail garfan i gael ei recriwtio.

Mae’r adborth gan wirfoddolwyr hyd yma wedi bod yn galonogol. Dywedodd un gwirfoddolwr:

‘Cydiais mewn llyfr Memories of Ebbw Vale, i edrych arno gyda “J”. Roedd y claf yn dwli arno a darllenais y capsiynau o dan y lluniau. Ymweliad pleserus iawn.’

AM RAGOR O WYBODAETH

Mae gwasanaeth mewnwelediad ac effaith Helpforce* yn cynnig proses o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer gwerthuso gwirfoddoli, gan eich helpu chi i gasglu’r dystiolaeth sydd ei hangen i ddangos bod eich gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth yn y maes iechyd a gofal.

Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

*Saesneg yn unig

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy